Cyflwyniad

Mae Bwrdd Prosiect Fairbourne - Symud ‘Mlaen, dan arweiniad Cyngor Gwynedd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn aelod ohono, yn dilyn trafodaeth â'r gymuned a phartneriaid allweddol eraill, wedi gosod bwriad i amddiffyn pentref Fairbourne yng Ngwynedd am gyfnod o 40 o flynyddoedd (o 2014).

Cyhyd â bod cyllideb ar gael, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fonitro, a chynnal a chadw ei asedau amddiffyn rhag llifogydd i amddiffyn cymuned Fairbourne.

Bydd y cyfnod o amser hwn yn cael ei adolygu gan ystyried gwybodaeth a ddatblygir fel rhan o brosiect Fairbourne - Symud ‘Mlaen.

Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau yng Ngogledd Cymru ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym wedi ymrwymo i gynnal amddiffynfa llifogydd Fairbourne yn y tymor byr a'r tymor canolig i helpu i leihau'r risg o lifogydd. 

“Ond nid yw'r gwaith hwn yn hawdd gan ein bod yn gweithio yn erbyn natur i ddal y llanw yn ôl ac effaith y llanw ar y bwrdd dŵr daear yn Fairbourne. 

“Rydym yn ddiolchgar i'r gymuned am eu cefnogaeth a’u hamynedd yn ystod gwaith cynnal a chadw’r amddiffynfeydd.”

Y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd

Mae cynllun £6.8 miliwn Cyfoeth Naturiol Cymru yn amddiffyn dros 400 o adeiladau yn Fairbourne rhag llifogydd o aber y Fawddach. Mae’r cynllun hefyd yn gwarchod Fairbourne rhag llifogydd afonol.

Cafodd y cynllun ei gwblhau yn 2015 ac roedd yn cynnwys cryfhau 1.8 milltir o’r amddiffynfeydd llanw yn Fairbourne ac Arthog, ac ailadeiladu gollyngfeydd Henddol a Morfa er mwyn gwella'r rheolaeth ar lifogydd.

Crëwyd sianel llifogydd newydd ar gyfer afon Henddol i ddargyfeirio dŵr i ffwrdd o'r pentref.

Rydan ni’n cydnadbod fod cyfnodau byrion o ddwr afon mewn rhannau o erddi yn rhoi pryder i rai trigolion. Fodd bynnag, dydy’r cyllun heb gael ei gynllunio i atal pob mymryn o lifogi. Yn ystod llif uchel iawn mewn afonydd, bydd yr afon yn dod allan o’i sianel mewn mannau, ac yn gwneud defnydd o’r gorlifdir i atal adeiladu rhag llifogi a chadw pobol yn ddiogel.

Crëwyd ardal morfa heli newydd ym Morfa Friog, yn unol â'r amod cynllunio ar gyfer y cynllun llifogydd. Bydd yr ardal hon yn gwneud yn iawn ar gyfer y cynefinoedd rhynglanwol naturiol a fydd yn cael eu hatal rhag datblygu dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i adeiladu'r cynllun.

Gwaith Cyfredol a Gwaith Parhaus

Cynnal a chadw – yr hyn yr ydym wedi’i wneud yn ddiweddar

i Cornel y Friog

Y ffocws mwyaf diweddar oedd Cornel Friog lle rydym wedi cwblhau gwaith i gryfhau'r amddiffyniad creigiog. 

Mae contractwyr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gosod 20,000 tunnell o greigiau i amddiffyn pentref Fairbourne yng nghornel Friog. 

ii Afon Henddol

Mae rhan o'n hymroddiad parhaus yn cynnwys cynnal a chadw Afon Henddol. Mae hyn yn cynnwys torri chwyn bob blwyddyn, sy'n caniatáu dŵr i lifo'n rhwydd.

Mae set newydd o logiau atal wedi cael eu gosod ar y gilfach i sianel osgoi Ffordd Corsen, sy'n galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i newid cydbwysedd y llifoedd. Bydd hyn yn lleihau'r pwysau ar sianel Ffordd Corsen, a dylai helpu i reoli symptomau dirlawnder megis lawntiau gwlyb.

Rydym wedi gosod offer monitro lefel dwr ar Afon Henddol i wella ein hymateb ymarferol i lefelau afon uchel. Bydd yr wybodaeth hefyd yn fuddiol ar gyfer deall yn well effeithiau glaw trwm ar yr afon.

Morfa Friog

Roedd Morfa Friog yn agwedd allweddol ar ddatblygu Cynllun Llifogydd Fairbourne. Mae’r cynefin morfa rhynglanwol yn fesur lliniaru addas ar gyfer colli cynefinoedd bywyd gwyllt yn y dyfodol o ganlyniad i adeiladu’r cynllun. Ac roedd hyn yn amod o’r cynllun.

Dechreuodd Morfa Friog ddatblygu’n forfa heli yn Nhachwedd 2015 pan wnaed bwlch bychan yn yr arglawdd.

Rydan ni’n cydnobod nad ydy’r safle yn apelgar yn ei gyflwr presennol a bod hyn yn effeithio ar lwybrau cyhoeddus. Ond, rydym am bwylseisio fod yn rhaid rhoi amser i’r cynefin esblygu a bydd natur yn addasu i’r amodau newydd.

Rydan ni yn datblygu cynllun monitro mwy manwl ar gyfer y safle, ac felly bydd ganddon ni fwy o wybodaeth a thystiolaeth ynglyn â’r safle i’w rhannu wrth i’r gwaith yma ddatblygu.Bydd arwyddion newydd yn cael eu gosod er mwyn rhoi gwybodaeth i’r gymuned ac i ymwelwyr ynglyn â’r safle ac i helpu pawn ddeall y gwaith.

Mae pryderon a godwyd ynglyn â chynaladwyedd y llwybrau cyhoeddus yn cael eu hystyried ar hyn o bryd a byddwn yn cydweithio â Chyngor Gwynedd a’r gymuned yng nghyd-destun hyn.  

Bod yn barod ar gyfer llifogydd

Bydd Fairbourne wastad yn profi symptomau llifogydd. Oherwydd y dirwedd wastad, ei safle ar dir isel, a'r bwrdd dŵr uchel, gall dŵr grynhoi yn hawdd ac yn gloi. Trwy weithio gyda'n gilydd, ein her yw cyfyngu'r risg ehangach i’r gymuned a dysgu i addasu’r hyn yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn ymateb.

Mae’n bwysig bod y gymuned yn barod ar gyfer llifogydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Grŵp Wardeiniaid Llifogydd Fairbourne i gynyddu nifer y preswylwyr a gofrestrwyd i dderbyn negeseuon Rhybuddion Llifogydd ar gyfer llifogydd llanw. Mae'r Grŵp Wardeiniaid Llifogydd wedi bod yn ymweld â'r holl adeiladau yn Fairbourne yn y flwyddyn ddiwethaf i hyrwyddo'r gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd, gan ofyn cwsmeriaid i gofrestru neu ddiweddaru eu cofnodion.

Allan o'r 452 adeilad a leolir yn ardaloedd Rhybuddion Llifogydd, naill ai yn Ardal A Fairbourne neu Ardal B, mae 432 o adeiladau bellach wedi'u cofrestru i dderbyn rhybuddion. Mae hyn yn golygu bod 96 y cant o boblogaeth Fairbourne yn fwy parod ar gyfer y posibilrwydd o lifogydd yn y dyfodol.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio gyda Grŵp Wardeiniaid Llifogydd Fairbourne dros y blynyddoedd nesaf i gadw’r Cynllun Llifogydd Cymunedol yn gyfredol.

Mae’r Grwp Wardeniaid Llifogydd hefyd wedi creu eu gwefan eu hunain, y gall preswylwyr ei ddefnyddio i ganfond mwy am yr hyn y gallant ei wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. Mae’r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth am y Cynllun Llifogydd Cymunedol a’r wardeiniaid eu hunain. Cyfeiriad y wefan ydy www.fairbournecommunityfloodplan.cymru

Cysylltwch â'ch Warden Llifogydd am fwy o wybodaeth am Gynllun Llifogydd Cymunedol Fairbourne.

Gall unrhyw un sy'n pryderu am lifogydd edrych ar ei risg llifogydd a chofrestru yn rhad ac am ddim ar gyfer rhybuddion llifogydd trwy ffonio’r Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188 neu drwy ymweld â www.naturalresources.wales/flooding.

Cynnydd a chadw'r gymuned yn hysbys

Rydym yn ymroddedig i ymgysylltu â'r gymuned ynghylch ein gwaith mewn ffordd agored a phwrpasol. Mae dealltwriaeth a chymorth parhaus y gymuned yn bwysig iawn i ni wrth i ni weithio i amddiffyn Fairbourne yn y tymor byr a chanolig.

Gall gwybodaeth a gasglwyd a rhannwyd gan y gymuned fod yn ffynhonnell bwysig o dystiolaeth i helpu i ddeall problemau perygl llifogydd. Gall lluniau o fannau gwlyb a phroblemau llifogydd wneud cyfraniad gwerthfawr wrth archwilio problemau fel hynny wrth i ni barhau i fonitro'r ardal yn agos.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu diweddariadau rheolaidd ynghylch ei waith. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch gweithgareddau rheoli risg llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, cysylltwch â:

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Dyddiad: Mehefin 2019

Diweddarwyd ddiwethaf