Cynllun Adnoddau Coedwig Caio - cymeradwywyd 22 Rhagfyr 2025

Lleoliad

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Caeo 10 coetir yn Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys tua 1,877 hectar. 

Mae lleoliad y rhan fwyaf o’r coetiroedd yn gymysgedd o dir comin ucheldirol a brithwaith o gaeau amaethyddol wedi’u gwella a choetiroedd preifat ysbeidiol. Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Caio yn cynnwys rhai coetiroedd da iawn ar gyfer cynhyrchu pren. Mae’r coedwigoedd hefyd yn cael eu defnyddio’n fynych gan y gymuned leol at ddibenion hamdden anffurfiol gan fwyaf, ond mae yna rai llwybrau beicio mynydd ffurfiol poblogaidd ym Mloc Cwm Rhaeadr.

Map lleoliad Coedwig Caio

Crynodeb o amcanion cryno Cynllun Adnoddau Coedwig Caio

Bydd y rhain yn gosod yr amcanion rheoli ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig a gweithgareddau ehangach ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau, a’r manteision y maent yn eu darparu. Dangosir y rhain yn nhrefn blaenoriaeth.

Amcan 1: Adfer coetiroedd hynafol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i adfer yr holl goetir hynafol ac mae’n brif amcan ar gyfer y Cynllun Adfer Coedwig hwn yn unol â Strategaeth Coetiroedd Llywodraeth Cymru a Datganiad Ardal y De-orllewin. Lle mae’r dosbarthiad ecolegol yn gymedrol neu’n dda, bydd 80% o’r rhywogaethau coed yn goed llydanddail brodorol. Bydd coed conwydd yn cael eu tynnu’n raddol dros amser gan ddefnyddio amrywiaeth o systemau coedamaeth yn unol ag amodau cnwd a safle. Y dull dewisol o gael gwared ar goed conwydd fydd teneuo ond cydnabyddir y bydd angen llwyrgwympo coed mewn rhai lleoliadau lle mae hynny’n fwy priodol. Byddwn yn caniatáu coed llydanddail brodorol i adfywio’n naturiol fel y dull ailstocio a ffefrir. Dylai hyn wella cysylltedd cynefinoedd drwy gynnal a gwella ardaloedd o goetir lled-naturiol Ffigur 1: Map lleoliad blociau Cynllun Adnoddau Coedwig Caio. I’r hynafol ac adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol, yn unol â pholisi blaenoriaethu strategol.

Amcan 2: Datblygu coetiroedd glannau afon

Bydd y dyluniad yn ceisio gwella’r holl barthau glannau afon i gynnwys cyrsiau dŵr bychain a ffynonellau dŵr gan gynnwys ffynhonnau a ffynonellau hydrolegol gwlyptiroedd. Bydd hyn yn gwella cysylltedd cynefinoedd, ansawdd a maint y dŵr ac yn lleihau pwysau ar yr amgylchedd dyfrol ehangach.

Amcan 3: Llesiant – hamdden, mynediad ac addysg

Mae CNC wedi ymrwymo i gynnal cyfleoedd hamdden ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yn unol â’n Strategaeth Hamdden. Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid a’n cymunedau lle bo’n briodol i nodi sut y gall Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru ddarparu atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer iechyd a lles, gan ddarparu cyfleoedd i bobl gysylltu â natur ac annog dysgu ac addysg yn yr awyr agored.

Amcan 4: Ymateb i’r argyfwng hinsawdd

Byddwn yn parhau i amrywio rhywogaethau, oedran a strwythur y goedwig i gynyddu gwydnwch yn erbyn plâu, clefydau ac effeithiau newid hinsawdd, gan gynnwys risg uwch o stormydd a dadwreiddio coed gan wyntoedd cryfion. Bydd ardaloedd o goetir hynafol yn cael eu hadfer yn raddol i gynnwys cymysgedd o rywogaethau llydanddail brodorol yn bennaf a fydd yn arwain at gynnydd mewn dal a storio carbon yn y pren a’r priddoedd. Y dull ailstocio a ffefrir fydd trwy adfywio naturiol i warchod ffynonellau hadau lleol. Dim ond lle bo angen y bydd y dull cyfoethogi trwy blannu’n cael ei ddefnyddio.

