Afon Dyfrdwy

Mae Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn brosiect gwerth £8.8 miliwn i adfywio Afon Dyfrdwy a'i dalgylch. Drwy adfer yr afon i gyflwr mwy naturiol, rydym yn adeiladu ecosystem iachach a fydd yn helpu rhywogaethau prin fel Eog, y Llysywen bendoll a’r Fisglen berlog dŵr croyw.

Afon Dyfrdwy yw'r afon fwyaf yn y Gogledd ac mae ganddi ddalgylch o fwy na 1,800 km². Mae ymhlith yr afonydd sy’n cael eu rheoleiddio fwyaf yn Ewrop, ac ynghyd â Llyn Tegid, mae wedi'i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

O'i rhagnentydd yn ucheldiroedd Eryri, mae Afon Dyfrdwy yn disgyn drwy Lyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Ar ôl llifo drwy gwm eang i Gorwen, mae'n disgyn i'r dwyrain drwy fro odidog Llangollen, o dan Ddyfrbont Pontcysyllte – sy’n Safle Treftadaeth y Byd - cyn torri trwy droedfryniau ger Bangor Is-coed, ac yna ymlwybro i'r gogledd drwy Wastadedd Sir Gaer i'w chyfyngiad llanwol ger Caer.

Prif ddefnyddiau Afon Dyfrdwy yw ffermio, yn benodol pori gwartheg a defaid; echdynnu dŵr i gyflenwi dŵr i 2.5 miliwn o bobl; twristiaeth, gan gynnwys genweirio hamdden, canŵio a mordwyaeth; a chadwraeth natur.

Y camau gweithredu rydym yn eu cymryd

  • Diddymu cyfyngiadau ar bysgod yn ymfudo a chysylltedd ecolegol ehangach

  • Adfer neu wella prosesau, nodweddion a chynefinoedd ffisegol afonol naturiol yn o leiaf 55 km o afon

  • Gwella arferion rheoli tir amaethyddol a choedwigaeth i leihau mewnbwn maethynnau a gwaddod i'r Ardal Cadwraeth Arbennig

  • Cychwyn ar waith rheoli cadwraeth ar gyfer y fisglen berlog, sydd mewn perygl difrifol

  • Sefydlu a meithrin perthnasau cadarnhaol tymor hir gyda rhanddeiliaid allweddol yn ystod cyfnod y prosiect ac ar ôl hynny

Gwaith cadwraeth

Ein cynnydd hyd yma:

  • Plannu 20,000 o goed wrth ochr yr afon
  • Sefydlogi 840 metr o’r lan yn naturiol
  • 8,430 tunnell o raean, clogfeini a deunydd coediog wedi'u cyflwyno i'r afon
  • Codi 46.5 cilometr o ffensys i greu coridorau ar lan yr afon
  • 14 o gwlfertau draenio coedwig wedi'u huwchraddio
  • Tynnu neu addasu 13 rhwystr i helpu pysgod i ymfudo
  • 1 croesfan afon goedwigaeth newydd wedi'i gosod

Pysgod yn ymfudo

Targed gwreiddiol y prosiect oedd tynnu pum cored, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl, yn afon Dyfrdwy a’i llednentydd, a gosod datrysiadau i fudiad pysgod mewn chwe chored arall. Fodd bynnag, rydym weddi rhagori ar y targed hwn, gan dynnu saith rhwystr yn gyfan gwbl ar afonydd Tryweryn, Morlas, Meloch, Mynach, cored Erbistog ar y brif afon, a dau rwystr ar afon Teirw. Rydym wedi addasu chwe chored arall, gan gynnwys dwy yn Llangollen, un ar Nant Gwryd yn nyffryn Ceiriog, Cored Z, Cored Caer, a Chwlfert Alwen.

Bydd hyn yn cynyddu mynediad ar gyfer y pysgod ac yn gwella hydromorffoleg mewn 33 cilomedr o afon, a fydd yn fanteisiol i'r holl gynefinoedd a rhywogaethau.

Adfer yr afon

Adfer yr afon

Byddwn yn gwella cynefinoedd mewn rhan dros 6 km o hyd o’r afon, gan gynnwys ychwanegu miloedd o dunelli o raean, cerrig a deunydd pren. Rydym eisoes wedi rhoi 8,000 tunnell o ddeunydd yn yr afon.

Bydd o leiaf 35 km o dir ar hyd y glannau yn cael ei adfer drwy bori a reolir, ffensys a phlannu, a bydd 2 km o amddiffynfeydd glannau ac argloddiau artiffisial hanesyddol yn cael eu gwaredu neu eu torri. Hyd yn hyn, rydym wedi cwblhau dros 46.5 cilomedr o ffensys ac wedi plannu 20,000 o goed.

Rheoli tir

Rydyn ni wedi gwella seilwaith coedwigaeth drwy osod croesfan afon newydd ac uwchraddio 14 o gwlferi draeniau coedwigaeth, a fydd yn lleihau'r perygl o lygredd mewn 600 hectar o goedwigaeth yn nalgylch yr Ardal Cadwraeth Arbennig.

Drwy weithio'n agos gyda ffermwyr, byddwn yn helpu i wella arferion amaethyddol i leihau mewnbwn maethynnau, cemegion a gwaddod i'r Ardal Cadwraeth Arbennig. Hyd yn hyn, mae ein Swyddogion Rheoli Tir wedi ymweld â mwy na 100 o ffermydd yn ystod y prosiect.

Rheoli cadwraeth ar gyfer y fisglen berlog, sydd mewn perygl difrifol 

Byddwn yn magu misglod ifanc mewn caethiwed ac yn eu rhyddhau mewn lleoliadau addas, ac yn cynnal gwaith i wella cynefinoedd fel cyflwyno graean mân a deunydd coediog mawr. Byddwn yn parhau â'r rhaglen hon ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau er mwyn sicrhau goroesiad y rhywogaeth brin hon ar Afon Dyfrdwy yn y dyfodol.

Gweithio gyda'n cymuned leol

Gweithio gyda'n cymuned leol

Bydd y cymunedau sy'n byw ar hyd Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid wrth wraidd y prosiect. Byddwn yn gweithio'n agos gyda phobl leol i sicrhau eu bod yn deall gwerth biolegol, cymdeithasol ac economaidd y cynefinoedd a rhywogaethau, yr afon a'r Ardal Cadwraeth Arbennig o safbwynt eu pwysigrwydd hanesyddol a phresennol. Ein gobaith yw y bydd pobl yn teimlo mwy o ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb cymunedol dros Afon Dyfrdwy ac yn sicrhau bod etifeddiaeth y prosiect yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod. Byddwn yn annog pobl i gymryd rhan cymaint â phosib drwy gynnal dros hanner cant o ddigwyddiadau yn ystod oes y prosiect, gan gynnwys teithiau ar hyd yr afon a sgyrsiau amdani, gweithdai, diwrnodau agored, a rhaglenni gydag ysgolion. Hyd yn hyn, rydym wedi cynnal 76 o sgyrsiau, 39 o deithiau cerdded ar hyd yr afon, a chynhadledd 3 diwrnod yn canolbwyntio ar adfer afonydd gyda dros 430 o gynrychiolwyr.

Canlyniadau'r prosiect

  • Adfer prosesau a morffoleg afonol naturiol

  • Cynefinoedd a rhywogaethau wedi’u symud tuag at statws cadwraeth ffafriol

  • Gostyngiad mewn llygredd yn yr afon gyda manteision ar gyfer bioamrywiaeth a dŵr yfed

  • Gwella poblogaethau eogiaid a physgod eraill

Dysgu mwy am ein prosiect

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol

Chwiliwch @LIFEAfonDyfrdwy ar Facebook, ac Instagram

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr chwarterol.

Rhifyn 11, Gaeaf 2025/26
Rhifyn 10, Hydref 2025
Rhifyn 9, Gwanwyn 2024
Rhifyn 8, Hydref 2023
Rhifyn 7, Haf 2023
Rhifyn 6, Gwanwyn 2023
Rhifyn 5, Gaeaf 2023
Rhifyn 4, Hydref 2022
Rhifyn 3, Haf 2021
Rhifyn 2, Gwanwyn 2021
Rhifyn 1, Gaeaf 2020

