Cyflwyniad i Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r pedair blynedd diwethaf. Rydym yn parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn parhau i addasu ein cynlluniau ar gyfer ymgysylltu a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae dau linyn allweddol wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd:
Dros y ganrif ddiwethaf, mae'r tymheredd wedi codi, mae lefelau'r môr wedi codi, ac mae patrymau tywydd wedi newid yn sylweddol. Gyda disgwyl i'r newidiadau hyn barhau a dwysáu dros y degawdau nesaf, mae'n rhaid i ni gydweithio i fynd i'r afael â'r effeithiau a pharatoi i liniaru ar gyfer yr holl bosibiliadau yn sgil y newid yn yr hinsawdd.
Ni waeth beth a wnawn i reoli adnoddau naturiol Cymru, mae pethau'n mynd i newid ac mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid a pharatoi am y newidiadau a fydd yn effeithio ar eu gwydnwch.
Yn lleol, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod themâu eraill yn y Datganiad Ardal yn helpu i liniaru yn erbyn effeithiau'r argyfyngau yn yr hinsawdd ac ym myd natur, yn enwedig:
Yn rhanbarthol, ac yn genedlaethol, mae angen i ni anwybyddu ffiniau a gweithio ar y cyd i gynllunio ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol a mynd i'r afael â nhw. Rydym eisoes wedi dechrau gyda'n cymdogion Datganiad Ardal yng Ngogledd-ddwyrain Cymru drwy weithio ar y cyd i gefnogi'r gwaith mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru yn ei wneud trwy fabwysiadu dull rhanbarthol ar gyfer lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Drwy feithrin dull ar y cyd, gallwn wella’r rhanbarth, gan ei wneud yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn hefyd yn golygu sicrhau bod y themâu eraill yn Natganiad Ardal y Gogledd-orllewin hefyd yn cynnwys mesurau i baratoi, gwella seilwaith a meithrin cymunedau addasol a chydnerth sy'n gweithio ac yn byw mewn cytgord â’n hamgylchedd naturiol, gan sicrhau bod ein cymdeithas yn addas i'r dyfodol.
Bydd ein gwaith ar y cyd yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan gyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, mae llawer o'r difrod eisoes wedi’i wneud. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd bod rhanbarth Gogledd-orllewin Cymru'n cynnwys 45.5 y cant o gyfanswm hyd arfordir Cymru. Mae cymunedau arfordirol fel y Friog yn ne Gwynedd yn wynebu effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd.
Ar ben hynny, mae'r newid yn yr hinsawdd hefyd yn effeithio ar y rhanbarth drwy sychder difrifol a thanau gwyllt amlach a thrwy roi straen ar ein bywyd gwyllt cynhenid a'n cynefinoedd naturiol. Felly, mae'n bwysig i ni adolygu'r dystiolaeth bresennol ar effaith y newid yn yr hinsawdd a rhannu’r cynnydd yn ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa gyda'n cymunedau.
Er mwyn hwyluso datblygiad y Datganiad Ardal, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dri gweithdy yng Ngogledd-orllewin Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2019, yn ogystal â sesiwn ar gyfer staff. Ar sail y trafodaethau hyn, mae'n glir fod cefnogaeth ymhlith rhanddeiliaid ar gyfer trin y Newid yn yr Hinsawdd fel y brif thema. Dychwelwyd y themâu a ddatblygwyd i'r rhanddeiliaid ar gyfer eu dilysu yn ein hail rownd o weithdai ymgysylltu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019. Ceir rhagor o wybodaeth a manylion ynglŷn â hyn yn y Cyflwyniad i'r Datganiad Ardal ac o fewn y thema Ffyrdd o Weithio.
