Cyflwyniad i Datganiad Ardal De-orllewin Cymru
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.
Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.
Mae De-orllewin Cymru yn wledig yn bennaf, gyda 56% o'r tir yn cynnwys ‘tir fferm caeedig’ ac 17% pellach yn goetir. Mae'r sectorau sy'n rheoli'r tir hwn – amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgodfeydd – yn cefnogi bywoliaethau a chymunedau ac, yn bwysig, yn cynnal yr adnoddau naturiol rydym yn dibynnu arnynt yn ogystal. Mae'r modd rydym yn rheoli'r tir hwn yn cael effaith ar ein cefn gwlad lleol a thu hwnt ac mae'r thema hon yn ystyried sut y gallwn wneud yr arferion hyn yn fwy cynaliadwy. Yn Ne-orllewin Cymru, mae arnom angen sector gwledig sy’n ffynnu, gan gefnogi amgylchedd o ansawdd uchel, ond sydd hefyd yn darparu nwyddau a gwasanaethau o ansawdd uchel ar ein cyfer.
Prif ‘heriau a chyfleoedd cenedlaethol’ y Polisi Adnoddau Naturiol y mae’r thema hon yn mynd i'r afael â nhw:
Mae coedwigaeth ac amaethyddiaeth yn ein darparu â nifer o fuddion, gan gynnwys y bwyd rydym yn ei fwyta, a phan maent yn cael eu rheoli’n dda, maent yn sicrhau'r buddion hyn ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Gallai'r modd y mae ffermwyr yn rheoli'r tir fod o fudd enfawr i fioamrywiaeth. Gallant greu cynefinoedd newydd ar gyfer rhywogaethau, ond gall rhai gweithgareddau ffermio sy’n arbennig o ddwys fod yn niweidiol i fioamrywiaeth yn ogystal. Mae gan ffermwyr rôl hanfodol wrth wella a chynnal bioamrywiaeth yn ogystal â chyflenwi'r bwyd rydym yn ei fwyta. Ceir tystiolaeth dda fod camau cadwraeth wedi helpu i fynd i'r afael â gostyngiadau mewn poblogaethau o adar ar diroedd ffermio, ac mae nifer o gynlluniau amaethyddiaeth sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd wedi bod o fudd i fywyd gwyllt.
Llun gan Daron Herbert
Yn Ne-orllewin Cymru, mae gennym ardaloedd mawr o dir amaethyddol sy'n cynnwys gwrychoedd ac ymylon caeau ac sydd wedi'u lleoli'n agos at ymylon afonydd, nentydd, llynnoedd a gwlyptiroedd (rydym yn galw'r rhain yn barthau torlannol). Mae'r ardaloedd hyn yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth yn ogystal â bod o bwys diwylliannol, e.e. gwrychoedd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr. Os byddwn yn ystyried Cymru yn ei chyfanrwydd, amcangyfrifir bod gennym 106,000 o gilometrau o wrychoedd, ond mae 78% o'r gwrychoedd hyn mewn cyflwr anffafriol. Rydym wedi cyflawni rhywfaint o gynnydd, gyda 5,800 o gilometrau wedi'u hadfer yn barod fel rhan o gynlluniau rheoli tir yn gynaliadwy. Ond mae rheolaeth amhriodol, difrodi a chynnydd mewn clefydau fel clefyd coed ynn yn parhau i fygwth gwrychoedd a'r buddion maent yn eu darparu.
Mae gennym nifer o ardaloedd o dir yn Ne-orllewin Cymru a ddisgrifir fel parthau torlannol. Mae'r ardaloedd hyn yn hidlo llygryddion fel maethynnau a gwaddod, ac mae llystyfiant ar ochr y glannau yn helpu i leihau erydu. Mae llystyfiant ar ochr y glannau hefyd yn darparu cysgod, sy'n helpu i leihau tymheredd y dŵr. Trwy ddod â natur yn ôl i'n nentydd ac afonydd trefol a diogelu nentydd gwledig rhag sathru gan dda byw, gallwn helpu i wella ansawdd y dŵr a chynyddu bioamrywiaeth.
Diffinnir tir comin yn gyffredinol fel tir lle mae gan ‘barti arall’ hawliau penodol, fel pori gwartheg. Mae'r rhan fwyaf o diroedd comin yn seiliedig ar hawliau hynafol sy'n dyddio nôl i amser cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei sefydlu ac yn seiliedig ar draddodiadau hirhoedlog. Mae dros 65% o dir comin Cymru yn cael ei ‘reoli'n weithredol’ ar hyn o bryd. Ar wahân i chwarae rôl hanfodol mewn amaethyddiaeth, gwerthfawrogir tir comin am ei gyfraniad i'n treftadaeth naturiol a diwylliannol. Mae tir comin dynodedig yn cwmpasu ardal sylweddol o dir yn Ne-orllewin Cymru. Mae 32.5% o dir yn Ninas a Sir Abertawe yn dir comin ac mae rhannau o Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn cynnwys tiroedd comin lluosog sy'n llai nag un hectar o faint. Mae'n bwysig nodi, lle bo tiroedd comin yn cael eu rheoli'n briodol gan gymdeithasau pori, ein bod yn dysgu o'r ardaloedd hyn ac yn cefnogi defnyddwyr eraill drwy rannu’r arfer da hwn.
Mae ansawdd ein dŵr yn hanfodol bwysig i fioamrywiaeth ac economi'r ardal hon ac yn fwyfwy mae llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol wedi dod yn fater proffil uchel. Cydnabyddwyd y gallai Cymru wneud mwy i reoli llygredd amaethyddol er mwyn ei gadw i ffwrdd o gyrsiau dŵr ac, yn y pen draw, y môr.
Mae'r digwyddiadau llygredd dŵr mwyaf cyffredin yn cael eu hachosi gan y diwydiant llaeth. Mae hwn yn faes lle ceir twf ac mae ffermwyr yn dwysáu eu cynhyrchu ac yn cynyddu meintiau eu buchesi er mwyn parhau i fod yn hyfyw. Nid yw twf yn y sector wedi arwain at fuddsoddiad cyfwerth yn y seilwaith rheoli dŵr a gwrtaith. O ganlyniad, rydym wedi gweld nifer cynyddol o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â slyri. Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, fod y digwyddiadau hyn yn ymwneud â rhan gymharol fach o'r sector a bod y mwyafrif yn gweithredu mewn modd cyfrifol.
Mae amonia, cynnyrch mewn gwrtaith anifeiliaid, yn parhau i fod yn broblem gan ei fod yn amharu ar gydbwysedd naturiol ein tir (trwy lygredd aer) a chyrsiau dŵr. Mae rheoli gwrtaith yn cyfrannu cyfran sylweddol o'r amonia a ryddhawyd i'r aer gan amaethyddiaeth (75% yn 2017 o wrtaith gwartheg, ychwanegu gwrtaith i'r pridd a ffynonellau ‘eraill’). Ffermio gwartheg (llaeth a di-laeth) yw'r cyfrannwr amaethyddol mwyaf.
Mae gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i gynnal a gwella bioamrywiaeth trwy gyflawni eu swyddogaethau. Mae hyn yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, y Weinyddiaeth Amddiffyn a'n partneriaid yn y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Felly, mae hyn yn cynnig cyfle sylweddol i'r sector cyhoeddus allu chwarae rôl bwysig i gefnogi natur trwy reoli ei ystad ei hun. Ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hyn yn golygu rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (sy'n cwmpasu 5.4% o'r tir yn Ne-orllewin Cymru) yn gynaliadwy ac fel patrwm enghreifftiol o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy – rydym yn cydnabod bod gennym waith i'w wneud yma ac rydym yn ymrwymedig i wneud hynny.
Rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu’r Datganiad Ardal hwn oedd ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac rydym yn dweud mwy am hyn yn yr adran nesaf.
Cyn hyn, rydym wedi disgrifio prif nodweddion a heriau rheoli tir gwledig. Yn yr adran hon, rydym wedi nodi ‘sut olwg sydd ar lwyddiant’ fel cyfres o ddatganiadau yr hyn ddywedoch wrthym sy'n adlewyrchu'r consensws cyffredinol o'n sesiynau ymgysylltu; cynhyrchodd y sesiynau hyn lawer o syniadau a gwybodaeth ac mae'r canlynol yn cynrychioli crynodeb yn unig o'r cyfleoedd sydd o'n blaenau (lle cafwyd cytundeb cyffredinol ymysg nifer o randdeiliaid). Os ydych yn teimlo ein bod wedi colli rhywbeth, peidiwch â phoeni, rydym am barhau â'r trafodaethau rydym wedi'u dechrau. Gweler yr adran ar ddiwedd y thema hon, sy'n rhoi manylion ynglŷn â sut y gallwch barhau i fod yn rhan o'r broses hon.
Astudiaethau achos: Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am sut y gall cymunedau gysylltu â'u bwyd neu ynghylch sut y mae coetir Llywodraeth Cymru yn cael ei reoli er mwyn cael buddion lluosog.
Wrth ddatblygu'r Datganiad Ardal hwn ein nod oedd gweithio ar y cyd a chynrychioli safbwyntiau a syniadau ein holl randdeiliaid yn Ne-orllewin Cymru. Ein nod oedd eich cynnwys chi i helpu nodi'r risgiau allweddol rydym yn eu hwynebu wrth reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn ogystal â'r cyfleoedd.
Mae hyn wedi gofyn am ffordd wahanol o weithio.
Rydym wedi cynnal ystod eang o weithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys gweithdai cynllunio targedig ag arbenigwyr dethol i weithdai amlsector mwy. Mynychwyd yr olaf yn dda ac roeddent yn cynnwys cynrychiolwyr etholedig, grwpiau cymunedol a chyrff anllywodraethol amgylcheddol, yn ogystal â swyddogion o'r sector cyhoeddus. Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau cynrychioliadol (fel undebau ffermio, cymdeithasau genweirio ac ati) wedi'u cynnwys. Mae'r sector busnes wedi'i gynrychioli'n bennaf gan ddiwydiannau mwy.
Mae cymaint o sectorau gwahanol â phosib wedi'u cynnwys er mwyn dal yr ystod ehangaf o safbwyntiau ac arbenigedd.
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn fewnol sy’n datblygu Datganiadau Ardal Canol De Cymru a Chanolbarth Cymru a’r Datganiad Ardal Forol i sicrhau bod camau gweithredu yn cysylltu lle bo hynny'n briodol. Yn benodol, mae'r parth arfordirol a'r amgylchedd morol yn bwysig iawn i ni yn Ne-orllewin Cymru ac rydym yn cydnabod bod yr hyn sy'n digwydd ar y tir yn aml yn cael effaith ar y môr ac i'r gwrthwyneb.
Mae angen eich cefnogaeth barhaus arnom er mwyn datblygu'r cyfleoedd a'r camau gweithredu a nodwyd gennym yn gynt yn yr adran hon. Byddwn yn parhau i gynnal ein sgyrsiau â chi o ran y ffordd orau o ddatblygu hyn – o ran cyflenwi ac o ran mireinio'r manylion lle mae angen rhagor o waith; mae hyn yn debygol o gynnwys gwaith â mwy o ffocws ar themâu penodol neu o amgylch ardaloedd daearyddol penodol (e.e. y dalgylchoedd â chyfleoedd).
Felly, rydym yn annog ein holl randdeiliaid, presennol a newydd, i gymryd rhan – ceir rhagor o fanylion ynglŷn â sut i wneud hyn yn yr adran nesaf.
Ceir meysydd amlwg y dywedoch wrthym eu bod yn bwysig er mwyn gwella arferion rheoli tir wrth fynd i'r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd a byd natur. Mae'r rhain yn cynnwys taliadau ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy, cysylltu cymunedau â'u bwyd a phren, rheoli tir comin, a defnyddio dull sy'n seiliedig ar ddalgylchoedd.
Y camau nesaf:
Mae angen i ni sicrhau bod ein harferion rheoli tir yn gweithio gyda natur i gyflawni buddion lluosog. Mae angen i ffermwyr, reolwyr tir a chymunedau gael eu cefnogi a'u galluogi'n briodol er mwyn cyflenwi'r buddion hyn fel ceidwaid ein tir.
I gyflenwi unrhyw gamau gweithredu, byddwn yn defnyddio dull integredig a chydweithredol, gan adlewyrchu egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ac ymgorffori'r pum ‘ffordd o weithio’ o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Ein gweledigaeth ar gyfer De-orllewin Cymru:
Y thema hon yw dechrau'r daith yn unig wrth inni weithio gyda phobl i wella rheolaeth o adnoddau naturiol De-orllewin Cymru. Os hoffech fod yn rhan o'r broses, cysylltwch â ni. Fel arall, anfonwch e-bost uniongyrchol atom yn: Southwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk