Chwech o goedwigoedd y DU at stampiau arbennig newydd Y Post Brenhinol

Llun o chwe stamp, pob un â llun o goedwigoedd gwahanol ar draws y DU

Heddiw (6 Awst 2019), datgelodd y Post Brenhinol gyfres o chwe Stamp Arbennig sy’n dangos golygfeydd godidog ac ysbrydoledig o goedwigoedd ym mhedair gwlad y DU.

Caiff coedwigoedd y DU eu trysori oherwydd y manteision amgylcheddol a ddaw yn eu sgil, fel aer glanach, atal llifogydd a darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt, ac maent yn esgor ar gannoedd ar filiynau o ymweliadau bob blwyddyn – gan alluogi’r cyhoedd i fwynhau coetiroedd ar gyfer gwahanol weithgareddau, o gerdded a mynd am bicnic i wylio adar a beicio mynydd.

Mae’r stampiau’n dangos cymeriad a lliwiau amrywiol coedwigoedd ein cenedl, a gellir eu rhagarchebu yn awr ar www.royalmail.com/forests.

Yn y gyfres ceir lluniau o’r coedwigoedd canlynol: Coed y Brenin, Glen Affric; Coedwig Sherwood; Coedwig Glenariff; Westonbirt, Yr Ardd Goed Genedlaethol; a Choedwig Kielder.

Mae lansio’r stampiau’n cyd-fynd â chanmlwyddiant y Comisiwn Coedwigaeth. Cafodd y Comisiwn Coedwigaeth ei sefydlu ar 1 Medi 1919 a’i gylch gwaith oedd ailgoedwigo’r DU er mwyn cael pren ar ôl i ddarnau enfawr o dir gael eu clirio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, er mwyn cynorthwyo gydag ymdrechion y rhyfel. O'r egin bach yn 1919, mae Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, heddiw yn cwmpasu arwynebedd o 126,000 hectar – sef 6% o Gymru - ac mae'n cyflenwi tua 50% o'r holl bren yng Nghymru.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae gan goed le arbennig ym mywydau cymunedau erbyn hyn, yn union fel y gwnaethant yn 1919, a byddant yn 2119. Mae dathlu'r canmlwyddiant hwn yn ymwneud ag ysbrydoli pobl i rannu ein hangerdd am goetiroedd a choedwigoedd a'n helpu i'w gwarchod a'u gwella am genedlaethau i ddod."

Medd Philip Parker o’r Post Brenhinol:

“A hithau’n ganmlwyddiant y Comisiwn Coedwigaeth, mae’r stampiau newydd trawiadol yma’n dathlu harddwch a llonyddwch ein coetiroedd cyhoeddus, a’r amgylcheddau amrywiol ysbrydoledig sy’n gyrchfan i gannoedd ar filiynau o ymweliadau bob blwyddyn.”

Bydd y stampiau ar werth yn gyffredinol ar 13 Awst ar www.royalmail.com/forests ac mewn 7,000 o Swyddfeydd Post trwy’r DU.

Fesul stamp:

Coed y Brenin

Erbyn hyn, mae Coed y Brenin ger Dolgellau ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn un o goedwigoedd blaenllaw Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae coedwigaeth pren meddal ar draws rhyw 7,650 acer (3,093 hectar) o Barc y Goedwig yn cyfuno â chyfleusterau hamdden ar gyfer beicwyr mynydd a rhwydwaith o lwybrau hardd i heicwyr, gyda’r ganolfan ymwelwyr drawiadol yn ganolbwynt i’r cyfan.

Glen Affric

Caiff coedwig Glen Affric yn Swydd Inverness ei rheoli gan Goedwigaeth a Thir yr Alban ac mae’n rhan o Goedwig Celyddon, a arferai ymestyn yn eang ar draws yr ardal. Pinwydd yr Alban cadarn a choed bedw cain yw’r prif goed a welir yno, lle y mae coedwig, llynnoedd, afonydd a mynyddoedd yn cyfuno i greu lleoliad perffaith yn yr Ucheldiroedd – lle sy’n anhygoel unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond yn enwedig felly pan fydd y coed bedw’n gwisgo’u mantell aur.

Coedwig Sherwood

Mae Coedwig Sherwood yn Swydd Nottingham yn enwog am ei chasgliad toreithiog o goed derw hynafol, fel y Dderwen Fawr. Dengys y llun llawn awyrgylch hwn ar y stamp gelli gwych o gonwydd yng ngolau’r bore bach, gan adlewyrchu’r plannu cymysg a geir ar draws yr holl goedwig.

Coedwig Glenariff

Caiff Parc Coedwig Glenariff yn Swydd Antrim ei reoli gan Wasanaeth Coedwigoedd Gogledd Iwerddon, a cheir yno gymysgedd bendigedig o olygfeydd sy’n galluogi ymwelwyr i fwynhau amrywiaeth eang o deithiau cerdded a gweithgareddau. Y fwyaf ysblennydd o blith y rhain, mae’n debyg, yw Taith Gerdded y Rhaeadr, sef llwybr serth sy’n arwain i fyny ochrau’r ceunant ac ar hyd llwybrau pren uchel, lle y gellir gweld dilyniant o raeadrau dramatig a byd-enwog.

Westonbirt, Yr Ardd Goed Genedlaethol

Westonbirt, Yr Ardd Goed Genedlaethol, yw casgliad coed blaenllaw’r Comisiwn Coedwigaeth yn Lloegr. Fe’i crëwyd gan y teulu Holford cyfoethog bron i 200 o flynyddoedd yn ôl, a dyma un o’r casgliadau botanegol harddaf a mwyaf amrywiol yn y byd. Mae’r safle 600 acer (243 hectar) gyda’i 17 milltir (27 cilometr) o lwybrau’n cynnwys 3,000 o fathau gwahanol o goed, gan gynnwys y coed masarn Japan a welir ar y stamp yn eu lliwiau hydrefol.

Coedwig Kielder

Coedwig Kielder yn Northumberland yw’r goedwig fwyaf a grëwyd gan ddyn ym Mhrydain. Mae’n ymestyn dros 250 milltir sgwâr (647 cilometr sgwâr) ac mae coed yn gorchuddio 75 y cant ohoni. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn cynaeafu oddeutu 500,000 o fetrau ciwbig o bren yma bob blwyddyn. Caiff y llecynnau sydd wedi’u cwympo eu hailblannu trwy ddefnyddio cymysgedd o gonwydd a choed llydanddail, a chaiff rhannau eu gadael yn agored er mwyn creu amrywiaeth o gynefinoedd.

Coedwigoedd trwy’r oesoedd: Mae’r dystiolaeth ysgrifenedig gyntaf o ddynodi coedwigoedd yn warchodfeydd brenhinol i’w chael yn Llyfr Dydd y Farn yn 1086, lle y cofnodir rhyw 25 o safleoedd yn unig. Roedd y rhan fwyaf o’r coedwigoedd y gwyddom amdanynt heddiw wedi’u sefydlu erbyn y drydedd ganrif ar ddeg. Pan gytunwyd ar y Magna Carta yn 1215, ceid bron i 150 o goedwigoedd yn Lloegr yn unig, a oedd yn cyfateb i filiwn acer bron iawn.

Dros amser, llaciodd y Goron ei gafael ar y coedwigoedd, ac fel arfer roedd tirfeddianwyr a chominwyr lleol yn llwyddo i ddod i gytundeb buddiol i’r ddwy ochr o ran llywodraethu a rheoli’r coedwigoedd.

Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, prinhaodd pren y wlad yn sylweddol ar ôl rhoi ymgyrch cwympo coed fawr ar waith. Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn arbennig, effaith enfawr; erbyn ei ddiwedd, gyda choedwigoedd wedi’u dinistrio i gefnogi ymdrechion y rhyfel, roedd llai o’r DU nag erioed o’r blaen wedi’i gorchuddio gan goed – sef 5% yn unig. Mewn ymateb i hyn, pasiwyd y Ddeddf Coedwigaeth, ac ym mis Medi 1919 sefydlwyd y Comisiwn Coedwigaeth gan y Llywodraeth, gan ddangos ei chefnogaeth dros greu coedwigoedd cynhyrchiol, a oedd yn eiddo i’r wladwriaeth, er mwyn tyfu coed newydd i ychwanegu at y cyflenwad prin.