Mae'r adrannau materion a chyfleoedd yn adlewyrchu sylwadau a wnaed yn ystod digwyddiadau ymgysylltu. Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru nodi bod rhanddeiliaid wedi cwestiynu a oedd proses Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru, a'r holl wasanaethau cyhoeddus, yn cymryd yr argyfyngau hinsawdd ac ym myd natur o ddifrif. Mae'r sylwadau isod yn adlewyrchu'r diddordeb a ddangoswyd yn ystod y gwaith ymgysylltu i drafod a phenderfynu ar gyfleoedd i fynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar y rhanbarth.
Byddwn yn ehangu ar y cyfleoedd hyn, gan gynnwys lleoliadau a manylion, wrth inni ddatblygu grwpiau thema er mwyn cymryd y camau nesaf gyda'n Datganiad Ardal. Dim ond mewn lleoliadau sy'n briodol i'r amgylchedd y bydd yr holl gyfleoedd a nodir isod yn cael eu cefnogi.
Dylem oll arwain y ffordd yng Ngogledd Cymru wrth ddangos sut y gallwn liniaru ac ymaddasu i'r newid yn yr hinsawdd
Mae angen mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a fydd yn etifeddu byd wedi'i lunio gan ein gweithredodd heddiw.
Mae angen i ni sicrhau ein bod yn rhoi llwyfan i blant siarad am eu pryderon.
Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang ar lefelau na welwyd eu tebyg ers o leiaf yr 800,000 o flynyddoedd diwethaf. Rhybuddiodd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd fod yn rhaid i'r byd gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net yn fyd-eang erbyn 2050 i osgoi canlyniadau cynhesu sy'n uwch nag 1.5 gradd. Bydd cadw o fewn y terfynau hyn – sy'n parhau i fod yn bosibl – yn lleihau peryglon i fioamrywiaeth, ecosystemau, systemau bwyd, dŵr a llesiant dynol. Pan gyhoeddwyd yr adroddiad, newidiodd safbwynt y cyhoedd am y newid yn yr hinsawdd. Mae angen brys bellach i ymateb ar draws llywodraethau a chymdeithasau.
Mae arfordir cyfan Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru wedi cael ei asesu gan y Cynllun Rheoli Traethlin. Mae’r cynllun hwn wedi cael ei ddatblygu gan grwpiau arfordirol i hwyluso’r gwaith o ddatblygu polisïau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol cynaliadwy dros y 100 mlynedd nesaf, gan leihau'r risgiau i bobl a'r amgylcheddau datblygedig, hanesyddol a naturiol. Mae'r cynllun yn cynnwys amrywiaeth o bolisïau ar gyfer yr arfordir, sef 'Cynnal y Llinell', 'Dim Ymyrraeth Weithredol' neu 'Alinio a Reolir', fesul cyfnod y polisi. Y cyfnodau polisi yw hyd at 2025, 2026 i 2055 a 2056 i 2105.
Byddwn yn datblygu gweledigaeth ardal gyfan ar gyfer y thema hon gyda rhanddeiliaid – gyda chylch gorchwyl a chynrychiolaeth eang. Byddwn yn nodi partneriaid posibl ac unigolion/grwpiau â diddordeb, bylchau mewn gwybodaeth, a chysylltiadau â strategaethau a chynlluniau gweithredu lleol, megis Cynlluniau Datblygu Lleol, Cynlluniau Parciau Cenedlaethol ac AoHNE, Asesiadau Llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chynlluniau Gwella Hawliau Tramwy.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (allanol, mewnol, gyda phartneriaid fel yr Awdurdod Parc Cenedlaethol) i lywio gweithgareddau'r is-grwpiau thematig hyn a dylanwadu ar gynlluniau sefydliadol.
Bydd angen i ni adolygu'r wybodaeth a'r data sydd gennym hyd yn hyn ar gyfer pob thema, penderfynu ar y bobl y byddwn yn siarad â nhw nesaf, chwilio am ddamcaniaethau newid, nodi rhwystrau a sut i’w goresgyn, ac archwilio cyfleoedd am gamau gweithredu priodol. Bydd y Datganiad Ardal yn ddogfen iterus a fydd yn newid ac yn datblygu dros amser. Bydd yr is-grwpiau’n gyfrifol am benderfynu pryd bydd angen newid cynlluniau a phwy sydd angen bod yn rhan o'r broses honno.
O hyn, byddwn yn gallu ennyn diddordeb ac ymgysylltu â grŵp ehangach o randdeiliaid y tu hwnt i'r sector amgylcheddol ehangach mewn ffordd wedi’i thargedu a chyda ffocws cryfach ar gynnwys ac ymgysylltu â grwpiau ac unigolion lleol. Gallai hyn arwain at amrywiaeth o ddulliau gweithredu, gan gynnwys: y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau traddodiadol, cyfarfodydd cymunedol, sesiynau galw heibio a chryfderau ein partneriaid fel ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni gweledigaeth ac uchelgeisiau'r Datganiad Ardal.
Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?
Bydd gweithio gyda'r gymuned amaethyddol i hyrwyddo ffensys ar hyd coridorau afonydd a phlannu coed er mwyn sefydlogi glannau afonydd yn helpu i leihau erydu glannau a bydd yn cyfrannu at reoli perygl llifogydd yn naturiol. Yn yr un modd, bydd gweithio gyda'r sector amaethyddol ar arferion ffermio cydnerth, fel lleiniau glaswellt â gwreiddiau dyfnach a datrysiadau eraill sy’n gallu gwrthsefyll sychder, yn helpu'r diwydiant i addasu i amrywiadau tymhorol yr hinsawdd.
Bydd rheoli pwysau ar adnoddau dŵr oherwydd y newid yn yr hinsawdd drwy brosesau naturiol – er enghraifft, cynyddu gorchudd coed a ffensio glannau afonydd – yn arwain at gysylltedd gwell i rywogaethau, gan gefnogi cydnerthedd cynefinoedd a bywyd gwyllt. Gall defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, fel gwella gorchudd coetir ac adfer mawndiroedd (rhwystro ffosydd i ail-ddyfrhau cynefinoedd mawndir cors), arwain at fwy o storfeydd carbon a dŵr, gan gyfrannu at reoli perygl llifogydd yn naturiol drwy reoleiddio llif dŵr.
Fel y cyfryw, bydd annog cadwyni cyflenwi lleol o gynhyrchu bwyd ar dir ffermio i'r plât yn cyfrannu at leihau milltiroedd bwyd ac allyriadau carbon o'r herwydd. Hefyd, bydd rhwydweithiau a seilwaith trafnidiaeth wyrddach yn helpu i leihau llygredd, gan gynnwys llygredd sŵn, ac yn helpu i gyfrannu'n gadarnhaol at ansawdd aer gwell.
Mae cynnig y cyfle i weithio gyda'n gilydd i ystyried y defnydd mwy o asedau naturiol yn gynaliadwy i gynhyrchu ynni gwyrddach hefyd yn cyfrannu at leihau'r defnydd o danwyddau ffosil.
Bydd gweithio ar draws sectorau i ddiffinio atebion ymaddasu a lliniaru i'r newid yn yr hinsawdd sy'n addas i Ogledd-orllewin Cymru yn helpu i feithrin cynaliadwyedd a chydnerthedd. Bydd gweithio ar y cyd gyda phartneriaid yn y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ymchwilio i reoli dull rhanbarthol ar gyfer y newid yn yr hinsawdd yn sicrhau dull gweithredu cyson a mwy effeithiol.
Rydym yn croesawu cyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu â ni ar unrhyw gam ym mhroses y Datganiad Ardal.
Mae ffurflen adborth a chyfeiriad e-bost hefyd: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk pe byddech am ysgrifennu atom gyda'ch syniadau ar gyfer datblygu camau gweithredu dan y Thema hon.
Mae ffurflen adborth a chyfeiriad e-bost hefyd: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk pe byddech am ysgrifennu atom gyda'ch syniadau.