Rhybudd i ffermwyr ynglŷn â chael gwared â gwastraff yn anghyfreithlon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i ffermwyr a pherchnogion tir fod yn ymwybodol o geisiadau i storio gwastraff wedi’i fwndelu ar eu tir.

Daw hyn yn sgil digwyddiadau diweddar lle mae ffermwyr ledled Cymru wedi derbyn gwastraff i'w storio dros dro.

Mae'r gwastraff, a all fod yn llosgadwy iawn, nid yn unig yn achosi niwed i'r amgylchedd naturiol ond yn gallu effeithio ar fywoliaeth pobl, gan y bydd perchnogion tir yn gyfrifol am unrhyw gostau neu gamau gorfodi a gymerir gan CNC. 

Dywedodd Mark Oughton o Dîm CNC ar gyfer Mynd i’r Afael â Throseddau Gwastraff: 

"Mae hon yn broblem gynyddol oherwydd gweithredoedd criwiau o droseddwyr ledled Cymru. 
"Mae unigolion sy'n gweithredu ar eu pennau eu hunain neu o dan enw cwmni’n cynnig arian i berchnogion tir storio swm sylweddol o wastraff rheoledig, gan honni mai mesur dros dro ydyw cyn i'r gwastraff gael ei drin ar y safle neu ei anfon i'w ailgylchu.
"Mae mwyafrif yr achosion hyd yn hyn yn dangos nad yw'r gwastraff yn addas i'w drin.”

Fel arfer, mae'r bwndeli’n cynnwys gwastraff cymysg sydd wedi’i dorri’n fân yn rhannol, gan gynnwys plastigau a deunyddiau bioddiraddadwy.

Dylai tirfeddianwyr gofio bod storio gwastraff wedi’i fwndelu yn cael ei reoleiddio'n llym, a bod angen trwydded amgylcheddol arnynt i wneud hynny'n gyfreithlon. 

Nod hyn yw sicrhau bod y deunydd yn cael ei reoli a'i storio'n gywir er mwyn osgoi llygredd a risg tân.

Ychwanegodd Mark:

"Er mwyn diogelu’r amgylchedd a buddiannau ffermwyr a pherchnogion tir, rydym am eu rhybuddio bod y gweithgarwch anghyfreithlon hwn ar gynnydd.
"Er y gallai ymddangos yn gynnig deniadol ennill rhywfaint o arian ychwanegol o dir nad ydych yn ei ddefnyddio, gallech fod yn wynebu camau gorfodi neu gostau glanhau sylweddol os yw'r troseddwyr yn cefnu ar y gwastraff.
Dylai unrhyw un y cysylltir â hwy i storio gwastraff rheoledig neu unrhyw ddeunydd arall ar eu tir ddweud wrthym ar unwaith fel y gallwn ymchwilio i’r mater ymhellach.”

Os gofynnir i unrhyw berchennog tir storio gwastraff ar ei dir, gall roi gwybod i CNC amdano drwy ffonio 0300 065 3000.