Lansio arddangosfa a gwaith celf mawndir newydd yn Nhregaron

Cafodd arddangosfa newydd a murlun celf fosaig a ysbrydolwyd gan y gwaith i adfer y dirwedd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron (GNG) cael eu dadorchuddio i'r cyhoedd ar ddydd Mercher 13 Ebrill yn Nhregaron.

Mae’r arddangosfa drawiadol newydd yn rhoi tro modern ar waith tîm Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Warchodfa Natur.

Mae’r gwaith celf allanol yn cynnwys wyth teil mosaig a ddyluniwyd gan yr artist cymunedol Pod Clare, gyda myfyrwyr Ysgol Gynradd ac Uwchradd Ysgol Henry Richard, trigolion Cartref Gofal Bryntirion yn Nhregaron, Canolfan Deulu Tregaron, gwirfoddolwyr lleol ac aelodau o’r gymuned leol.

Dywedodd Jake White, Rheolwr Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE: “Mae’r ganolfan yn cynnwys llawer o wybodaeth am Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron a’i chynefin cyforgors sy’n bwysig yn rhyngwladol.
“Pa ffordd well o ddathlu ein prosiect a’r warchodfa na cheisio creu darluniad gweledol ohono trwy gelf, a chael y dref gyfan i gymryd rhan ar yr un pryd.”

Mae'r mosaigau yn ddelwedd o'r gwaith adfer a wnaed gan Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE ar Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron.

Mae’r mosaigau’n dangos glaswellt Gwellt y Gweunydd yn cael ei dorri gan y peiriant cynaeafu gwlyptir unigryw a chreu byndiau, cloddiau gwastad bach o fawn, sydd wedi’u creu i ddal dŵr ar gromenni’r gyforgors.

Mae’r mosaigau hefyd yn arddangos y planhigion a’r bywyd gwyllt pwysig sy’n galw’r warchodfa’n gartref.

Bu'r artist, Pod Clare, yn gweithio gyda grwpiau cymunedol dros gyfnod o fis i drafod y prosiect a'i gynlluniau adfer gyda nhw. Yn dilyn y sgwrs, gofynnwyd i’r grwpiau helpu i greu’r teils mosaig, sydd bellach wedi’u gosod ar y Ganolfan i ymwelwyr eu mwynhau.

Os hoffech weld y gwaith celf ac arddangosfa bydd Canolfan Dreftadaeth y Barcud Coch ar agor i ymwelwyr o ddydd Llun y Pasg tan fis Medi, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae mynediad am ddim.

Am fwy o wybodaeth am prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE ewch i'n tudalen Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBog neu dudalen Twitter @Welshraisedbog 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru