Cyflwyniad i Datganiad Ardal De-orllewin Cymru
llun gan Lloyd Jones
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.
Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.
.
Mae adnoddau naturiol iechyd a gwydn yn tanategu ein hiechyd a'n llesiant, yn ogystal â bod yn rhan bwysig o'n diwylliant a'n heconomi. Maent yn darparu ein bwyd, dŵr glân, aer ac ynni ac maent yn ein diogelu rhag peryglon fel llifogydd a’r newid yn yr hinsawdd. Dyma fuddion naturiol lle.
Ceir gwahaniaethau amlwg mewn iechyd pobl ar draws De-orllewin Cymru. Mae'r cysylltiad rhwng ein hiechyd a chyflwr a hygyrchedd ein hamgylchedd naturiol wedi'i gydnabod a'i adlewyrchu yng nghynlluniau llesiant y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Rydym yn gwybod bod bod yn egnïol yn yr awyr agored mewn amgylchedd naturiol yn gwella iechyd corfforol a llesiant meddyliol pobl. P'un a ydych chi'n byw yng nghefn gwlad neu yn y ddinas, mae'n bwysig fod gan bob un ohonom fannau gwyrdd hygyrch, e.e. coetiroedd, dolydd a pharciau, a mannau glas, e.e. afonydd, llynnoedd a'r môr. Os yw cymunedau yn defnyddio'r ‘campfeydd awyr agored’ hyn, ceir buddion drwy iechyd a llesiant gwell, yn ogystal â lleihad mewn costau gofal iechyd. Mae angen i ni gyd reoli ein hadnoddau naturiol mewn modd sy'n well ac yn fwy cynaliadwy fel eu bod yn lanach, yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch a'u bod yn cadw eu prydferthwch naturiol - gan ddod â mwy o fwynhad a buddion i bobl leol ac ymwelwyr.
Yng Nghymru, ar gyfartaledd, mae pobl yn byw yn hirach nag o'r blaen ac maent yn byw yn hirach ag iechyd da. Ond pan fyddwn yn edrych ar y rheini sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig yn Ne-orllewin Cymru, ceir amrywiaethau mawr mewn iechyd pobl. Mae gan y rheini sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig ddisgwyliad oes is ac nid oes ganddynt iechyd cystal.
Os byddwn yn edrych ar y wybodaeth ar gyfer y rheini sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Dinas a Sir Abertawe, mae'r gwahaniaeth o ran disgwyliad oes iach yn 21.9 mlynedd ar gyfer dynion ac 16.3 mlynedd ar gyfer menywod. Mae gan ddynion sy'n byw o fewn pumed ran fwyaf difreintiedig Cymru nid yn unig hyd oes byrrach, ond maent hefyd yn treulio llai ohono mewn iechyd da (77%) o'u cymharu â'r rheini yn y pumed ran leiaf difreintiedig (89%). Mae'r un peth yn wir am fenywod (74% o'u cymharu ag 86%). Gellir gweld cydberthynas rhwng amddifadedd cyffredinol uwch a sgoriau iechyd corfforol isel mewn ardaloedd trefol ac yng Nghymoedd De Cymru, lle mae'r rhan fwyaf o ardaloedd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn sgorio'n isel.
Rydym wedi nodi tri phwnc allweddol sy'n perthyn i'r thema hon.
Rydym yn gwybod bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd da pobl a chael ein hamgylchynu gan yr amgylchedd naturiol. Cyfeirir yn aml at ein mannau gwyrdd a glas, gan gynnwys parciau, mannau agored, meysydd chwarae, coetiroedd, gwlyptiroedd, ymylon ffyrdd, afonydd, camlesi, rhandiroedd a gerddi preifat, fel seilwaith gwyrdd. Mae'r rhwydwaith byw hwn nid yn unig yn diffinio a ffurfio cymeriad lle, ond mae hefyd yn cyflenwi buddion lluosog ar gyfer bioamrywiaeth, iechyd a llesiant.
Trwy gael rhwydwaith byw gwych mewn ardal drefol, gall helpu i gysylltu poblogaethau bywyd gwyllt a chynefinoedd tameidiog, gan gysylltu ardaloedd trefol â'u hamgylcheddau cyfagos. Mewn geiriau eraill, mae seilwaith gwyrdd yn dda ar gyfer pobl ac ar gyfer natur.
Mae ardaloedd incwm isel yn gysylltiedig â thai ac addysg o ansawdd is, deiet gwael, a llai o fynediad at fannau gwyrdd o ansawdd da. Gall byw ger ardaloedd sydd â mannau gwyrdd (fel parciau neu goetiroedd) wella iechyd, waeth beth fo'r dosbarth cymdeithasol.
Mae coed trefol yn elfen bwysig o seilwaith gwyrdd. Mae gan rai trefi yn Ne-orllewin Cymru lefelau isel nodedig o orchudd coed (gan gynnwys Port Talbot, sydd â gorchudd coed o 7.5%, a Gorseinon, Hwlffordd, Caerfyrddin a Llanelli, sydd â gorchudd coed o tua 11%). Yn ogystal, nid yw'r gorchudd coed wedi'i ddosbarthu'n gyfartal yn yr ardaloedd hyn, gydag ardaloedd difreintiedig yn dueddol o gael llai o orchudd coed.
Mae’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) yn annog mwy o bobl i deithio'n rheolaidd ar droed neu ar feic. Gall buddsoddi mewn seilwaith teithio llesol arwain at fuddion economaidd sylweddol. Gall adeiladu llwybrau teithio llesol gwyrdd arwain at fuddion lluosog ar gyfer pobl a bioamrywiaeth.
Mae'r gwaith ar y Datganiad Ardal hyd yn hyn wedi nodi bod rhoi mynediad at lwybrau hamdden i bobl, yn ogystal â llwybrau teithio gwyrdd/glas, yn flaenoriaeth bwysig. Mae hyn yn rhywbeth y nodwyd yn ogystal trwy ein gwaith ymgysylltu â’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau lleol (e.e. Cynllun Llesiant ar gyfer Sir Benfro a’r cynllun rheoli drafft ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) ar gyfer De-orllewin Cymru mewn lleoliadau gwledig a threfol.
Mae gweithgareddau hamdden awyr agored yn darparu buddion lluosog ar gyfer pobl, yr amgylchedd a'r economi drwy annog ymddygiadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, drwy gyfrannu at ganlyniadau iechyd, a thrwy dwristiaeth. Mae gan Dde-orllewin Cymru lawer i gynnig o ran cefn gwlad sy'n hygyrch yn lleol a physgodfeydd, llwybrau beicio mynydd a thraethau ymdrochi sy'n enwog yn rhyngwladol.
O ystyried y ddarpariaeth hon, hoffem weithio ar y cyd i gefnogi gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur a gwneud yr awyr agored yn hygyrch i bawb.
Llun gan Pippa Sabine
Mae sicrhau bod ein hadnoddau naturiol o ansawdd uchel yn allweddol i'n llesiant. O'r aer rydym yn ei anadlu a'r dyfroedd rydym yn nofio ynddynt, i reoli perygl yr afonydd a'r arfordir rydym yn byw wrth eu hymyl, gall atebion sy'n seiliedig ar natur gyflawni buddion lluosog ar gyfer pobl a'r amgylchedd. Ceir cysylltiad cryf rhwng y pwnc hwn a'n thema rheoli tir.
Mae'r parth arfordirol o amgylch De-orllewin Cymru yn bwysig iawn ar gyfer cefnogi twristiaeth a diwydiant yn ogystal â darparu buddion iechyd dynol. O fewn yr ardal hon, mae gennym 40 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig (33 â statws ‘Ardderchog’, chwech â statws ‘Da’ ac un â statws ‘Digonol’) y mae'r diwydiant twristiaeth yn dibynnu arnynt ar gyfer ymwelwyr.
Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno safonau ansawdd dŵr sy’n sylweddol lymach, sy'n golygu bod nifer o ddyfroedd ymdrochi mewn perygl o beidio â bodloni'r gofynion sylfaenol newydd. Mae gweithgareddau a gollyngiadau o'r amgylchedd trefol yn gallu cael effaith niweidiol ar y dyfroedd hyn a gall hyn gael effaith sylweddol ar y sawl sy'n eu mwynhau.
Rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu’r Datganiad Ardal hwn yw ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac rydym yn dweud mwy am hyn yn yr adran nesaf.
Yn yr adran flaenorol, rydym wedi disgrifio rhai o'r prif ystyriaethau a chyfleoedd ar gyfer gwella iechyd. Yn yr adran hon, rydym wedi nodi ‘sut olwg sydd ar lwyddiant’ fel cyfres o ddatganiadau yr hyn ddywedoch wrthym sy'n adlewyrchu'r consensws cyffredinol o'n sesiynau ymgysylltu; cynhyrchodd y sesiynau hyn lawer o syniadau a gwybodaeth ac mae'r canlynol yn cynrychioli crynodeb yn unig o'r cyfleoedd sydd o'n blaenau (lle cafwyd cytundeb cyffredinol ymysg nifer o randdeiliaid). Os ydych yn teimlo ein bod wedi colli rhywbeth, peidiwch â phoeni, rydym am barhau â'r trafodaethau rydym wedi'u dechrau. Gweler yr adran ar ddiwedd y thema hon, sy'n rhoi manylion ynglŷn â sut y gallwch barhau i fod yn rhan o'r broses hon.
Llun gan Pippa Sabine
© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru
Wrth ddatblygu'r Datganiad Ardal hwn ein nod oedd gweithio ar y cyd a chynrychioli safbwyntiau a syniadau ein holl rhanddeiliaid yn Ne-orllewin Cymru. Ein nod oedd eich cynnwys chi i helpu nodi'r risgiau allweddol rydym yn eu hwynebu wrth reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn ogystal â'r cyfleoedd.
Mae hyn wedi gofyn am ffordd wahanol o weithio.
Rydym wedi cynnal ystod eang o weithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys gweithdai cynllunio targedig ag arbenigwyr dethol i weithdai amlsector mwy. Mynychwyd yr olaf yn dda ac roeddent yn cynnwys cynrychiolwyr etholedig, grwpiau cymunedol a chyrff anllywodraethol amgylcheddol, yn ogystal â swyddogion o'r sector cyhoeddus. Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau cynrychioliadol (fel undebau ffermio, cymdeithasau genweirio ac ati) wedi'u cynnwys. Mae'r sector busnes wedi'i gynrychioli'n bennaf gan ddiwydiannau mwy.
Mae cymaint o sectorau gwahanol â phosib wedi'u cynnwys er mwyn dal yr ystod ehangaf o safbwyntiau ac arbenigedd.
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn fewnol sy’n datblygu Datganiadau Ardal Canol De Cymru a Chanolbarth Cymru a’r Datganiad Ardal Forol i sicrhau bod camau gweithredu yn cysylltu lle bo hynny'n briodol. Yn benodol, mae'r parth arfordirol a'r amgylchedd morol yn bwysig iawn i ni yn Ne-orllewin Cymru ac rydym yn cydnabod bod yr hyn sy'n digwydd ar y tir yn aml yn cael effaith ar y môr ac i'r gwrthwyneb.
Mae angen eich cefnogaeth barhaus arnom er mwyn datblygu'r cyfleoedd a'r camau gweithredu a nodwyd gennym yn gynt yn yr adran hon. Byddwn yn parhau i gynnal ein sgyrsiau â chi o ran y ffordd orau i ddatblygu hyn – o ran cyflenwi ac o ran mireinio'r manylion lle mae angen rhagor o waith; mae hyn yn debygol o gynnwys gwaith â mwy o ffocws ar themâu penodol neu o amgylch ardaloedd daearyddol penodol (e.e. y dalgylchoedd â chyfleoedd).
Felly, rydym yn annog ein holl randdeiliaid, presennol a newydd, i gymryd rhan – ceir rhagor o fanylion ynglŷn â sut i wneud hyn yn yr adran nesaf.
Trwy gydol y thema hon, ceir meysydd eglur y dywedoch wrthym eu bod yn bwysig ar gyfer gweithredu camau effeithiol er mwyn gwella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae'r rhain yn cynnwys y system cynllunio datblygu, defnyddio ystad y sector cyhoeddus, hamdden a mynediad, a gwelliannau amgylcheddol (ansawdd aer a dŵr).
Y camau nesaf:
Trwy gofleidio’r amgylchedd naturiol yn Ne-orllewin Cymru, gallwn chwarae ein rhan wrth wella rhywfaint o’r cyflyrau iechyd cronig a welir yn yr ardal – mewn lleoliadau gwledig a threfol. Mae ecosystemau sydd wedi'u lleoli ger poblogaethau yn darparu'r cyfleoedd gorau a dylid eu rheoli mewn modd sy'n mwyafu'r buddion y maent yn eu darparu ar gyfer llesiant corfforol a meddyliol.
I gyflenwi unrhyw gamau gweithredu, bydd angen defnyddio dull integredig a chydweithredol, gan adlewyrchu egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ac ymgorffori'r pum ‘ffordd o weithio’ o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Y thema hon yw dechrau'r daith yn unig wrth inni weithio gyda phobl i wella rheolaeth o adnoddau naturiol De-orllewin Cymru. Os hoffech fod yn rhan o'r broses, cysylltwch â ni. Fel arall, anfonwch e-bost uniongyrchol atom yn: Southwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk