Galw ar drigolion ardal coedwigoedd Usk and Glasfynydd i ddweud eu dweud ar gynllun rheoli coedwig newydd

Bryniau â choedwigoedd

Mae trigolion yn ardal coedwigoedd Wysg a Glasfynydd ger Llanymddyfri yn cael eu hannog gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i roi eu barn ar gynllun newydd i reoli'r coedwigoedd.

CNC sy’n rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru ledled y wlad, ac mae’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn galluogi pobl i ddylanwadu ar y modd y rheolir y goedwig yn y deng mlynedd nesaf a thu hwnt.

Dywedodd Brian Hanwell, Uwch Reolwr Tir ar ran CNC:
"Mae'n bwysig bod y coedwigoedd rydym yn eu rheoli yn cynnig llawer o fanteision. O gyfleoedd hamdden a chynhyrchu pren, i ymladd yr argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym i gyd yn eu hwynebu, mae arnom angen barn pobl leol ar ein cynlluniau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'u dymuniadau a'u blaenoriaethau nhw.
"Rydym yn annog trigolion i gael golwg ar y cynlluniau a dweud eu dweud arnynt."

Gall preswylwyr ddod o hyd i'r cynlluniau ac ymateb i'r ymgynghoriad drwy fynd i wefan ymgynghori CNC ar: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/forest-planning-cynllunio-coedwig/cynllun-adnoddau-coedwig-wysg-a-glasfynydd

Fel arall, gall trigolion ffonio 0300 065 3000 a gofyn i gael siarad ag un o’r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad. Wedyn bydd modd gofyn am gopïau o’r dogfennau drwy’r post.

Gall trigolion sy’n dymuno cyflwyno sylwadau eu hanfon i: Cyfoeth Naturiol Cymru, Heol Llanfair, Llanymddyfri, Sir Gar, SA20 0AL.

Bydd yn rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau neu gwestiynau erbyn 21 Tachwedd 2021 fan bellaf.