Y diweddaraf ar y gwaith sy’n digwydd yn Niwbwrch

Mae gwaith adfer a rheoli yn parhau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn yr hydref hwn.

Bydd y gwaith yn digwydd ar draws y safle ac yn cynnwys adfer cynefin glaswelltir y blaendwyni a’r llaciau yn Nhwyni Penrhos.

Mae Niwbwrch yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru, sy’n cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt prin fel tegeirianau, amffibiaid, infertebratau, mwsoglau a chen.

Bydd prosiect Twyni Byw, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cynnal gwaith i symud conwydd marw o’r blaendwyni a chreu pentyrrau cynefin - mannau lle gall bywyd gwyllt ddod o hyd i gysgod diogel, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf.

Mae Twyni Byw yn brosiect cadwraeth mawr sydd wrthi’n adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Gadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru.

Dywedodd Jake Burton, Swyddog Prosiect Twyni Byw yn CNC:
"Tua diwedd mis Hydref, byddwn yn cael gwared â phinwydd Corsica marw o Dwyni Penrhos, a fydd yn helpu i adfer glaswelltir y twyni a chreu ardaloedd agored ar gyfer planhigion blodeuol trawiadol i ffynnu.
"Bydd y conwydd marw yn cael eu symud o fewn Coedwig Niwbwrch, lle bydd pentyrrau cynefin yn cael eu creu. Dros amser, bydd y cynefinoedd newydd hyn yn dod yn gartrefi arbennig i famaliaid, amffibiaid, infertebratau, a ffyngau prin gael ffynnu.
"Mae'r gwaith hanfodol hwn yn helpu i ddiogelu a gwella gwerth Niwbwrch o ran cadwraeth natur ac mae sicrhau bod safleoedd fel y rhain yn iach yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng sydd ar hyn o bryd o ran yr hinsawdd a natur."

Bydd CNC hefyd yn rheoli nifer o brosiectau cadwraeth ar draws y safle rhwng mis Hydref a mis Chwefror a fydd yn cynnwys rheoli prysgwydd a thorri glaswellt er mwyn adfer llwybrau a mannau agored sy'n cefnogi rhywogaethau prin.

Bydd y gwaith o adfer nodweddion daearegol yng Ngherrig Duon, Bryn Llwyd a Cherrig Mawr yn golygu clirio coed sydd wedi disgyn, coediach, mieri a phrysgwydd ar frigiadau i wella gwedd y safle a mynediad at yr adnodd daearegol hwn.

Yn ddiweddar, enwyd Ynys Llanddwyn, sy'n rhan o'r warchodfa natur genedlaethol, yn rhestr y 100 o Safleoedd Treftadaeth Daearegol Cyntaf - safleoedd daearegol allweddol o bwysigrwydd gwyddonol rhyngwladol - gan Undeb Rhyngwladol y Gwyddorau Daearegol a UNESCO.

Dywedodd Richard Berry, Arweinydd Tîm Rheoli Tir CNC ar gyfer Niwbwrch:
"Mae'r gwaith hwn yn rhan o gylch gwaith CNC i gynnal ac adfer cynefinoedd a nodweddion o bwys, a bydd yn gwella ansawdd a gwerth cadwraeth y safle yn ei gyfanrwydd.
"Bydd yn helpu i wella a diogelu bioamrywiaeth, daeareg a bywyd gwyllt ar y safle ac yn cynnig manteision yn y dyfodol.
"Mae'n bosib y bydd rhaid rhoi mân wyriadau ar waith lwybrau mewn mannau, fodd bynnag, bydd gwaith yn cael ei wneud mor sensitif â phosib er mwyn ceisio peidio â tharfu.
"Hoffem ddiolch i aelodau'r cyhoedd am eu dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag aelodau'r gymuned a rhanddeiliaid ar ein gwaith o reoli'r safle pwysig hwn sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol."