Gwaith i wella ansawdd dŵr llyn ar Ynys Môn

Mae ffensys wedi cael eu codi ar safle cadwraeth, i wella ansawdd dŵr ac amddiffyn bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.

Gwnaed y gwaith gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ger Llyn Coron, rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Tywyn Aberffraw ac Ardal Cadwraeth Arbennig Twyni Abermenai i Aberffraw, fel rhan o waith CNC i gyflawni Rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.

Bydd ffensio’n gwella ansawdd dŵr drwy atal gwartheg rhag pori ger y dŵr ac atal maetholion rhag mynd i mewn i’r cwrs dŵr.

Cafodd cafn yfed arall ei ddarparu ar gyfer y gwartheg.

Gwnaed y gwaith mewn partneriaeth â thirfeddianwyr cyfagos.

Dywedodd Huw Jones, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru:

“Mae Llyn Coron wedi dioddef o lefelau gormodol o faetholion, yn enwedig ffosfforws a nitrogen. Gall y rhain ddod o amrywiaeth o ffynonellau megis dŵr gwastraff o gartrefi, gweithgareddau amaethyddol, a hyd yn oed llygredd aer yn achos nitrogen.
“Bydd y ffens da byw yn creu clustogfa cynefin rhwng y da byw a’r dŵr, ac yn atal sathru ac erydiad ar lan y llyn, sy’n golygu bod llai o faetholion yn mynd i mewn i’r llyn.
“Gall lefelau uchel o faetholion effeithio ar fywyd gwyllt a bioamrywiaeth oherwydd twf gormodol o algâu, gan gynnwys algâu gwyrddlas sy'n wenwynig i bobl ac anifeiliaid eraill.
“Pan fo gormod o algâu yn dadelfennu, mae lefelau ocsigen yn y dŵr yn lleihau.  Gall hyn fod yn angheuol i bysgod a bywyd gwyllt arall, fel infertebratau.
“Ni all llawer o algâu a rhywogaethau o blanhigion sydd fel arfer yn byw mewn llyn gystadlu â rhywogaethau sy’n tyfu gyflymaf pan fydd lefelau nitrogen yn cynyddu, gan arwain at golli amrywiaeth.
“Hoffwn ddiolch i dirfeddianwyr sy’n gweithio gyda ni ar y prosiect hwn sy’n helpu CNC i fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd, drwy warchod ac adfer cynefinoedd naturiol.”

Mae rhagor o waith ffensio yn cael ei gynllunio ar dir ger prif lednentydd y llyn yn ddiweddarach eleni.