Darllenwch ein newyddion a’n blogiau

Hwb i fioamrywiaeth Afon Dyfrdwy yn dilyn tynnu Cored Erbistog
Gweithio er budd yr afon: uchafbwyntiau gan Swyddogion Rheoli Tir Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy
Diwrnod Afonydd y Byd 2025: rhoi adfer afonydd ar waith
Ymdrechion cadwraeth drawsffiniol yn cymryd canol lwyfan i Afon Dyfrdwy (Saesneg yn unig)
Astudiaeth achos: Tynnu cored Erbistock, Dam Removal Europe (Saesneg yn unig)
Plannu coed i gefnogi ecosystem Afon Dyfrdwy
Cefnogi ymdrechion cynaliadwyedd Adventure Tours UK (Saesneg yn unig)
Adfer afonydd ar frig yr agenda yng nghynhadledd Llandudno
Trawsnewid Hanesyddol: Mae afon Dyfrdwy wedi’i hadfywio diolch i dynnu cored Erbistog
Cyfraddau goroesi pysgod ifanc yn cael hwb gan waith gwella Afon Dyfrdwy
Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn casglu lluniau prin o lysywod pendoll 'cyn-hanesyddol' wrth i'r tymor silio ddechrau ar Afon Dyfrdwy
CNC yn lansio prosiect LIFE Afon Dyfrdwy gwerth £6.8 miliwn
Tynnu’r gored fawr gyntaf fel rhan o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy
Deorfa Bysgod Rithwir LIFE Afon Dyfrdwy
Offer tracio pysgod o RS Aqua (Saesneg yn unig)
Lluniau anhygoel o eogiaid yn y tymor silio gan ffotograffydd bywyd gwyllt (Saesneg yn unig)
Astudiaeth Achos: System acwstig olrhain pysgod ar waith (Saesneg yn unig)
Astudiaeth Achos: Coredau Llangollen, Dam Removal Europe (Saesneg yn unig)
Gwneud Cored yn Dda ar gyfer Cadwraeth ac yn Ddiogelach ar gyfer Hamdden (Saesneg yn unig)
Dathlu Diwrnod Mudo Pysgod y Byd ar Afon Dyfrdwy
Gwaith i gael gwared ar rwystr yn Afon Dyfrdwy yn annog eogiaid i ymfudo
Disgyblion Ysgol Bro Tryweryn yn gofalu am ddeorfa frithyll yn y dosbarth
Disgyblion Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn i ofalu am ddeorfa frithyll yn yr ysgol

Gwyliwch ein fideos

Tynnu cored afon Teirw
Ffilm drôn o eogiaid yn silio
Uchafbwyntiau o Gynhadledd Ecolegwyr y Parciau Cenedlaethol
Cyfweliad efo Dam Removal Europe o safle tynnu cored Erbistock (Saesneg yn unig)
Ffilm drôn o gladdau (mannau silio) llysywen bendoll y môr islaw cored mesur Neuadd Manley
Ymweliadau safle Cynhadledd Canolfan Adfer Afonydd
Uchafbwyntiau Cynhadledd Canolfan Adfer Afonydd
Cored Caer: Pysgod ifanc yn mynd trwy hollt ar ôl gwaith gwella
Llysywod pendoll y nant yn silio ar y Ddyfrdwy uchaf
Beth yw Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy?
Lansio prosiect LIFE Afon Dyfrdwy
Tynnu cored Afon Tryweryn
Portffolio fideo
Eogiaid yn y Ddyfrdwy
Llysywen bendoll yn silio
Diwrnod Afonydd y Byd
Fideo tros-amser adeiladu croesfan Penaran
Pysgod yn ymdrechu i fyny drwy gored Erbistog
Llysywod pendoll y môr yn silio ar afon Dyfrdwy

Gwrandewch ar ein straeon

Podlediad: Perlau Afon Dyfrdwy - Cydymaith sain
Cerdd: Taith Afon Dyfrdwy
Podlediad Eryri: Afon Dyfrdwy

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth, neu i gysylltu ag aelod o'r tîm, e-bostiwch lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyllid

Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy (LIFE18 NAT/UK/000743) wedi'i ariannu gan raglen LIFE yr UE, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r Ganolfan Adfer Afonydd. Bydd y prosiect, a ddechreuodd ym mis Medi 2019, yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2027.

Logos LIFE, Natura 2000, CNC, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Dwr Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, a River Restoration Centre
Diweddarwyd ddiwethaf