Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru a’i weledigaeth yw “Byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd”. Mae’n canolbwyntio angerdd a gweithredu ar y cyd tuag at adferiad byd natur, y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a lleihau llygredd trwy reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae cwmpas ein System Rheoli Amgylcheddol yn cynnwys “Yr holl weithgareddau a’r holl wasanaethau sy’n gysylltiedig â rheoli’r amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.”

Trwy ein hystod eang o rolau a chyfrifoldebau sy'n cynnwys; cynghorydd, rheoleiddiwr, dynodwr, ymatebwr, ymgynghorai statudol, casglwr tystiolaeth, rheolwr, gweithredwr, partner, addysgwr a galluogwr ledled Cymru, yn benodol, byddwn yn:

  • Diogelu, adfer a chysylltu byd natur ac integreiddio adferiad byd natur wrth wneud penderfyniadau.

  • Lleihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n holl weithrediadau a gweithgareddau a galluogi bioamrywiaeth, byd natur a chymunedau i fod yn wydn yn erbyn newid hinsawdd.

  • Sicrhau bod llygredd yn cael ei atal, lleihau faint o wastraff rydyn ni'n ei gynhyrchu a lleihau'r defnydd o ddeunyddiau niweidiol rydyn ni'n eu defnyddio.

  • Bodloni’r holl rwymedigaethau cydymffurfio a rhwymedigaethau perthnasol eraill i leihau ein heffaith amgylcheddol.

  • Darparu fframwaith er mwyn gosod amcanion amgylcheddol a monitro ac adolygu cynnydd yn erbyn ein nodau i leihau defnydd o ynni, dŵr ac adnoddau naturiol.

  • Hyrwyddo lefel uchel o ymwybyddiaeth amgylcheddol ac arferion gorau ymhlith ein gweithwyr a rhanddeiliaid, gan integreiddio rheoli amgylcheddol i hyfforddiant a chyfathrebu.

  • Caffael nwyddau a gwasanaethau o ffynonellau cynaliadwy ac annog ein cyflenwyr a’n contractwyr i wella eu perfformiad amgylcheddol.

  • Parhau i fodloni gofynion Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS) i ddangos bod ecosystemau ein coedwigoedd yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.

  • Monitro a gwella'r System Reoli Amgylcheddol yn barhaus trwy ein rhaglenni archwilio mewnol a’n rhaglen adolygu uwch-reolwyr i wella perfformiad amgylcheddol y sefydliad.

  • Gweithredu System Reoli Amgylcheddol sydd wedi'i hardystio i safon amgylcheddol ISO14001 ac sy'n helpu i ddiogelu'r amgylchedd.

Byddwn yn cyhoeddi’r polisi hwn ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn sicrhau ei fod ar gael i bawb sydd â diddordeb. 

Ceri Davies                                                          

Prif Weithredwr – Cyfoeth Naturiol Cymru

Fersiwn 6 – 1 Mehefin 2026

Diweddarwyd ddiwethaf