Datganiad Ardal Morol – newyddion, blogiau a digwyddiadau
Llun gan John Briggs
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.
Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.
Mae arfordir helaeth Cymru yn hynod bwysig i bobl Cymru. Mae'n ymestyn am 2,740 km ac mae 60% o'r boblogaeth yn dewis byw ar, neu'n agos at, yr arfordir. Mae'n lle pwysig ar gyfer bioamrywiaeth, ac mae 75% o'r arfordir wedi’i ddynodi fel safle o bwysigrwydd amgylcheddol. Mae hefyd yn cefnogi hamdden a thwristiaeth, sy'n hwb enfawr i lesiant ac economïau lleol. Mae'r arfordir yn adnodd gwerthfawr sy'n gofyn am reolaeth ofalus a chynaliadwy i barhau i gyflenwi'r buddion hyn nawr ac yn y dyfodol.
© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru
Dylai ein harfordiroedd newid yn naturiol dros amser. Fodd bynnag, mae ymyriad dynol wedi cael effaith ar yr hyn sy'n digwydd yno. Mae llawer o gymunedau arfordirol o amgylch Cymru yn dibynnu ar amddiffynfeydd arfordirol i'w hamddiffyn yn erbyn llifogydd llanwol ac erydiad. Amcangyfrifir y cafodd difrod gwerth £3 biliwn ei osgoi yn ystod gaeaf 2013/14, diolch i'n hamddiffynfeydd arfordirol.
Bydd y newid yn yr hinsawdd yn arwain at lefelau'r môr yn codi a rhagor o stormydd. Ar hyn o bryd, nid yw arfordir Cymru yn wydn yn amgylcheddol, yn gymdeithasol nac yn economaidd i'r pwysau hyn. Mewn rhai lleoedd, ni fydd bellach yn gynaliadwy i gynnal yr amddiffynfeydd presennol yn yr hirdymor. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gynllunio i addasu gan y bydd rhai cymunedau, ffyrdd, rheilffyrdd, cyfleustodau, ffermydd, a seilwaith a busnesau eraill ar yr arfordir yn eu cael eu hunain mewn perygl.
Llun gan John Briggs
Mae Cynlluniau Rheoli Traethlin yn gynlluniau lefel uchel sy'n nodi lle y dylem barhau i amddiffyn yr arfordir a lle y byddai'n fwy cynaliadwy i addasu dros amser. Maent yn rhannu'r arfordir yn adrannau llai sy'n cael eu hadnabod fel 'unedau polisi'. Maent yn esbonio sut y dylai'r unedau polisi gael eu rheoli dros y tymor byr (2005–2025), y tymor canolig (2025–2055) a'r hirdymor (2055–2105) trwy neilltuo un o'r polisïau rheoli canlynol i bob cyfnod o amser:
Mae'r ffigur isod yn dangos y polisïau rheoli a ffefrir ar draws y tri chyfnod o amser. Mae'n dangos y newid arfaethedig yn glir o barhau i amddiffyn i ddull mwy ymaddasol mewn rhai lleoliadau.
Lle bo newidiadau a gynlluniwyd i 'Adlinio a Reolir' neu 'Dim Ymyrraeth Weithredol', bydd adrannau o'r arfordir yn colli eu hamddiffyniad presennol. Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ac mae angen gwaith sylweddol i gasglu tystiolaeth, ymgysylltu a buddsoddi mewn adnoddau i ddechrau paratoi ar gyfer addasiad arfordirol.
Lle bydd amddiffynfeydd yn cael eu cynnal, fel mewn lleoliadau mwyaf poblog, mae gennym ddewisiadau ynglŷn â sut caiff hyn ei gyflawni. Gallwn ddewis y math o amddiffynfa ein bod wedi ei dewis yn y gorffennol, fel morgloddiau ac argorau (a elwir weithiau yn seilwaith 'caled' neu 'lwyd'). Neu, gallwn edrych ar ddefnyddio 'seilwaith gwyrdd', a adnabyddir hefyd fel 'atebion sy'n seiliedig ar natur'.
Mae atebion sy'n seiliedig ar natur yn cynnig amddiffynfeydd arfordirol ond, yn wahanol i atebion traddodiadol, gallant ddarparu nifer o fuddion eraill. Er enghraifft, gallwn ail-lenwi traethau neu amddiffyn morfeydd heli fel ffordd o amddiffyn ein harfordir. Ar yr un pryd, gall y dull hwn greu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, amddiffyn storfeydd carbon, darparu mannau i ni eu mwynhau, a denu twristiaid i hybu economïau lleol. Mae morfeydd heli, yn enwedig, yn gynefinoedd pwysig ac yn storfeydd carbon hynod o effeithlon, sy'n eu gwneud o bosib yn ddefnyddiol iawn yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Ceir hefyd 'dulliau hybrid' a all bontio'r bwlch rhwng seilwaith gwyrdd a seilwaith llwyd. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys gosod adeileddau ar ochr amddiffynfa bresennol sy'n wynebu'r môr er mwyn trapio gwaddod ac annog morfa heli i ledaenu. Mae'r forfa heli hon wedyn yn amddiffyn yr amddiffynfa yn ogystal â chyflenwi buddion eraill i'r ecosystem.
Llun gan Ally Evans
Mae nifer o enghreifftiau o sut i ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur ac atebion hybrid ar yr arfordir ond, yn anffodus, nid yw eto'n arfer cyffredin yng Nghymru. Mae llawer o waith ymchwil yn cael ei gynnal i geisio deall pam. Mae’r prosiect Ecostructure yn ymchwilio i ddatrysiadau posib ac yn gweithio'n uniongyrchol hefyd gyda datblygwyr a chymunedau lleol i ystyried opsiynau a chodi ymwybyddiaeth.
Mae ein harfordir, yn ogystal â'r rhywogaethau, cynefinoedd a chymunedau sy’n cael eu cynnal ganddo, yn wynebu newid sylweddol. Rydym ar adeg hanfodol lle mae gwir gyfle gennym i asesu'r hyn sydd ei angen i gefnogi'n hardaloedd arfordirol i addasu a dod yn fwy gwydn. Mae'r hyn rydym yn ei wneud nawr yn gallu dod â buddion i natur a'r bobl sy'n byw ar ein harfordir. Mae'r thema hon yn archwilio sut rydym yn gallu cyflawni buddion lluosog wrth i ni baratoi ar gyfer y newidiadau hyn ac addasu iddynt.
Gyda'n partneriaid, rydym yn cydnabod bod nifer o rwystrau i'w goresgyn i gyflawni arfordiroedd cynaliadwy:
Rydym yn gwybod bod bron 100 o safleoedd o gwmpas Cymru lle bydd angen cynllunio addasu manwl. Fodd bynnag, nid yw nifer o bobl a chymunedau a all fod mewn perygl yn ymwybodol o'r angen i addasu neu sut y gallai effeithio arnynt.
Yn ogystal, gallai mwy gael ei wneud i esbonio sut olwg allai fod ar atebion sy'n seiliedig ar natur mewn gwirionedd, lle y gellir eu defnyddio'n effeithiol, a'r buddion y gallent eu cynnig.
Mae achosion yng Nghymru lle mae adlinio a reolir wedi dechrau digwydd, naill ai wedi'i gynllunio neu mewn ymateb i ddigwyddiadau naturiol – fel hynny yn Cwm Ivy yng ngogledd Penrhyn Gŵyr. Mae'r achosion hyn wedi ein dangos bod deddfwriaeth wrthgyferbyniol ynghylch hawliau tramwy cyhoeddus, priffyrdd, treftadaeth, a mwy o bosib, a allai ein hatal rhag rheoli gwaith adlinio'r arfordir lle y cynlluniwyd.
Gall y newidiadau enfawr sydd eu hangen er mwyn addasu ar yr arfordir fod yn hynod gostus i’r llywodraeth, awdurdodau lleol, Network Rail, awdurdodau priffyrdd, tirfeddianwyr a'r cyhoedd. Rydym yn gwybod bod angen i ni archwilio opsiynau o ran cyllid i gefnogi gwaith addasu ar yr arfordir.
Mae angen mwy o gymorth hefyd i helpu i ddod o hyd i gyllid ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur. Mae angen i ni allu gwerthfawrogi eu buddion ehangach fel y gellir eu hymgorffori yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â’r amddiffynfeydd sy’n cael eu dewis gennym.
Llun gan Amy Martin
Mae angen i ni gasglu mwy o dystiolaeth ar ba fathau o atebion sy'n seiliedig ar natur sy'n bosib o amgylch Cymru a dechrau eu defnyddio lle bo'n briodol. Trwy ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur, byddwn yn datblygu hyder wrth eu defnyddio ac yn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn wirioneddol ochr yn ochr ag atebion traddodiadol.
Llun gan Llywodraeth Conwy a John Briggs
Rydym wedi creu tudalen newydd am atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli'r arfordir. Mae hon yn cynnwys dolenni at adnoddau atebion sy'n seiliedig ar natur, astudiaethau achos rheoli'r arfordir, canllawiau, a llwyfannau tystiolaeth.
Mae'r dudalen yn rhoi gwybodaeth am y risgiau, buddion a gwerth arian wrth ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur mewn cynlluniau amddiffynfeydd llifogydd arfodirol. Bydd hwn yn helpu rhanddeiliaid, cyrff sector cyhoeddus, a sefydliadau i edrych ar y cyfleoedd i ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur.
Mae angen i ni ddatblygu ffordd ar y cyd o gytuno a blaenoriaethu pa leoliadau sydd angen cynllunio manwl yn gyntaf. Gallwn wedyn weithio gyda'n gilydd i gyflenwi'r cynlluniau manwl hynny, gan sicrhau ein bod yn myfyrio ar gynnydd, llwyddiannau a heriau i helpu i ni symud ymlaen.
Llun gan John Briggs
Wedi i ni nodi a dechrau archwilio’r heriau hyn, gwnaethom gytuno ar weledigaeth ar gyfer y thema hon ar y cyd:
“Mae gan Gymru arfordir cynaliadwy a gwydn drwy gyflenwi gwaith addasu arfordirol yn unol â Chynlluniau Rheoli Traethlin ac atebion sy'n seiliedig ar natur fel rhan o reolaeth arfordirol, lle bo hynny’n bosibl."
Gwnaethom gydnabod bod nifer o leoliadau o gwmpas Cymru y bydd rhaid inni barhau i’w hamddiffyn yn y dyfodol. Mae hyn yn rhoi nifer o gyfleoedd i ystyried defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer ein hamddiffynfeydd arfordirol. Fel grŵp, gwnaethom gytuno y byddai llwyddiant ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur fel a ganlyn:
Gyda 50% o leoliadau o amgylch Cymru yn bwriadu symud i ffwrdd o amddiffynfeydd traddodiadol ac ystyried 'Adlinio a Reolir' o'r arfordir neu 'Dim Ymyrraeth Weithredol' erbyn 2055, rydym yn cydnabod bod angen gwaith sylweddol i alluogi'r newid hwn i ddigwydd. Fel grŵp, gwnaethom gytuno y byddai llwyddiant ar gyfer addasiad arfordirol fel a ganlyn:
Rydym wedi gweithio gyda Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru a'r pedwar grŵp arfordirol unigol yng Nghymru i archwilio a datblygu'r thema hon. Ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, mae aelodau’r grwpiau’n cynnwys awdurdodau morol lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Network Rail, ac ymddiriedolaethau archeolegol.
Mae'r grwpiau hyn yn dod ag ystod o randdeiliaid ynghyd sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Rheoli Traethlin. Maent wedi bod yn hanfodol wrth gytuno ar weledigaeth a rennir ar gyfer y thema hon yn ogystal â nodi a blaenoriaethu camau gweithredu i’w chyflawni.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r grwpiau hyn ac rydym yn ddiolchgar am eu cyfraniadau hyd yn hyn. Yn y dyfodol, hoffem ehangu ein gwaith ymgysylltu a siarad â'r cyhoedd, yn enwedig â chymunedau sy'n debygol o gael eu heffeithio. Hoffem hefyd siarad â pherchnogion asedau a thirfeddianwyr eraill ar yr arfordir, fel: darparwyr seilwaith (cwmnïau cyfleustodau), perchnogion parciau carafanau, darparwyr hamdden, ffermwyr, awdurdodau porthladd, a mwy.
Mae gan yr holl Ddatganiadau Ardal ar y tir hydoedd o arfordir a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r materion o dan y thema hon. Byddwn yn gweithio yn enwedig o agos gydag ardaloedd sy'n cynnwys y cymunedau hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf.
Gwnaethom nodi ar y cyd y camau isod i'n helpu i gyflawni'n gweledigaeth o lwyddiant a rennir. Bydd y camau gweithredu hyn yn cynnwys aelodau o Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru a grwpiau arfordirol unigol, ond gallai gael eu harwain hefyd gan eraill. Rhagdybiaeth allweddol sydd wedi cael ei gwneud gennym wrth nodi'r camau hyn yw y byddai adnoddau ar gael, ond rydym yn cydnabod y gallai hyn barhau i fod yn heriol.
Rydym wedi bod yn ymgysylltu â Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru yn rhagweithiol i ddatblygu'r camau gweithredu o dan y thema hon. Cytunodd y grŵp ar weledigaeth hirdymor a rennir ar gyfer arfordir Cymru. Gyda'i gilydd, dylai'r camau rydym wedi eu nodi yma helpu i gyflawni Cynlluniau Rheoli Traethlin ac atal datblygiadau anghynaliadwy ar yr arfordir.
Llun gan yr National Trust
Mae'r camau rydym wedi eu nodi yn ceisio galluogi rheoli addasol o arfordir Cymru mewn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd a phrosesau arfordirol. Rydym am annog atebion sy'n seiliedig ar natur mewn amddiffynfeydd arfordirol i harneisio buddion lluosog fel llesiant, dal carbon ac adeiladu gwydnwch ein hecosystemau arfordirol.
Rydym wedi nodi'r angen i wneud tystiolaeth gyfredol yn fwy hygyrch i'r rheini sydd ei hangen. Mae angen hefyd i ni wella'r dystiolaeth ar gostau a buddion i gefnogi defnydd mwy o atebion sy'n seiliedig ar natur a gwaith addasu ar yr arfordir.
Ffocws allweddol ein camau yw codi ymwybyddiaeth a chyfranogiad cyhoeddus, yn enwedig yn y cymunedau hynny sy'n debygol o gael eu heffeithio’n fwyaf gan y newid yn yr hinsawdd ac addasu arfordirol yn y dyfodol.
Dim ond dechrau'r daith yw'r thema hon wrth i ni weithio gyda phobl yng Nghymru i wella'r gwaith o reoli ein harfordiroedd a'n moroedd. Os hoffech fod yn rhan o'r broses hon, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd anfon neges e-bost uniongyrchol atom yn: marine.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk