Rhaglen Grant Cymunedau Gwydn Cyfoeth Naturiol

Mae Rhaglen y Grant Cymunedau Gwydn yn canolbwyntio ar adeiladu cymunedau gwydn drwy gynyddu cyfranogiad cymunedol ym myd natur er mwyn cynyddu iechyd a lles a gwydnwch, a bydd yn cyfrannu at flaenoriaethau seiliedig ar leoedd sy’n ymwneud â chymunedau gwydn a nodir yn ein Datganiadau Ardal.

Cafodd CNC 210 o geisiadau, sef cyfanswm o dros £20 miliwn, ac roedd 21 o’r rhain yn llwyddiannus.

Meddai Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau De Orllewin Cymru:

"Rydym yn falch iawn o weld safon y ceisiadau a ddaeth i law ar gyfer Cyllid Grant Cymunedau Gwydn 2022. Mae'n amlwg bod yr ymgeiswyr wedi ymrwymo i ymateb i'r heriau sy'n effeithio ar ein hiechyd a'n lles.
"Rydyn ni'n falch o wasanaethu pobl Cymru a gwneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol.
"Mae ein swyddogaeth o ran rhoi grantiau yn bwysig iawn i ni ac i'r rhai sy’n cael arian gennym; mae'r grantiau'n cefnogi prosiectau ar lawr gwlad sydd o fudd i gymunedau ac amgylchedd Cymru.
"Mae'r blaenoriaethau’r grantiau newydd hyn yn ategu blaenoriaethau Datganiadau Ardal CNC ac yn ein galluogi i annog dulliau cydweithredu newydd i ymateb i'r heriau sy'n wynebu gwahanol ardaloedd yng Nghymru."

Mae ymgeiswyr wedi cael gwybod a ydyn nhw wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer eu prosiectau ai peidio.

Ychwanegodd Martyn:

"Rydym yn deall y bydd ymgeiswyr aflwyddiannus a gyflwynodd geisiadau da yn siomedig.
"Mae'r gystadleuaeth am ein harian yn gref ac fe dderbynion ni lawer mwy o geisiadau nag y gallwn eu cefnogi.
"Ni lwyddodd ceisiadau aflwyddiannus i sgorio'n ddigon uchel o gymharu â'r ceisiadau eraill. Yn anffodus, ni allwn roi adborth penodol ar bob cais.
“Fodd bynnag, hoffem atgoffa ymgeiswyr y gallai ffynonellau cyllid eraill fod ar gael."

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cael eu postio ar ein gwefan pan fydd gwobrau wedi'u cadarnhau.

Diweddarwyd ddiwethaf