Arolwg i helpu i warchod ystlumod prin yng Ngogledd Cymru

Mae map digidol yn cael ei greu o fynedfeydd a siafftiau mwyngloddio segur sydd o bosib yn cael eu defnyddio gan fath prin o ystlum.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn defnyddio cyllid o Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru i wneud gwaith monitro cynefinoedd sylfaenol ar gyfer ystlumod pedol lleiaf yn Ardal Cadwraeth Arbennig Mwyngloddiau Coedwig Gwydir.

Bydd y gwaith yn cynnwys arolwg cynhwysfawr ar draws y goedwig o nodweddion lle gallai ystlumod fod yn gaeafgysgu a chlwydo, a bydd yn llywio gwaith coedwigaeth, diogelwch, cadwraeth a rheoli dŵr ar y safle yn well.

Bydd y gwaith monitro yn cynnwys arolwg ar droed i fapio ac asesu'r holl siafftiau, mynedfeydd a cheuffyrdd mwyngloddio o uwchben y ddaear i greu map digidol cynhwysfawr cyn ail arolwg wedi'i dargedu i gasglu gwybodaeth fanylach am niferoedd ystlumod a’u defnydd o’r safle.

Mae ystlumod pedol lleiaf, sydd o faint eirin gyda lled adenydd o 20-25cm, yn brin yn y DU ac yn cael eu gwarchod o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rheoliadau Cynefinoedd 2017.

Dywedodd Sam Dyer, Cynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer Cynefinoedd a Rhywogaethau Daearol:

“Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Mwyngloddiau Fforest Gwydir yn cynnwys nodweddion gaeafgysgu pwysig ar gyfer yr ystlum pedol lleiaf.
“Mae pob rhywogaeth o ystlumod wedi'u gwarchod gan y gyfraith ac yn arbennig o agored i gael eu tarfu wrth aeafgysgu.
“Felly, mae gwarchod safleoedd gaeafgysgu a'r cynefin cyfagos yn allweddol er mwyn i ystlumod ffynnu ar y safle.
“Bydd gwybod mwy am sut mae'r nodweddion mwyngloddio yn cael eu defnyddio gan ystlumod yn ein galluogi i reoli'r goedwig ehangach yn well ar gyfer yr ystlumod, gan sicrhau gwydnwch y rhywogaeth hon yn y dyfodol.
“Er bod hwn yn arolwg cynhwysfawr ar draws y goedwig, mae gwirfoddolwyr, gan gynnwys rhai o Grŵp Ystlumod Gwynedd, wedi bod yn cynnal arolygon o rai o'r mwyngloddiau ers blynyddoedd lawer a hoffem ddiolch iddynt am eu hymdrechion.”

Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn fenter a gyflwynir mewn partneriaeth gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a CNC i gryfhau gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd daearol a morol gwarchodedig, gan gefnogi adferiad natur ac annog ymgysylltiad cymunedol.