Ein strategaeth caffael a chontractau 2026-2031
Crynodeb gweithredol
Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yw natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd.
Wrth i ni wynebu heriau amgylcheddol a chymdeithasol digynsail, rhaid i ni flaenoriaethu atebion sy’n cael effaith.
Mae’r strategaeth hon yn darparu fframwaith ar gyfer caffael rhagweithiol, grantiau, cytundebau a chyflawni contractau yn erbyn tua £100 miliwn o wariant y gellir dylanwadu arno sy’n cyfrannu at ein hamcanion llesiant.
Mae’n gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y swyddogaeth caffael a chontractau a’n cydweithwyr, gan roi golwg glir i sefydliadau, cyflenwyr, partneriaid a grantiau eraill o’n blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Bydd pob gweithgaredd caffael a chontract, wedi’u cynllunio ac yn adweithiol, yn cyd-fynd â’n Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 a’n Datganiad Llesiant, gan fodloni gofynion deddfwriaethol sy’n llywodraethu £11.4 biliwn o wariant blynyddol y sector cyhoeddus ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith ledled Cymru.
Ein huchelgais yw cryfhau gwerth amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol a thrwy bum thema strategol allweddol ac amrywiaeth o fecanweithiau cytundebol, byddwn yn ceisio lliniaru risg wrth wario arian cyhoeddus.
Ein prif ffocws yw diogelu’r amgylchedd ond cefnogir hyn yn gryf drwy bwyslais ar waith teg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a lliniaru risg caethwasiaeth fodern a masnachu pobl, wedi’i ategu gan lywodraethu cadarn ac egwyddorion gwerth am arian.
Gan ddefnyddio ein traciwr camau gweithredu caffael a chontractau, byddwn yn monitro ein cynnydd i fesur ein llwyddiant yn erbyn y strategaeth, gyda’r nod terfynol o sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru.
Ein themâu strategol
- Cynaliadwyedd a chydnerthedd bioamrywiaeth
- Gwaith teg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Atal caethwasiaeth fodern
- Gwerth am arian
- Llywodraethu, cydymffurfedd ac arloesi
Ein cylch gwaith
Mae’r swyddogaeth caffael a chontractau yn galluogi defnydd cydymffurfiol, effeithlon a hyblyg o arian cyhoeddus ar draws caffael, grantiau, cytundebau a rheoli contractau. Gan gefnogi ein hamcanion llesiant, rydym yn darparu llwybrau clir i ymgysylltu, yn grymuso cydweithwyr trwy brosesau llywodraethu cadarn, ac yn gyrru gwelliant parhaus i sicrhau gwerth, sicrwydd ac atebolrwydd ym mhob gweithgaredd contract yn gymesur.
Caffael
Mae caffael yn arwain y gwaith o gaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac yn goruchwylio gwariant dylanwadol o tua £85 miliwn. Gan weithredu o dan ddeddfwriaeth gaffael Cymru a’r DU, rydym yn galluogi cyflawniad strategol trwy ddull rheoli categori, gan sicrhau cyflenwad cynaliadwy, sy’n gyfrifol yn gymdeithasol ac sy’n ymwybodol o risg i ddiwallu anghenion busnes y presennol a’r dyfodol.
Y Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau
Mae’r Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau yn darparu cyngor ac arweiniad â ffocws, gan gefnogi ein rheolwyr contractau/fframwaith a’n swyddogion grantiau i sicrhau’r gwerth mwyaf posibl. Maent yn goruchwylio’r gwaith o reoli contractau yn annibynnol, gan sicrhau cydymffurfedd a sicrwydd yn erbyn amrywiaeth o fecanweithiau contract. Yn ogystal, mae'r Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau yn hyrwyddo arferion gorau, rheoli amrywiadau, a chasglu data a gwybodaeth sy’n cipio’r manteision a wireddwyd o’n cytundebau.
Grantiau a Chytundebau
Mae Grantiau a Chytundebau yn cefnogi’r gwaith o reoli’r trefniadau a ariennir yn allanol mewn ffordd sy’n cydymffurfio ac sy’n gyson, sef oddeutu £6 miliwn ar draws CNC. Yn dilyn ei integreiddio i’r swyddogaeth caffael a chontractau ym mis Ebrill 2025, bydd y tîm yn parhau i wella goruchwyliaeth a phrosesau, gan alinio ein mecanweithiau cytundebol â blaenoriaethau sefydliadol a sicrhau gwerth a llwyddiant cynaliadwy.
Yn erbyn cymysgedd o adnoddau mewnol ac adnoddau a brynir yn allanol, byddwn yn defnyddio amrywiaeth o fecanweithiau cytundebol a chytundebau cydweithredol gan gynnwys gweithdrefnau caffael, trefniadau llorweddol, grantiau, partneriaethau, a chytundebau rheoli tir. Ein nod yw cyflawni'n llwyddiannus yn erbyn ein hamcanion llesiant a'n huchelgeisiau ehangach sydd â'r nod o ddiogelu'r amgylchedd a phobl Cymru.
Ein gweledigaeth a’n datganiad cenhadaeth
Gweledigaeth Caffael a Chontractau yw sicrhau bod ein holl wariant cyhoeddus yn cael ei alinio’n strategol, yn gymdeithasol gyfrifol, ac yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth mwyaf posibl i’r amgylchedd. Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, mae ein Datganiad Cenhadaeth Caffael a Chontractau yn hanfodol wrth roi ffocws ar sut rydym yn gwireddu ein huchelgeisiau. Isod mae hanfodion ein datganiad cenhadaeth.
Ein cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw defnyddio ein harbenigedd cyfunol, ein harweinyddiaeth strategol, a’n dylanwad masnachol ar draws caffael, rheoli contractau, a Grantiau a Chytundebau i helpu i gyflawni ein hamcanion llesiant a chydymffurfio â deddfwriaeth, gofynion a gyrwyr ehangach. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddarparu gwasanaethau sy’n cydymffurfio ac sy’n cael eu gyrru gan werth a meithrin ymgysylltiad a chydweithrediad cryf â rhanddeiliaid ledled y sefydliad a thu hwnt.
Arweinyddiaeth a chyfeiriad
Darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad effeithiol i gefnogi ein gweledigaeth, ein gwerthoedd a’n hamcanion lles corfforaethol
Caffael a rheoli contractau yn strategol
Defnyddio pŵer caffael yn ddoeth ac yn strategol, gan ddarparu gwasanaeth effeithlon o’r dechrau i’r diwedd
Ysgogi newid cynaliadwy ac arloesol
Cael ein cydnabod fel galluogwr dibynadwy ar gyfer cytundebau contractiol cynaliadwy, arloesol a modern
Gwasanaethau cwsmeriaid da
Darparu gwasanaeth cwsmeriaid sy’n addas at y diben, sy’n dilyn arferion da ac sy’n cydymffurfio
Ein taith hyd yn hyn
Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi llywio heriau anodd, fel y pandemig, yr argyfwng hinsawdd, gwrthdaro byd-eang, a chadwyni cyflenwi amharedig. Creodd y pwysau allanol hyn amgylchedd anwadal ar gyfer caffael a chontractau ond er gwaethaf y rhwystrau hyn, gwnaeth caffael a chontractau gyfraniad sylweddol at nifer o brosiectau a rhaglenni llwyddiannus. Nid yn unig o ran cyflawni ond o ran y gwelliannau i’r gwasanaeth sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cydweithwyr.
Dyma enghreifftiau o gyfraniad cyflawni caffael a chontractau dros y pum mlynedd diwethaf:
Fframwaith Seilwaith Coedwigoedd
Cytundeb gwerth £36 miliwn sy’n galluogi cynaeafu coed cynaliadwy, swyddi gwledig, lleihau carbon, a gweithgarwch hamdden ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Dyfarnwyd £5.1 miliwn o gyllid i bartneriaid yn y sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector ers 2022 er mwyn helpu i adfer mawndiroedd gwerthfawr. Cafodd cannoedd o hectarau o fawndir eu hadfer er mwyn gwella storio carbon, bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr.
Llwybr Arfordir Cymru
Dyfarnwyd £3.8 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol Cymru ers 2022 i helpu i gynnal, gwella a rheoli Llwybr Arfordir Cymru – gan helpu i gysylltu pobl â natur, annog hamdden awyr agored a gwella llesiant.
Fframwaith Adfer Afonydd
Cafwyd cytundeb gwerth £17 miliwn i helpu i adfer prosesau naturiol, nodweddion a bioamrywiaeth afonydd, coridorau glannau afonydd a gwlyptiroedd.
Drwy fecanweithiau contractiol datblygedig a diweddarwyd yn rheolaidd, mae’r swyddogaeth caffael a chontractau yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau y gallwn gyflawni canlyniadau cynaliadwy.
Cyflawni ein gweledigaeth: Y themâu
Bydd cyflawniad llwyddiannus yn erbyn ein themâu strategol yn dangos cynnydd cadarnhaol ac ystyrlon dros y pum mlynedd nesaf. Drwy gydweithio ar draws y swyddogaeth caffael a chontractau, mewn partneriaeth ag arbenigwyr technegol o fewn a thu allan i’n sefydliad, bydd gennym ffocws cyson ar y themâu a sut maen nhw’n bwydo i’n hamcanion llesiant.
Lle bo’n berthnasol, bydd y themâu’n cael eu cefnogi gan bolisïau penodol; byddwn yn defnyddio’r themâu i wneud gwahaniaeth sylweddol i Gymru, gan ddangos tystiolaeth o gydymffurfedd lawn â’r ddeddfwriaeth a’r gyrwyr sy’n dangos cyfrifoldeb corfforaethol a chymdeithasol.
Cynaliadwyedd a chydnerthedd bioamrywiaeth
Mae ein strategaeth gaffael yn rhoi rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol wrth ei chraidd, gan sbarduno adferiad natur, gwella ein gwydnwch i newid hinsawdd, a lleihau llygredd. Bydd ein hymdrechion yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy, gan sicrhau bod ein cadwyni cyflenwi a’n partneriaid yn mynd ati i gefnogi adferiad amgylcheddol a defnyddio adnoddau yn gyfrifol. Er mai cynaliadwyedd a chydnerthedd bioamrywiaeth yw ein prif thema, bydd y themâu eraill sy’n canolbwyntio ar waith teg a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, atal caethwasiaeth fodern, gwerth am arian, a llywodraethu, cydymffurfedd ac arloesi yn dangos ein cynnydd yn erbyn meysydd allweddol eraill, gan greu dull cyfannol o ymdrin â llesiant a pherfformiad.
Mae ein cyfraniad at ein hamcanion llesiant eisoes yn cael ei deimlo trwy ein gwaith agos gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad ac rydym eisoes wedi gwneud addewidion yn erbyn ein cynllun corfforaethol er mwyn cael effaith gadarnhaol gyda’n hymrwymiadau cyfredol a ddangosir isod:
Amcan llesiant 1: Mae natur yn gwella
Sicrhau bod adferiad natur yn cael ei ysgogi drwy gydol ein cadwyni cyflenwi, rhaglenni grant a chytundebau rheoli tir drwy eu cynnwys yn ein fframweithiau caffael a chyllid.
Amcan llesiant 2: Mae cymunedau'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
Sicrhau bod camau gweithredu ar gyfer yr hinsawdd yn cael eu gweithredu ym mhob rhan o’n cadwyni cyflenwi, ein rhaglenni grant a’n cytundebau rheoli tir drwy eu cynnwys yn ein fframweithiau caffael a chyllid.
Amcan llesiant 3: Llygredd yn cael ei leihau hyd yr eithaf
Sicrhau bod camau gweithredu ar leihau llygredd yn cael eu hysgogi ar draws ein cadwyni cyflenwi, rhaglenni grant a chytundebau rheoli tir drwy eu cynnwys yn ein fframweithiau caffael a chyllid.
Cyfeiriwch at ein polisi Caffael a Chontractau Cyfrifol yn Gymdeithasol (i'w gyhoeddi yn 2026/2027) am ragor o wybodaeth.
Gwaith teg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Bydd ein strategaeth gaffael yn ymgorffori egwyddorion gwaith teg a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein cytundebau, gan sicrhau bod arferion cyflogaeth ar draws ein cadwyni cyflenwi, grantiau a chytundebau yn foesegol a chynhwysol, gan sicrhau bod lles, iechyd a diogelwch yn parhau i fod yn hollbwysig
Byddwn yn hyrwyddo amrywiaeth drwy greu cyfleoedd i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a chael gwared ar rwystrau i gyfranogiad, wrth hyrwyddo gwaith diogel, sicr a chyflog teg. Drwy ymgysylltu’n rhagweithiol a chaffael sy’n gymdeithasol gyfrifol, byddwn yn helpu i adeiladu economi gadarn sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd moesegol.
Cyfeiriwch at ein polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant am ragor o wybodaeth.
Atal caethwasiaeth fodern
Byddwn yn mabwysiadu dull dim goddefgarwch tuag at gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ein darpariaeth. Ein huchelgais yw arwain trwy esiampl, gan ddefnyddio dulliau arfer da, diwydrwydd dyladwy cadarn ac adolygiadau rhanddeiliaid er mwyn nodi a dileu risg.
Bydd ein cytundebau’n adlewyrchu ein hymrwymiad i arferion moesol, gyda’r nod o sicrhau nad yw ein harian cyhoeddus byth yn cefnogi arferion anfoesol a bod hawliau dynol yn cael eu cynnal ar draws ein holl feysydd cyflawni.
Cyfeiriwch at ein Datganiad Caethwasiaeth Fodern am ragor o wybodaeth.
Gwerth am arian
Bydd ein strategaeth yn darparu’r gwerth gorau posibl drwy gydbwyso cost, ansawdd, amser a manteision cynaliadwy yn ôl yr angen. Byddwn yn canolbwyntio ar werth oes gyfan, gan sicrhau bod yr arian a wariwn yn cyfrannu at ein hamcanion llesiant a chanlyniadau cynaliadwy hirdymor.
Drwy gefnogi busnesau bach a chanolig a’r trydydd sector drwy hyrwyddo cyfleoedd contractio perthnasol, gallwn wneud y mwyaf o wariant cyhoeddus gan fod yn dryloyw yn ein trafodion busnes.
Llywodraethu corfforaethol, cydymffurfedd ac arloesi
Yn erbyn ein gwerthoedd, byddwn yn cynnal y safonau uchaf o lywodraethu a chydymffurfedd, gan sicrhau tryloywder, uniondeb ac atebolrwydd yn ein gweithgareddau caffael, grantiau, cytundebau a rheoli contractau. Ar yr un pryd, byddwn yn meithrin diwylliant o arloesedd, gan gofleidio technolegau newydd, dulliau hyblyg, ac atebion creadigol er mwyn cyflawni canlyniadau gwell, gan wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg drwyddi draw.
Bydd y thema hon yn rhoi ystyriaeth briodol i ofynion deddfwriaethol eraill, megis llesiant, iechyd a diogelwch, y Gymraeg a rhwymedigaethau cyfreithiol eraill sy’n dylanwadu ar y cytundebau a roddwn ar waith.
Sut byddwn ni’n gwneud iddo ddigwydd
Er mwyn cyflawni’r strategaeth hon yn llwyddiannus byddwn yn cofleidio newid deddfwriaethol, gan gynnwys Deddf Caffael (2023) a dyletswyddau cymdeithasol gyfrifol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (2023).
- Byddwn yn hyrwyddo egwyddorion economi gylchol ar draws pob mecanwaith gwario, gan flaenoriaethu deunyddiau wedi’u hailgylchu, ailddefnyddio a lleihau gwastraff.
- Mae ein strategaeth yn cefnogi busnesau bach a chanolig a busnesau lleol yn weithredol, gan greu cyfleoedd cynhwysol a phrosesau symlach. Byddwn hefyd yn defnyddio offer digidol a gwybodaeth reoli i wneud y gorau o wariant, monitro perfformiad a lliniaru risgiau.
- Bydd cydweithio â chyrff sector cyhoeddus Cymru yn galluogi cyrchu a chyflenwi ar y cyd, tra bydd arloesedd yn cael ei hyrwyddo trwy ddulliau cytundebol hyblyg.
- Bydd ystyriaethau llesiant, gwerth cymdeithasol, datgoedwigo a chanlyniadau sy’n gwella cymunedau yn cael eu hymgorffori mewn cytundebau perthnasol, gan ystyried gwella cynaliadwyedd ac effeithiau cadarnhaol yn erbyn dull tystiolaethu cadarn.
- Bydd integreiddio’r tîm Grantiau a Chytundebau i’r gyfarwyddiaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Masnachol yn sbarduno cysondeb yn y gwasanaeth ar draws y swyddogaeth caffael a chontractau a’r mecanweithiau cytundebol sydd ar gael.
- Mae cynaliadwyedd yn parhau i fod yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae lleihau ein hallyriadau Cwmpas 3 yn parhau i fod yn flaenoriaeth, tra hefyd yn gwella ein ffocws ar ganlyniadau natur a bioamrywiaeth drwy ein trefniadau cytundebol.
