Lansio cynllun grantiau newydd i gael gwared â rhwystrau i fynediad at fyd natur

Bydd cronfa gyllid gwerth £2 filiwn sydd â’r nod o gryfhau gwydnwch cymunedol drwy fanteisio ar bŵer byd natur yn cael ei lansio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr haf hwn. 

Rydym yn lansio'r Rhaglen Grant Cymunedau Gwydn yn sgil galwadau am adferiad gwyrdd ar ôl pandemig Covid-19 – adferiad sy'n rhoi mwy o sylw ar weithredu dros natur ac adferiad sy'n lledaenu i bob rhan o gymdeithas.

Mae’r ffaith i Lywodraeth Cymru ddatgan Argyfwng Hinsawdd a Natur hefyd wedi symbylu cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i gydweithio i liniaru effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddynt, yn awr ac yn y dyfodol.

Bydd y Grant Cymunedau Gwydn yn rhoi cyfleoedd i gymunedau adfer a gwella natur yn eu hardaloedd lleol, yn enwedig yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, a'r rheini nad oes ganddynt fawr o fynediad at natur. Bydd cefnogi'r gwaith o ddarparu mwy o fannau gwyrdd hefyd yn cefnogi'r newidiadau y mae angen eu gwneud i gymdeithas er mwyn ymateb i heriau'r argyfwng hinsawdd a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

 Gyda cheisiadau ar fin agor ym mis Gorffennaf, mae CNC yn annog prosiectau o bob rhan o Gymru i ddatblygu a chyflwyno cynigion sy’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Cyfleoedd i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig ymhlith cymunedau sydd â llai o fynediad i fannau gwyrdd o ansawdd.
  • Ffyrdd creadigol o ailgysylltu pobl â natur a'u hamgylchedd lleol er mwyn gwella iechyd corfforol a meddyliol, hyder, hunan-barch ac annog 'ymddygiadau gwyrdd'.
  • Hyrwyddo iechyd a lles drwy therapi a natur, yn enwedig ymyriadau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
  • Atebion sy'n seiliedig ar natur sy'n helpu cymunedau i deimlo'n fwy diogel, er enghraifft gwella mannau gwyrdd lle mae gweithgarwch troseddol yn rhemp.
  • Creu mwy o gyfleoedd i gael mynediad at natur, yn enwedig lle mae'r angen hwn yn cael ei adlewyrchu mewn cynlluniau datblygu yn y dyfodol.
  • Cyfleoedd i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y gymuned o risgiau’r hinsawdd, gan rymuso cymunedau i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau a chymryd camau i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd.
  • Sicrhau bod cymunedau'n cael ymdeimlad o rym a chysylltiad â’u hamgylchedd naturiol a bod ganddynt rôl weithredol o ran sut y caiff ei reoli a'i wella.
  • Creu cyfleoedd ar gyfer addysg a chymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion fel bod gan gymunedau well cysylltiad a gwell dealltwriaeth o'u hamgylchedd lleol a'r manteision y gall amgylchedd iach eu cynnig.

Meddai Gareth O’Shea, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer CNC:

"Rydym wedi gweld pobl yn cysylltu â natur yn ystod pandemig Covid-19 a mwy o werthfawrogiad o'r ffordd y mae'n sylfaen i'n hiechyd, ein heconomi a'n lles ehangach.

"Mae cydnabyddiaeth gynyddol hefyd fod yr argyfyngau hinsawdd a natur wedi cyrraedd, ac mae eu heffeithiau'n cael eu teimlo ymhlith y rhannau o gymdeithas sydd wedi cyfrannu leiaf at eu gwaethygu. Mae angen gwneud mwy i liniaru ac addasu nawr.

"Mae ein Rhaglen Grant Cymunedau Gwydn yn ceisio cefnogi'r ymdrech honno – gan roi cyfleoedd i gymunedau ymateb i'r heriau hyn mewn nifer o ffyrdd.

"O hyrwyddo manteision mwy o fynediad at natur, mynd i'r afael ag unigrwydd ac allgáu cymdeithas a grymuso pobl i ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir yn eu hardaloedd lleol, rydym yn annog pobl i gyflwyno cynigion a all wneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd, lles a gwydnwch cenedlaethau heddiw a'r dyfodol."

Gall y Rhaglen Grant Cymunedau Gwydn ddarparu 100% o’r cyllid a chroesewir ceisiadau am symiau o £10,000 i £250,000. Gellir gwneud ceisiadau ar draws gwahanol leoedd a mynd i'r afael â themâu lluosog. Mae croeso cynnes hefyd i ymgeiswyr sy'n cydweithio â phartneriaid eraill i gyflwyno ceisiadau ar y cyd.

I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Grant Cymunedau Gwydn CNC a'r weminar sydd ar y gweill, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfleoedd cyllid grant presennol neu cysylltwch â grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk