Twyni Byw
Yr hyn a wnaethpwyd gan Twyni Byw
Prosiect cadwraeth i adfywio twyni tywod ar hyd a lled Cymru oedd Twyni Byw – bu’n rhedeg tan fis Mehefin 2024. Ail-greu symudiad naturiol y twyni oedd nod y prosiect, a hynny er mwyn adfywio cynefinoedd sy’n gartref i rai o’n bywyd gwyllt mwyaf prin.
Llwyddodd y prosiect pwysig hwn, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, i adfer bron i 2400 hectar o dwyni tywod ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar ddeg safle gwahanol:
Ynys Môn ac Afon Menai
- Tywyn Aberffraw
- Niwbwrch
- Morfa Dinlle
Sir Feirionydd
Bae Caerfyrddin
- Lacharn - Twyni Pendine
- Twyni Pen-bre
- Twyni Whiteford
Pen-y-Bont ar Ogwr
- Cynffig
- Merthyr Mawr
Pam y mae twyni iach yn bwysig
Tirweddau gwyllt eiconig yw twyni tywod. Maent yn gynefinoedd sy’n llawn bioamrywiaeth, lle mae carpedi o degeirianau yn dal i oroesi ochr yn ochr â gloÿnnod byw, adar ac amrywiaeth eang o bryfed sydd dan fygythiad.
Mae ymwelwyr a phobl leol yn trysori twyni tywod oherwydd eu cymeriad unigryw ac maent yn gefnlen i ddiwrnod ar y traeth ac yn fan chwarae naturiol perffaith i bob plentyn.
Mae gan dwyni iach ddigon o dywod moel ac maent yn symud yn gyson. Mae bryniau tywod yn cael eu creu, eu chwythu i ffwrdd a’u hail-greu eto. Mae cymunedau o blanhigion ac infertebratau unigryw ac arbenigol yn ail-gytrefu’r ardal agored yn gyson.
Yn ogystal â bod yn gronfeydd o fioamrywiaeth mae ein twyni yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ehangach drwy ddarparu ateb naturiol wrth amddiffyn yn erbyn llifogydd ac erydiad arfordirol yn ogystal â chynnal llif dŵr a chynorthwyo peillwyr hanfodol megis gwenyn a gloÿnnod byw.
Newidiadau i dwyni tywod
Dros yr 80 mlynedd diwethaf mae oddeutu 90% o’r tywod agored wedi diflannu ac wedi cael ei ddisodli gan laswellt trwchus a phrysgwydd. O ganlyniad mae’r twyni wedi sefydlogi a llonyddu ac mae bywyd gwyllt prin wedi diflannu.
Achoswyd y newid hwn gan ffactorau megis cyflwyno planhigion anfrodorol, diffyg pori traddodiadol, dirywiad ym mhoblogaeth y cwningod a llygredd aer.
Gweithredu dros dwyni tywod
Mae prosiect Twyni Byw wedi cyflawni rhaglen waith ymarferol uchelgeisiol ar y safleoedd rhyngwladol bwysig hyn trwy:
- ailbroffilio twyni i ganiatáu i dywod symud eto
- gostwng wyneb llaciau (pantiau) sych i ail-greu pyllau a chynefinoedd gwlyb
- hyrwyddo pori cynaliadwy gan dda byw a chwningod
- symud prysgwydd a rhywogaethau estron goresgynnol
Cafwyd hefyd raglen helaeth o fonitro cyn ac ar ôl ymyriadau hefyd i olrhain cynnydd y prosiect. Bu’r prosiect Twyni Byw yn ymgysylltu â chymunedau lleol i feithrin dealltwriaeth o werth a phwysigrwydd twyni tywod i bobl a’r amgylchedd. Bu’r prosiect hefyd yn annog pawb i rannu gwybodaeth ar reoli twyni tywod gydag eraill yng Nghymru a thu hwnt.
Nodau llesiant Cymru
Yn ogystal a bod yn gronfeydd bioamrywiaeth, mae twyni tywod Cymru’n helpu i warchod ein hamgylchedd fel amddiffynfeydd naturiol rhag y môr, ac maent yn cynnal a chadw ansawdd a llif dŵr a hybu poblogaethau o bryfed peillio hollbwysig.
Mae traethau a thwyni'n bwysig i economi twristiaeth Cymru ac yn lleoliadau penigamp i hamddena a gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored. Mae Twyni Byw wedi cyfrannu at nodau llesiant y genedl fel a ganlyn:
- cefnogi arferion ffermio traddodiadol
- creu cyfleoedd economaidd i fusnesau
- hyfforddi a datblygu cenhedlaeth newydd o reolwyr amgylcheddol
- galluogi mwy o bobl i ddefnyddio a mwynhau’r twyni, gan hybu iechyd a llesiant yn ei dro.
Dysgu mwy am dwyni tywod
Darllenwch ein newyddion a’n blogiau
Arolwg archaeolegol cyntaf ar hen faes tanio i filwyr - 10 Medi 2024
Arbenigwyr yn ymgynnull ar gyfer cynhadledd twyni tywod - 22 Mai 2024
Cynhadledd Twyni Byw 2024 - 3 Mehefin 2024
Adfer gwlyptiroedd mewn twyni i gefnogi rhywogaethau sydd mewn perygl - 1 Rhagfyr 2023
Gwaith Twyni Byw yn digwydd mewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol - 17 Awst 2023
Diweddariad ar waith Twyni Byw o’n twyni yn y de - 28 Gorffennaf 2023
Dathlu tirweddau unigryw ar ddiwrnod Twyni Tywod y Byd - 20 Mehefin 2023
Gwaith Twyni Byw hanfodol yn parhau yn Aberffraw - 17 Awst 2022
Diweddariad am waith Twyni Byw ar dwyni’r De yn yr haf a’r hydref - 3 Awst 2022
Rhoi hwb i dwyni Ardudwy yr haf a’r hydref hwn - 1 Awst 2022
Gwaith ffensio i ddiogelu a gwella’r cynefinoedd pwysig yng Nghynffig - 13 Ebrill 2022
Ailganfod tegeirian y fign galchog yn nhwyni Talacharn – Pentywyn - 28 Gorffennaf 2022
Gwaith yn digwydd yn Niwbwrch yr haf hwn - 26 Gorffennaf 2022
Y rhesymau y tu ôl i waith prosiect Twyni Byw i dynnu conwydd o’r twyni yn Nhwyni Whiteford - 21 Medi 2021
Sut y bydd prosiect Twyni Byw yn rhoi hwb i dwyni tywod o gwmpas de Cymru - 16 Awst 2021
Diweddariad ar waith Twyni Byw dros yr haf a’r hydref yn Niwbwrch - 2 Awst 2021
Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod ar ei ffordd i dynnu sylw at bwysigrwydd y cynefin - 21 Mehefin 2021
Twyni tywod yn cael hwb ar safle o bwysigrwydd rhyngwladol ar Ynys Môn - 24 Mawrth 2021
Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod cyntaf i’w chynnal ar 25 Mehefin 2021- 24 Mawrth 2021
Adroddiad newydd yn dangos y bydd gwaith cadwraeth yn hybu rhywogaeth brin warchodedig ledled Cymru - 16 Mawrth 2021
Diweddariad gwaith Twyni Byw o Niwbwrch - 10 Mawrth 2021
Gwaith gaeaf hanfodol wedi'i gwblhau yn Nhwyni Pen-bre - 23 Chwefror 2021
Gwaith hanfodol Twyni Byw i gefnogi twyni Cynffig - 2 Chwefror 2021
Gwaith Twyni Byw ar fin rhoi hwb i dwyni tywod Tywyn Aberffraw - 8 Rhagfyr 2020
Adroddiad newydd yn taflu goleuni ar boblogaeth madfall y tywod Cymru - 19 Tachwedd 2020
Gwaith pwysig er mwyn adfywio twyni tywod ym Merthyr Mawr - 5 Hydref 2020
Prosiect Twyni Byw am waredu prysgwydd er mwyn adfywio glaswelltir twyni yn Niwbwrch - 3 Medi 2020
Pa effaith y mae’r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar y prosiect Twyni Byw? - 28 Mai 2020
Adfywio ein twyni tywod - 7 Hydref 2019
Adfywio Twyni Cymru - 7 Awst 2018
Yr haf at y twyni tywod - 30 Mai 2018
Gwyliwch ein fideos
Sut yr ydym yn rheoli twyni tywod mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Gweler Arc-GiS StoryMap Twyni Byw/Sands of LIFE
Gyliwch gwaith y prosiect Twyni Byw i adfywio un o’r llaciau yn Niwbwrch
Gwyliwch ychydig o waith hanfodol y prosiect Twyni Byw yn Nhwyni Pen-bre
Darllenwch ein cylchlythyrau
- Haf / Hydref 2023
- Hydref/Gaeaf 2022
- Haf 2022
- Hydref 2021
- Haf 2021
- Gwanwyn 2021
- Gaeaf 2021
- Hydref 2020
- Haf 2020
- Gwanwyn 2020
- Gaeaf 2020
- Hydref 2019
Rhagor o fanylion y prosiect
Darllenwch mwy o wybodaeth fanwl am y prosiect
Adroddiadau technegol
Arolygon o fadfallod y tywod cyn ymyriadau yn Nhywyn Aberffraw a Thywyn Niwbwrch ar gyfer Twyni Byw
Twyni Byw: Adroddiad arolwg madfallod dŵr cribog
Twyni Byw: Monitro llystyfiant mewn mannau penodol – adroddiad cyn ymyrraeth
Twyni Byw: Adroddiad Infertebratau – Monitro infertebratau cyn ymyrraeth
Arolwg Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol Twyni Byw
Prosiectau Partner
Rhwydwaith Graean Bras a Thwyni Tywod y DU/ UK Sand and Shingle Network
Cysylltu â ni
Am ragor o fanylion, cysylltwcch â’r tîm ymholiadau cyffredinol.
Cyllid
Mae prosiect Twyni Byw wedi cael cyllid gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Bu’r prosiect, a ddechreuodd ym mis Medi 2018, yn rhedeg tan fis Mehefin 2024.