Bydd y camau gweithredu hyn yn sicrhau bod caffael a chontractau yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni targedau Sero Net ar gyfer Cymru a gyrru gwelliannau amgylcheddol eraill drwy ein cadwyni cyflenwi a chyda’n partneriaid.
Yr offer i lwyddo
- Cydbwyso risg a chyfle i greu lle ar gyfer arloesedd ac atebion caffael a chontractau creadigol.
- Bydd adolygu a/neu greu polisïau newydd yn rheolaidd sy’n cyd-fynd â’n themâu allweddol yn sicrhau ffocws clir a chyson ar y mentrau sydd bwysicaf.
- Bydd prosesau a throthwyon caffael a rheoli contractau diwygiedig yn grymuso ein cydweithwyr, gan wella effeithlonrwydd.
- Bydd strategaethau rheoli yn ôl categori yn sicrhau ein bod yn targedu llwyddiant ar draws y meysydd gwariant pwysicaf.
- Bydd mecanweithiau contract newydd neu well i’w defnyddio gan ein rheolwyr contractau a fframwaith yn ein gwneud yn fwy addasadwy.
- Bydd mwy o hyfforddiant ac addysg ar gaffael, grantiau, cytundebau a rheoli contractau yn gwella gwybodaeth.
- Mae cymhwyso manylebau sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn symud y ffocws o fewnbynnau i ganlyniadau, gan annog cyflenwyr i ddarparu atebion creadigol a chynaliadwy.
- Gwybodaeth reoli well ar gyfer mewnwelediadau a rheoli perfformiad amserol a chywir, gan alluogi gwneud penderfyniadau a rheoli risg gwell.
Rheoli risg a sganio’r gorwel
Rydym yn cydnabod bod y dirwedd caffael a chontractau yn cael ei llunio gan ffactorau micro a macro-economaidd rhagweladwy ac annisgwyl fel ei gilydd.
Mae ein strategaeth yn cofleidio dull rhagweithiol ac addasol o reoli risg, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod yn wydn ac yn ymatebol i gyfleoedd a bygythiadau cymdeithasol a byd-eang sy’n dod i’r amlwg. Drwy sganio’r gorwel yn barhaus, byddwn yn cynnal yr hyblygrwydd i ailffocysu ac esblygu ein ffyrdd o weithio wrth barhau i gydymffurfio a chyflawni’n gyson yn erbyn ein cynllun corfforaethol a’n rhwymedigaethau statudol.
Byddwn yn gweithio o fewn paramedrau ein harchwaeth sefydliadol am risg, gan gymryd camau gweithredu, dulliau gweithredu a phenderfyniadau gyda lefel briodol o risg, gan gydbwyso camau gweithredu sy’n debygol o gyfrannu at gyflawni ein nodau yn erbyn y risgiau cynhenid yn ein gweithgareddau.
Byddwn yn meithrin diwylliant o greadigrwydd ac arloesedd, gan rymuso ein tîm a’n cydweithwyr i fod yn uchelgeisiol yn eu syniadau a’u gweithredoedd. Byddwn yn feiddgar wrth roi cynnig ar ddulliau newydd, ac os nad ydynt mor llwyddiannus â’r ffordd y’u cynlluniwyd, byddwn yn eu hystyried yn gyfleoedd dysgu gwerthfawr sy’n cryfhau ein sefydliad.
Ac wrth i ni geisio gweithio’n agosach gyda phartneriaid allanol drwy amrywiaeth o fecanweithiau cytundebol, byddwn yn gwneud hynny gydag asesiad a dealltwriaeth glir o’r risgiau sy’n gysylltiedig â sianelu ein gwariant drwy ffurfiau newydd neu well o grantiau a chytundebau a fydd ar gael.
Drwy gynnal dull o wariant cyhoeddus sy’n seiliedig ar risg, byddwn yn dangos gwerth am arian gan barhau i fod yn agored i syniadau beiddgar sy’n sbarduno gwelliant a thrawsnewid.
Ein dull o gaffael cymdeithasol gyfrifol
Beth yw caffael cymdeithasol gyfrifol?
“Y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant.”
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Rydym wedi ymrwymo i fod yn gymdeithasol gyfrifol ar draws ein holl weithgarwch. Mae’r ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol yn ei gwneud yn ofynnol i’n contractau, ein fframweithiau a’n cytundebau gyflawni canlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cadarnhaol, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Byddwn yn gosod amcanion sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, sy’n cyd-fynd â’n themâu strategol ac sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni ein cynllun corfforaethol. Bydd yr amcanion yn cael eu hadolygu’n flynyddol, gyda pherfformiad yn cael ei fonitro a’i fesur yn unol â Deddf Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (2023).
Bydd ein dull o ymdrin â chaffael cymdeithasol gyfrifol yn gymesur, gan ystyried gwerth y contract, cymhlethdod a risg. Ar gyfer caffaeliadau rhagnodedig, gan gynnwys contractau adeiladu ac allanoli mawr, bydd CNC yn ymgorffori dulliau cyfrifol yn gymdeithasol yn ein prosesau. Ar gyfer contractau eraill, byddwn yn nodi risgiau a chyfleoedd allweddol i wella llesiant ar wahanol gamau o gylchred oes y broses gaffael, mewn ffordd ystyriol.
Drwy ymgorffori dulliau caffael cymdeithasol gyfrifol yn ein strategaeth a’n darpariaeth weithredol, byddwn yn sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn darparu’r gwerth mwyaf i Gymru, yn cefnogi cyfrifoldeb byd-eang, ac yn cyfrannu’n uniongyrchol at saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd yr amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol yn cael eu hadolygu’n flynyddol er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau’r sefydliad, gan sicrhau ein bod yn parhau i weithredu yn unol â’n hamcanion lles.
Mae egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio wedi’u hymgorffori yn ein prosesau gwneud penderfyniadau, gan ein galluogi i gyflawni manteision hirdymor trwy ddulliau cydweithredol a chynhwysol.
- Atal
- Integreiddio
- Hirdymor
- Cydlafurio
- Cynnwys
Ein hamcanion caffael cymdeithasol gyfrifol
Isod mae’r wyth amcan caffael cymdeithasol gyfrifol y byddwn yn eu cyflawni o dan y strategaeth hon. Mae rhagor o fanylion am bob amcan wedi’u cynnwys yn ein polisi Caffael a Chontractau Cymdeithasol Gyfrifol (i’w gyhoeddi yn ystod 2026/2027).
|
Ein themâu |
Cynaliadwyedd a chydnerthedd bioamrywiaeth |
Cynaliadwyedd a chydnerthedd bioamrywiaeth |
Cynaliadwyedd a chydnerthedd bioamrywiaeth |
Gwerth am arian |
|---|---|---|---|---|
|
Canlyniadau llesiant |
Amgylcheddol |
Amgylcheddol |
Amgylcheddol |
Casglu gwybodaeth |
|
Ein hamcanion caffael cymdeithasol gyfrifol |
Mae natur yn gwella (amcan llesiant 1): Sicrhau bod adferiad natur yn cael ei ysgogi drwy gydol ein cadwyni cyflenwi, rhaglenni grant a chytundebau rheoli tir drwy eu cynnwys yn ein fframweithiau caffael a chyllid. |
Mae cymunedau’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd (amcan llesiant 2): Sicrhau bod camau gweithredu ar gyfer yr hinsawdd yn cael eu gweithredu ym mhob rhan o’n cadwyni cyflenwi, ein rhaglenni grant a’n cytundebau rheoli tir. |
Llygredd yn cael ei leihau hyd yr eithaf (amcan llesiant 3): Sicrhau bod camau gweithredu ar leihau llygredd yn cael eu hysgogi ar draws ein cadwyni cyflenwi, rhaglenni grant a chytundebau rheoli tir. |
Cefnogi economi Cymru: Hyrwyddo egwyddorion yr economi gylchol a chefnogi ein heconomi leol drwy ymgysylltu â busnesau bach a chanolig, a sefydliadau’r trydydd sector i sbarduno mwy o gyflogaeth leol. |
|
Nodau llesiant y cyfrannwyd atynt |
|
|
|
|
|
Ein themâu |
Gwaith teg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant |
Gwaith teg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant |
Atal caethwasiaeth fodern |
Llywodraethu, cydymffurfedd ac arloesi |
|---|---|---|---|---|
|
Canlyniadau llesiant |
Cymdeithasol |
Cymdeithasol |
Cymdeithasol |
Diwylliannol |
|
Ein hamcanion caffael cymdeithasol gyfrifol |
Gwaith teg: Mewnblannu arferion gwaith teg drwy ein cadwyni cyflenwi, rhaglenni grant a chytundebau rheoli tir. |
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant: Cynyddu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy gael gwared ar rwystrau, hyrwyddo hunaniaethau amrywiol a chreu cyfleoedd i grwpiau difreintiedig. |
Atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl: Cryfhau ein dulliau o nodi a lliniaru risg caethwasiaeth fodern a masnachu pobl drwy ein cadwyni cyflenwi, rhaglenni grant a chytundebau rheoli tir. |
Hyrwyddo diwylliant bywiog, treftadaeth a’r iaith Gymraeg: Hyrwyddo diwylliant Cymru, treftadaeth Cymru, a’r iaith Gymraeg drwy’r contractau a’r cytundebau a sefydlwn. |
|
Nodau llesiant y cyfrannwyd atynt |
|
|
|
|
Ymgysylltu, cydweithio a hyrwyddo
Mae ein gwaith amrywiol yn gofyn am osod ystod o gontractau a chytundebau ar draws gwahanol gategorïau a meysydd busnes. Er mwyn cynorthwyo CNC i gyflawni ein hamcanion llesiant, rhaid i gaffael a chontractau gydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol; dyma’r unig ffordd y gallwn sicrhau’r canlyniadau cadarnhaol gorau posibl i Gymru.
Daw llwyddiant yn sgil rhannu gwybodaeth a dysgu gan eraill, yn enwedig y rhai sydd ag arbenigedd neu brofiad sy’n cyd-fynd â’n nodau. Mae ymgysylltu, cydweithio a hyrwyddo yn allweddol i gyflawni ein hamcanion a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ledled y DU i fanteisio ar eu harbenigedd a chyflawni llwyddiant a rennir.
Yn fewnol, byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag amrywiaeth o adrannau ac arbenigwyr pwnc, gan sicrhau ein bod yn cynnwys eu gofynion deddfwriaethol a/neu eu dulliau rheoli risg fel rhan o’n prosesau neu wedi’u hymgorffori yn y cytundebau a roddwn, yn ôl yr angen.
Yn allanol, byddwn yn ymgysylltu â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, cyflenwyr, derbynwyr grant a phartneriaid cyflawni er mwyn cynyddu ein gwybodaeth, cynyddu gwariant cyhoeddus i’r eithaf a chyflawni ein hamcanion corfforaethol.
Arbenigwyr pwnc
Byddwn yn cydweithio’n agos ag arbenigwyr pwnc mewnol, megis Llesiant, Iechyd a Diogelwch, TGCh (seiberddiogelwch), Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, y tîm Data, prosiectau a chyflenwi rhaglenni a’r tîm Hinsawdd a Datgarboneiddio er mwyn sicrhau bod penderfyniadau cyfrifol a gwybodus yn cael eu gwneud.
Byddwn yn cryfhau ein perthnasoedd â’r arbenigwyr hyn ac, fel yr ydym wedi’i wneud gyda’r timau Llesiant, Iechyd a Diogelwch a’r Hinsawdd a Datgarboneiddio yn ddiweddar, byddwn yn sicrhau bod meysydd allweddol o risg yn cael eu cynnwys yn ein prosesau, mewn ffordd gymesur; a lle bo’n berthnasol, byddwn yn cyfeirio ein cydweithwyr at arbenigwyr perthnasol sy’n darparu cyngor a chymorth yn eu meysydd priodol.
Ymgysylltu a chydweithio allanol
Bydd caffael a chontractau yn cydweithio’n agos ag awdurdodau contractio eraill a chyrff y sector cyhoeddus, gan gynnal a/neu feithrin perthnasoedd cydweithredol cryf a rhannu arbenigedd a gwybodaeth ar gaffael cynaliadwy ac effeithiol, rheoli contractau a dulliau grantiau a chytundebau. Byddwn hefyd yn alinio ein prosesau ag arferion da ehangach y llywodraeth. Ymhlith y sefydliadau y byddwn yn gweithio gyda nhw mae awdurdodau lleol, rheoleiddwyr amgylcheddol, sefydliadau’r sector coedwigaeth, Llywodraeth Cymru, cyrff hyd braich eraill a chyrff sector cyhoeddus eraill sydd â gwerthoedd, ymddygiadau a gyrwyr tebyg.
Mae ein partneriaid cyflawni yn cynnwys cyflenwyr, derbynwyr grantiau, cyrff cyhoeddus eraill, sefydliadau anadrannol a/neu drydydd partïon ac elusennau. Byddwn yn meithrin perthnasoedd moesegol cryf i sicrhau gwerth da, canlyniadau cynaliadwy cadarnhaol, fel lleihau carbon a gwerth cymdeithasol, wrth dderbyn nwyddau, gwasanaethau, gwaith a chanlyniadau o safon, waeth beth fo’r mecanwaith cyflawni a ddefnyddir.
Casgliad a mesur ein cynnydd
Mae ein strategaeth yn disgrifio sut mae’r adran gaffael a chontractau yn gweithredu, gan weithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr a’n partneriaid, a byddwn yn parhau i adeiladu ar brosesau a ffyrdd sefydledig o weithio er mwyn cynnal, ymestyn a datblygu ein gwasanaeth i’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid. Byddwn yn sicrhau y bydd y camau gweithredu sy’n cefnogi’r strategaeth hon yn cael eu hadolygu’n flynyddol er mwyn sicrhau bod ein targedau’n parhau i fod yn gydnaws â’n hamcanion corfforaethol, deddfwriaeth, polisïau a gofynion sy’n gysylltiedig â Chymru a’r DU.
Mae’r strategaeth yn darparu llwyfan cadarn i’r swyddogaeth weithredu’n hyblyg ac yn ymatebol mewn amgylchedd sy’n newid ac yn heriol, lle mae risgiau’n gyffredin a lle mae angen adolygu mesurau lliniaru’n rheolaidd.
Ein strategaeth caffael a chontractau yw ein hymrwymiad i gefnogi’r Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 ac amcanion ehangach Cymru a’r DU. Gan weithredu o fewn y Ddeddf Caffael newydd a Deddf Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), byddwn yn ymgorffori arferion da, gan ganolbwyntio ar gydymffurfiaeth gadarn ar gyfer y meysydd gwariant sydd o fewn ein cylch gwaith.
Ein nod yw darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon o’r dechrau i’r diwedd, gan ddarparu canlyniadau pendant i’r sefydliad, gan ddefnyddio ystod o fecanweithiau cytundebol sydd ar gael i ni.
Drwy reoli gwariant blynyddol y gellir dylanwadu arno o tua £100 miliwn yn llym, ein nod yw sicrhau’r gwerth cyhoeddus mwyaf posibl wrth sicrhau’r gwerth gorau am arian. Bydd gweithredu’n strategol yn sicrhau llywodraethu cryf, yn gwella profiad y cwsmer, yn cyflawni canlyniadau llesiant cadarnhaol, yn hyrwyddo cyfrifoldeb corfforaethol ac yn symleiddio prosesau ar gyfer microfusnesau, busnesau bach a chanolig eu maint, a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol.
Byddwn yn mesur llwyddiant ein strategaeth caffael a chontractau drwy ddangosyddion perfformiad allweddol clir sy’n cyd-fynd â’n Cynllun Corfforaethol, Datganiad Polisi Caffael Cymru, a deddfwriaeth berthnasol. Bydd ein traciwr camau gweithredu caffael a chontractau yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn asesu ein cynnydd, gan ganiatáu hefyd i gamau gweithredu a thargedau newydd gael eu cynnwys.
Wedi’i brofi yn erbyn y pum thema allweddol sef cynaliadwyedd a chydnerthedd Bioamrywiaeth, gwaith teg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, atal caethwasiaeth fodern, gwerth am arian a llywodraethu corfforaethol, cydymffurfedd ac arloesi, bydd y traciwr camau gweithredu yn ganolog i adrodd ar gynnydd. Bydd yr adrodd rheolaidd yn dangos y gwerth pendant a gyflawnir, yn sbarduno gwelliant parhaus, ac yn sicrhau bod ein gweithgareddau caffael, grantiau, cytundebau a rheoli contractau yn cyfrannu’n uniongyrchol at y nodau llesiant a chynaliadwyedd hirdymor y mae ein sefydliad wedi ymrwymo i’w cyflawni.
Cynllun gweithredu caffael a chontractau
Mae’r Cynllun Gweithredu Caffael a Chontractau yn darparu manylion yr hyn y bydd ein swyddogaeth yn gweithio tuag ato dros y pum mlynedd nesaf yn erbyn ein themâu allweddol.