ORML2233 Trwydded Forol Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr

Cyhoeddwyd Trwyddedau Morol ar 15 Tachwedd 2023 i Awel y Môr Offshore Wind Farm Limited ar gyfer Fferm Wynt Alltraeth Sefydlog o'r enw Awel y Môr. Gellir dod o hyd i'r Trwyddedau Morol a'r Ddogfen Benderfyniad ar ein cofrestr gyhoeddus.

Ar gyfer beth mae’r drwydded forol?

Mae Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr yn chwaer brosiect arfaethedig i Fferm Wynt Alltraeth weithredol Gwynt y Môr oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd Awel y Môr yn cynnwys hyd at 50 o Eneraduron Tyrbinau Gwynt a'r holl seilwaith cysylltiedig sydd ei angen i drosglwyddo'r trydan a gynhyrchir i'r lan.

Mae ardal aráe Awel y Môr tua 10.5km oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Mae Coridor y Cebl Allforio yn y môr yn ymestyn o ffin dde-orllewinol i ffin dde-ddwyreiniol ardal yr aráe i gyfeiriad y de-ddwyrain i gwrdd â’r tir ar Draeth Frith rhwng y Rhyl a Phrestatyn.

Y tu allan i gwmpas y drwydded forol hon, mae Coridor Cebl Allforio ar y tir yn ymestyn o'r tir i'r is-orsaf ar y tir i'r gorllewin o Barc Busnes Llanelwy cyn cysylltu ag is-orsaf y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan.

Pa fathau eraill o ganiatâd sydd eu hangen ar y prosiect?

Rhoddwyd Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer y Prosiect gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 20 Medi 2023. Mae rhagor o wybodaeth am y Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Diweddarwyd ddiwethaf