Amcan 5: Ymateb i’r argyfwng natur

  • Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn cynnig llawer o gyfleoedd i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a cholli bioamrywiaeth. Bydd ymestyn cynefin ymyl y coetir, amddiffyn coetir glannau afonydd ac adfer cynefinoedd yn creu cysylltedd ychwanegol ar gyfer rhywogaethau y bydd angen iddynt wasgaru er mwyn addasu i’r effeithiau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.
  • Parhau i reoli ac adfer ardaloedd mawn dwfn er mwyn cefnogi carbon, rheoleiddio dŵr a bioamrywiaeth. Mae ardaloedd o fawn dwfn o fewn y Cynllun Adnoddau Coedwig a chyfleoedd ar gyfer eu hadfer
  • Mae nifer o goetiroedd Caio yn gyfagos i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Mynydd Mallaen ac mae problemau gyda hadu lefel isel y coed conwydd egsotig. Mae cytundeb eang y dylid cael gwared ar y coed hyn ac y dylid bwrw ymlaen â’r gwaith hwn trwy brosiect annibynnol gyda mewnbwn gan y tîm Amgylchedd, y tîm Cynllunio a Pherfformiad a’r timau Gweithrediadau Coedwig a Rheoli Tir.
  • Mae’r un dynodiad Ardaloedd Cadwraeth Arbennig hefyd yn rhan o Ardal Gwarchodaeth Arbennig Elenydd Mallaen ac efallai y bydd cyfleoedd i wella’r cynefin coediog ymhellach i gefnogi statws cadwraeth ffafriol parhaus yr adar, sef y cudyll bach, yr hebog tramor a’r barcud coch, er enghraifft, gan gynyddu mandylledd yr ymyl trwy deneuo lle bo’n briodol.

Amcan 6: Cynhyrchu pren gwerth uchel

Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy ddull priodol o dorri coed a dewis rhywogaethau i’w hailstocio. Os yw amodau’r safle a nodweddion y cnydau yn caniatáu, y nod yw defnyddio dull gorchudd parhaus ar gyfer cynhyrchu boncyffion llifio o ansawdd uchel. Bydd hyn yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflenwi pren gwerth uchel a chynhyrchion coedwigoedd Cymru i’r diwydiant a darparu cyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig. Mae cyfleoedd i amrywiaethu’r goedwig ymhellach ac archwilio’r potensial ar gyfer coed llydanddail cynhyrchiol lle gellir gweithredu dulliau priodol ar gyfer rheoli bywyd gwyllt.

Amcan 7: Rheoli bywyd gwyllt

Mae pwysau gan lysysorion yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig wrth sefydlu cnydau newydd a bydd symud tuag at systemau Coedwigaeth Gorchudd Parhaus yn parhau i olygu bod angen rheoli’r pwysau hyn. Lle ystyrir coetiroedd llydanddail cynhyrchiol presennol neu bosibl, bydd ffocws ar bwysigrwydd rheoli bywyd gwyllt.

Gweledigaeth hirdymor

Blaen Rhisglog & Dolaucothi

Tanylan & Esgair

Caio, Cilmaren, Garreg Fawr, Pen Lifau & Mwyngloddiau Aur Dolaucothi

Cwm Rhaeadr & Penstacan

Y strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo coed

Strategaeth rheoli coedwigoedd Blaen Rhisglog & Dolaucothi

Strategaeth rheoli coedwigoedd Tanylan & Esgair

Strategaeth rheoli coedwigoedd Caio, Cilmaren, Garreg Fawr, Pen Lifau & Dolaucothi Gold Mines

Strategaeth rheoli coedwigoedd Cwm Rhaeadr & Penstacan

Mathau o goedwigoedd ac ailblannu

Mathau o goedwigoedd ac ailblannu Blaen Rhisglog & Dolaucothi

Mathau o goedwigoedd ac ailblannu Tanylan & Esgair

Mathau o goedwigoedd ac ailblannu Caio, Cilmaren, Garreg Fawr, Pen Caio Lifau & Mwyngloddiau Aur Dolaucothi

Mathau o goedwigoedd ac ailblannu Cwm Rhaedr & Penstacan

Diweddarwyd ddiwethaf