Llun gan Peter Lewis

Pam y thema hon?


Wrth weithio ar y thema hon fe wnaethom ymchwilio i’r berthynas bresennol rhwng pobl a’r byd naturiol. Roeddem yn awyddus i ddeall yn well faint yr ydym yn gwerthfawrogi’r amgylchedd naturiol a sut yr ydym yn rhyngweithio gyda’r dirwedd. Sut ydym yn gwneud penderfyniadau sy’n helpu i wneud ein hecosystemau yn fwy cadarn wrth wynebu heriau ac argyfyngau, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd?

Cae gyda charwe troellog yn ei blodau ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ym MhowysLlun gan Rachel Jarvis

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn disgrifio gwytnwch bioamrywiaeth ac ecosystemau yn ein hadroddiad Natur Hanfodol.

Bioamrywiaeth

Ystyr bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth bywyd ar y ddaear – planhigion, anifeiliaid, ffyngau a micro-organebau. Mae’n cynnwys amrywiaeth genetig o fewn rhywogaeth unigol, a’r amrywiaeth sy’n bodoli ar draws pob rhywogaeth. Yn ogystal â rhywogaethau, mae bioamrywiaeth hefyd yn cynnwys yr amrywiaeth o ecosystemau lle maent yn byw, sy’n bodoli ar amrediad o raddfeydd, o ficro-gynefin pridd unigol i dirlun cyflawn.

Ecosystemau gwydn

‘Gwytnwch ecosystemau’ yw gallu ecosystemau i ymdopi â phwysau, aflonyddwch a newid – naill ai drwy eu gwrthsefyll, gwella oddi wrthynt neu addasu iddynt.

Mae sicrhau ecosystemau gwydn yn golygu gweithio ar raddfa fwy, hybu cysylltiad ymarferol rhwng lleoedd naturiol, sicrhau bod ganddynt ddigon o amrywiaeth naturiol, eu bod mewn cyflwr da a chynyddu graddfa’r ecosystemau hynny. Mae bioamrywiaeth yn elfen ategol hanfodol o bob ecosystem.

 

Golygfa o dirlun o Warchodfa Natur Genedlaethol Craig Stanner gyda’r planhigyn gludlys prin yn y blaendir.Llun gan Rhys Jenkins

Mae’r ecosystemau o fewn ein hamgylchedd naturiol yn darparu ystod o ‘wasanaethau’ y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt i oroesi. Mae ‘gwasanaethau ecosystem’ o’r fath yn cynnwys:

  • Dŵr glân

  • Aer glân

  • Bwyd

  • Pren

  • Hamdden a mannau gwyrdd

  • Lliniaru llifogydd

  • Storio carbon

Mae tua 30% o dir a dyfroedd Cymru wedi’u dynodi fel safleoedd gwarchodedig. Mae’r ardaloedd hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella a chynnal gwytnwch ecosystemau ar hyd a lled Cymru, yn enwedig mewn ymateb i’r pwysau amrywiol a roddwn fel pobl ar ein hamgylchedd.

Er bod dynodi safleoedd yn darparu diogelwch ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau â phwysigrwydd cenedlaethol, mae safleoedd o’r fath yn cael eu darnio a’u hynysu fwyfwy sy’n golygu eu bod yn llai gwydn wrth wynebu newid. Ni all safleoedd dynodedig gynnal eu hunain ar eu pen eu hunain.  Mae’r ffordd y mae’r tirlun ehangach yn cael ei reoli - y tir fferm, cyrff dŵr a dalgylchoedd afonydd, coedwigoedd a’r ucheldir – oll yn chwarae rôl hollbwysig yn cefnogi iechyd a bioamrywiaeth hirdymor safleoedd gwarchodedig. Mae angen mwy o ffocws ar ddarparu ‘ardaloedd clustogi’ i ddarparu cysylltiadau ar gyfer natur, a mabwysiadu ymagwedd fwy holistaidd at reoli ein tirlun cyfan. O dan y thema hon, bydd angen i bob un ohonom weithio tuag at sicrhau bod ein tirlun yn cael ei reoli’n briodol ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu diffinio fel anifeiliaid neu blanhigion estron sy’n gallu lledaenu y tu hwnt i’w hardal frodorol gan achosi difrod i’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd neu ein ffordd o fyw. Ystyrir mai rhywogaethau estron goresgynnol yw’r bygythiad mwyaf i’n rhywogaethau a chynefinoedd brodorol ac amcangyfrifir eu bod yn costio £128 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn.

Ymhlith y rhywogaethau estron goresgynnol sydd wedi lledaenu’n helaeth yng Nghanolbarth Cymru mae clymog Japan a Jac y Neidiwr ac maent yn broblem benodol ar hyd Afon Gwy a rhan uchaf dalgylch Afon Gwy, afonydd Wysg, Rheidol a Theifi. 

Er gwaethaf ymdrechion pendant, mae diffyg rheolaeth barhaus o’r rhywogaethau hyn yn aml yn golygu eu bod yn dychwelyd i ardaloedd penodol. Mae rhododendron yn broblem hefyd yng Nghanolbarth Cymru, gan effeithio ar goetiroedd a safleoedd gwarchodedig.

Y prif feysydd dan sylw yn y thema Gwella Bioamrywiaeth yw:

  • Nodi prif achosion yr argyfwng natur, gan gynnwys beth sydd angen ei wneud, gan bwy a lle

  • Gwella Statws Cadwraeth Ffafriol safleoedd dynodedig

  • Nodi cyfleoedd ar gyfer cysylltedd rhwng y safleoedd hynny ac ardaloedd eraill ar raddfa’r dirwedd

  • Rhoi blaenoriaeth i natur drwy fesurau cynllunio, polisi ac ymarferol

  • Chwilio am fesurau arloesol ac opsiynau amgen ar gyfer mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol, yn enwedig ger cyrsiau dŵr

Nod y rhestr uchod yw darparu canllawiau a helpu i osod blaenoriaethau ar gyfer prosiectau a gweithio ar y cyd. Nid ydynt yn gynhwysfawr ac nid ydynt yn eithrio unrhyw broblemau, syniadau nag atebion a allai godi.

Tegeirian llydanwyrdd yn agos gyda chynefin gweirglodd yn y cefndirLlun gan Dafydd Parry

Beth fyddai llwyddiant yn ei olygu?

Drwy fynd i’r afael â’r argyfwng natur gyda’n gilydd yng Nghanolbarth Cymru, ein nod yw sicrhau:

  • Gwell dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol i bawb, i gymunedau gwledig a threfol, ffermwyr a rheolwyr tir, llunwyr polisi a chynllunwyr

  • Rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig a thirluniau mwy cysylltiedig sy’n cefnogi bioamrywiaeth ac yn galluogi i rywogaethau a chynefinoedd i ffynnu

  • Gostyngiad mewn rhywogaethau estron goresgynnol ar draws yr ardal, yn enwedig o amgylch cyrff dŵr sensitif a gwarchodedig, gan alluogi i rywogaethau brodorol ddychwelyd a ffynnu’n ddirwystr.

Bydd y Datganiad Ardal yn sicrhau bod ein gweithredoedd yn gweithio ar draws pob sector - cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, mewn ffyrdd newydd a chydweithredol. 

Mae gwneud newidiadau positif hirdymor i’n hamgylchedd yn cymryd amser. Ni ellir gwneud hyn dros nos. Mae Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn cynnig gwell cyfleoedd i ni flaenoriaethu sut y gallwn weithio gyda’n gilydd fel cymdeithas i newid ymddygiad ac agweddau tuag at ein hamgylchedd naturiol.

Drwy ein digwyddiadau ymgysylltu, rydym ni wedi dysgu bod dealltwriaeth fanwl yn seiliedig ar  dystiolaeth o’r hyn y mae bioamrywiaeth yn ei olygu a sut y gallwn greu ecosystemau gwydn i gefnogi rhywogaethau cynefinoedd a phoblogaethau dynol.

Gyda’n gilydd, mae angen i ni gefnogi cymunedau ac economi Canolbarth Cymru i allu ffynnu, gan hefyd fodloni gofynion yr amgylchedd naturiol.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?

Wrth ddatblygu’r Datganiad Ardal, defnyddiodd CNC ystod o adnoddau yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), a Blaenoriaethau Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom hefyd gymryd gwybodaeth o Gynlluniau Lles Powys a Cheredigion a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyd-fynd â’u blaenoriaethau a’u Nodau Llesiant, yn seiliedig ar anghenion lleol.

Fe wnaethom ni gynnwys ein rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu’r Datganiad Ardal, ac rydym ni’n parhau i wneud hynny.

Cynhaliwyd nifer o weithdai ymgysylltu rhwng 2019-2021 i ofyn i randdeiliaid beth hoffen nhw ei weld fel rhan o Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru.

Ers ei gyhoeddi yn y lle cyntaf ym mis Mawrth 2020, rydym ni wedi parhau i ymgysylltu gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid er gwaetha’r anawsterau’n gysylltiedig â phandemig byd-eang. Roeddem yn falch o’r angerdd a’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan ein partneriaid a’n rhanddeiliaid wrth ein cynorthwyo i barhau i arwain Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn ei flaen, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn.

Gweithgareddau Ymgysylltu

9 Digwyddiad Ymgysylltu, 224 o Gyfranogwyr mewn Grwpiau Cyfoedion, 241 o Ddilynwyr Facebook, 764 o bobl wedi ymgysylltu hyd yn hyn

Ffigyrau’n adlewyrchu digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd yn 2019-2021

Roedd hi’n amlwg o’r gwaith ymgysylltu a’r adborth bod y broses Datganiad Ardal yn newydd i bawb a fu’n rhan ohono a bod y ‘ffordd newydd o weithio’ yn dal i adlewyrchu newid sylweddol o’r ffordd yr oedd pob un ohonom yn gweithio yn y gorffennol. Mae angen parhau i ddysgu, myfyrio ac addasu’r ffordd yr ydym ni i gyd yn gweithio er mwyn llwyddo.

Nod adolygiad 2022 o Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru yw diweddaru’r testun craidd hwn i adlewyrchu datblygiad naturiol y Datganiad Ardal dros y ddwy flynedd gyntaf. Mae’r newidiadau ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn dangos sut mae’r broses o greu datganiad wedi esblygu’n naturiol, yn seiliedig ar dystiolaeth o waith CNC a mewnbwn rhanddeiliaid. Bydd ein hymgysylltiad yn parhau wrth i’r Datganiad Ardal aeddfedu, datblygu ac esblygu.

Fe ysgogodd y digwyddiadau ymgysylltu drafodaethau ar y math o brosiectau a meysydd o ddiddordeb y mae ein rhanddeiliaid yn awyddus i weithio arnynt. Rydym yn awyddus i annog a datblygu cyfleoedd i gydweithio. 

Mae ‘Grŵp Cyfoedion  Gwella Bioamrywiaeth’ wedi cael ei sefydlu i roi fforwm i’r holl sefydliadau ac unigolion yng Nghanolbarth Cymru sy’n awyddus i fynd i’r afael â’r argyfwng natur ac i wyrdroi colledion bioamrywiaeth. Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi hwb ac yn galluogi gwahanol randdeiliaid i weithio gyda’i gilydd a chydlynu syniadau i sicrhau canlyniadau a rennir.

Drwy ymgysylltu gyda rhanddeiliaid, rydym ni wedi gallu gweithio gyda’n gilydd i adnabod y themâu ardal ar gyfer Canolbarth Cymru. Mae sgyrsiau a thrafodaethau wedi rhoi dealltwriaeth i ni o’r problemau a’r pwysau a wynebir gan wahanol randdeiliaid, sectorau a chymunedau. Gobeithiwn y bydd y dull newydd hwn yn paratoi’r ffordd ar gyfer dulliau newydd o weithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, lle’r ydym ni’n symud oddi wrth ‘ymgynghori’ tuag at ‘gydweithio’ a gweithredu ar lawr gwlad, hyd yn oed os mae hynny’n dal i fod yn daith ansicr i nifer wrth wneud cynnydd gyda Datganiad Ardal Canolbarth Cymru.

Beth yw’r camau nesaf?

Mae ystod o waith gwych eisoes yn cael ei wneud gan bobl Canolbarth Cymru.

Mae angen dathlu arfer da a dysgu ohono. Er mwyn adeiladu ar hyn, mae’r Datganiad Ardal yn gofyn i ni rannu gwybodaeth a dealltwriaeth o’n prosiectau perthnasol, a dylunio ffyrdd arloesol i fynd i’r afael â heriau newydd gyda’n gilydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi dechrau nodi rhwydweithiau lle gall prosiectau sy’n dilyn llwybrau tebyg uno a chydweithio. Mae bwriad yng Nghanolbarth Cymru i ddod â rhanddeiliaid ynghyd, nad ydynt o bosibl wedi gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn draddodiadol, ond a allai, gyda’i gilydd, gyflawni canlyniadau â buddiannau lluosog. Mae’r dull hwn wedi cael ei fabwysiadu gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Phowys, ac mae CNC yn sefydliad partner allweddol o’r rhain.

Bydd cyfleoedd ar gyfer cymorth ariannol i ddarparu prosiectau a syniadau trwy system gyllid grant Cyfoeth Naturiol Cymru. Cysylltwch â ni am fanylion pellach am y grantiau sydd ar gael, neu ewch i dudalen grantiau CNC.

Dyma rai awgrymiadau o ran cyfleoedd pellach i fynd i’r afael â’r argyfwng natur yng Nghanolbarth Cymru;

  • Diogelu a gwella ymhellach y rhywogaethau a chynefinoedd prin neu sydd mewn perygl drwy ddarparu cyfleoedd i greu ac adfer cynefinoedd

  • Gweithredu rhaglen rheoli safle blaenoriaeth ar gyfer safleoedd gwarchodedig yng Nghanolbarth Cymru. Gellir gwneud hyn drwy ddulliau presennol, cynlluniau amaeth-amgylchedd newydd wedi’u targedu, cytundebau a chyfleoedd cyllido a ddyluniwyd i wella gwydnwch, ansawdd a chysylltedd ecosystemau

  • Chwilio am welliannau i’r ffordd yr ydym yn gweithio ar draws sectorau - o gysylltedd cynefinoedd ar raddfa tirlun i brosiectau cymunedol bychan ar gadwraeth leol

  • Adeiladu ar brosiectau presennol ac yn hwyluso mesurau ar gyfer dull gweithredu mwy cydgysylltiedig rhwng polisi ac arfer

  • Asesu blaenoriaethau a chyflawni rhaglenni maint tirlun neu ddalgylch wedi’u targedu er mwyn diddymu neu reoli rhywogaethau estron goresgynnol

Mae cyfleoedd o hyd i drafod ymhellach a datblygu sut y gallwn lywio’r newidiadau hyn gyda’n gilydd.

Sut all pobl gymryd rhan?

Gallwch ymuno â ni ar Facebook! Mae grŵp Facebook Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn un ffordd i chi gael y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf am Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru.  Gall unrhyw un ymuno â’r drafodaeth ar-lein.  Mae’r grŵp wedi’i sefydlu i fod yn grŵp preifat ar hyn o bryd, ond rydym yn eich annog i sôn amdano ymhlith eich cydweithwyr a’ch cysylltiadau a allai fod yn awyddus i gymryd rhan.  Gofynnir tri chwestiwn syml i chi i ymuno â’r grŵp er mwyn ein bod yn sicrhau bod yr aelodau a’r cynnwys yn berthnasol i Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru.

Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau pellach ac yn datblygu grwpiau a sgyrsiau penodol am bob un o themâu Canolbarth Cymru.  Os ydych eisoes ar ein rhestr bostio, byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’r rhain.  Os hoffech gael eich ychwanegu i’r rhestr, anfonwch e-bost i mid.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Mae angen i ni barhau i ddatblygu’r Datganiad Ardal gyda’n gilydd, i fynd i’r afael â’r argyfwng natur yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r Datganiad Ardal yn berchen i bob un ohonom – pawb sydd eisiau cymryd rhan – a byddem yn annog cymaint o bobl â phosibl i ymuno â ni ar unrhyw adeg i helpu i ddatblygu’r Datganiad Ardal fel proses sy’n esblygu’n barhaus. Os hoffech fod yn rhan o’r broses hon, cysylltwch â ni.

Mapiau o’r ardal


Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Cynefinoedd eang – Canolbarth Cymru (PDF)

Mae’n dangos ardaloedd o’r hyn a ganlyn:

  • Ffermdir caeedig
  • y môr
  • mynyddoedd
  • gweundir
  • rhos
  • dŵr agored
  • gwlyptiroedd 
  • gorlifdiroedd
  • glaswelltir lled-naturiol
  • trefol
  • coetiroedd

Ardaloedd gwarchodedig – Canolbarth Cymru (PDF)

Map yn dangos ardaloedd o Ddynodiadau Statudol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru:

  • Gwarchodfeydd Natur Lleol
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
  • Parc Cenedlaethol

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf