Morlin Creigiog
Mae llawer o'r arfordir hwn wedi'i ddiogelu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig dan rwydwaith Natura 2000 o safleoedd sydd o bwysigrwydd rhyngwladol i fywyd gwyllt.
Mae safleoedd fel Skomer a Bae Cemlyn yn gynefinoedd pwysig i adar y môr fel y Pâl a'r Môr-wennol bigddu, ac mae'r clogwyni arfordirol â llystyfiant yn olygfa anhygoel o liw yn y gwanwyn a dechrau'r haf.
Mae arfordir Cymru yn denu tyrfaoedd o ymwelwyr bob blwyddyn, gan ddod â £32 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Felly mae'n hanfodol amddiffyn ein harfordir ac mae rhaglen LIFE Natura 2000 wedi cynhyrchu cynlluniau gweithredu â chostau ar gyfer pob safle Arfordirol Natura 2000 yng Nghymru, gan gynllunio i'r dyfodol a helpu i sicrhau arian hollbwysig.