CNC yn cadarnhau algâu tymhorol ar rai o draethau Cymru

Logo CNC

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cadarnhau wrth bobl leol ac ymwelwyr fod traethau Cymru’n lân ac yn iach er bod sylwedd wedi ymddangos yn y dŵr ac ar y traethau mewn rhai ardaloedd.

Mae swyddogion wedi derbyn rhai adroddiadau oddi wrth bobl yn pryderu ynghylch yr hyn sy’n ymddangos fel carthion neu slyri ar y traeth neu yn y dŵr mewn rhannau o Dde a De-orllewin Cymru.

Ymchwiliwyd i’r rhain a nodwyd eu bod yn cael eu hachosi gan algâu bach sy’n bresennol yn naturiol ac sy’n ffynnu mewn tywydd cynnes.

Mae pobl yn aml yn camgymryd yr algâu am garthion neu lygredd o fath arall oherwydd eu golwg olewog a’u harogl sy’n weddol debyg i wymon.

Meddai Fiona Hourahine, sy’n Rheolwr Gweithredu ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae gennym draethau arbennig yng Nghymru ac ansawdd dŵr gwych gyda dros 80% o ddyfroedd ymdrochi’n cyrraedd y safonau uchaf o ran glendid.

“Yr adeg hon o’r flwyddyn, rydym fel arfer yn derbyn rhai adroddiadau am lygredd posib ar yr arfordir. Rydym yn trin pob un o ddifrif ac yn asesu pob adroddiad.

“Er gwaethaf eu golwg annymunol, algâu cyffredin sydd wrth wraidd y rhan fwyaf o’r adroddiadau hyn.

“Mae tywydd cynnes yn rhoi’r amodau cywir i’r algâu ymddangos a byddant yn ymwasgaru’n naturiol gydag amser.”

Gall pobl roi gwybod am yr hyn maent yn ei weld ar linell gymorth digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru: 0300 065 3000  neu arlein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol (naturalresources.wales)

DIWEDD