CNC yn lansio ymgynghoriad ar fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol

 Delwedd o ddigwyddiad tipio anghyfreithlon lle mae deunyddiau wedi'u dympio mewn cae

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu ei Bolisi Gorfodi a Chosbi, a fydd yn gwneud y ffordd y mae'n mynd i'r afael â throseddau amgylcheddol o bob math yn haws i'w deall ac yn fwy hygyrch i'r cyhoedd.

Mae'r polisi wedi'i ddiweddaru yn egluro sut mae CNC yn ymgysylltu ag unigolion a busnesau i addysgu ac annog cydymffurfiaeth drwy arferion gwaith da sy'n rhoi'r amgylchedd yn gyntaf. Lle bo posibilrwydd fod trosedd wedi digwydd, mae amrywiaeth o gosbau a phwerau gorfodi ffurfiol ar gael i unioni unrhyw ddifrod amgylcheddol, atal gweithgarwch anghyfreithlon pellach neu gosbi unrhyw droseddau a gyflawnwyd.

Mae CNC yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Polisi Gorfodi a Chosbi. Bydd hyn yn caniatáu i bobl Cymru ddweud eu dweud ar ddull CNC o orfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol.

Dywedodd Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio Dros Dro CNC:

"Mae mynd i'r afael â throseddau amgylcheddol yn flaenoriaeth i CNC ac, er mwyn sicrhau hyn, rydyn ni’n defnyddio ystod eang o ddulliau ar gyfer gorfodi a chosbi, gan gynnwys rhybuddion, cosbau penodedig, rhybuddiadau, ymgymeriadau gorfodi ac erlyn yn y Llys.
"Mae'r cosbau hyn wedi'u cynllunio i atal gweithgarwch anghyfreithlon rhag digwydd, cosbi troseddwyr a gwneud iawn i gymunedau ac unigolion y mae gweithgarwch anghyfreithlon wedi effeithio arnynt.
"Yn y pen draw, mae'r dedfrydau ar gyfer achosion erlyn yn cael eu penderfynu gan y Llys, gydag unrhyw ddirwyon yn cael eu talu i Drysorlys Ei Mawrhydi. Fodd bynnag, nod ein Polisi Gorfodi a Chosbi diwygiedig yw gwneud y broses y tu ôl i'n penderfyniadau gorfodi’n gliriach.
"Rydyn ni hefyd am roi gwell dealltwriaeth i bobl o sut a pham rydyn ni’n cymryd gwahanol ddulliau o fynd i'r afael ag achosion unigol."

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Bolisi Gorfodi a Chosbi CNC yn agor ar 16 Awst ac yn rhedeg am X wythnos, tan 27 Medi.

I gael gwybod mwy a dweud eich dweud, ewch i Polisi Gorfodi a Chosbau Cyfoeth Naturiol Cymru - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space