Prosiect ysgolion Cyngor Sir y Fflint yn hyrwyddo'r defnydd o’r Gymraeg yn yr awyr agored

Mae prosiect peilot dan arweiniad Cyngor Sir y Fflint yn canolbwyntio ar hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn yr awyr agored.

Gan weithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Urdd, bydd hyfforddiant a gweithgareddau yn cael eu darparu ar gyfer ysgolion cynradd ail iaith yn Sir y Fflint i annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg wrth ddysgu yn yr awyr agored.

Mae Cyngor Sir y Fflint eisoes wedi cyflwyno menter i ddarparu hyfforddiant a chymorth i athrawon ac ymarferwyr ysgolion er mwyn iddynt allu cynyddu'r amser a dreulir yn dysgu yn yr amgylchedd naturiol, amdano ac ar ei gyfer.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, sef Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid:

 "Mae hon yn fenter wych a bydd y cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored yn cynnig cyfle i'n myfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau iaith wrth gael hwyl yn yr awyr iach.  Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf i'r Gymraeg ac rydym yn cefnogi myfyrwyr i wella eu sgiliau Cymraeg ac am roi'r hyder iddynt ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd."

Mae wyth ysgol gynradd yn cymryd rhan yng ngham peilot y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys diwrnod o hyfforddiant dysgu yn yr awyr agored i athrawon a ddarparwyd gan CNC ym Mharc Treftadaeth Amgueddfa Dyffryn Maes Glas, Treffynnon ddoe (9 Mawrth).

Dywedodd Sue Williams, Arweinydd Tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol CNC:

"Mae'r amgylchedd naturiol yn lleoliad perffaith i hyrwyddo dysgu, deall a siarad Cymraeg fel ail iaith.
"Mae'n darparu amgylchedd hamddenol, difyr a chyffrous sydd bob amser yn darparu rhywbeth newydd i'w archwilio a'i ddarganfod. Mae'n cynnig amgylchedd dysgu gwahanol i'r ystafell ddosbarth sy’n gallu helpu i roi profiadau gwahanol i blant i gefnogi cynnydd ym maes iaith a llythrennedd.
"Mae Llywodraeth Cymru yn argymell dysgu yn yr awyr agored fel dull allweddol o gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae ei fanteision sylweddol o ran iechyd a lles hefyd yn hysbys i bawb. Mae cyfle gwirioneddol i ymgorffori’r broses o ddysgu iaith yn yr awyr agored wrth i ysgolion roi’r Cwricwlwm newydd ar waith."

Yn dilyn yr hyfforddiant i athrawon dan arweiniad CNC ddechrau mis Mawrth, cynhelir diwrnod o weithgareddau awyr agored drwy gyfrwng y Gymraeg gan yr Urdd ym mhob ysgol sy'n cymryd rhan.

Dywedodd Sion Lloyd, Uwch Swyddog yr Urdd - Gwasanaeth Gweithgareddau Awyr Agored:

"Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect mor arloesol a chyffrous. Mae ein sesiynau Dysgu y Tu Allan i'r Ystafell Ddosbarth yn canolbwyntio ar Iechyd a Lles disgyblion, gan hefyd ymgorffori'r defnydd o batrymau Cymreig a Chymraeg.
"Mae ein hyfforddwyr yn darparu amrywiaeth o weithgareddau, lle gall athrawon a chynorthwywyr addysgu arsylwi a gofyn cwestiynau. Mae hyn yn helpu i fagu hyder staff yr ysgol i gyflwyno'r gweithgareddau'n annibynnol, a fydd, gobeithio, yn helpu i ddatblygu Dysgu yn yr Awyr Agored fel rhan o amserlen a chwricwlwm yr ysgol yn y dyfodol."