Mae samplwyr yn cyrraedd y traethau wrth i’r gwaith samplu dŵr ymdrochi ddechrau

Wrth i’r addewid o ddiwrnodau hirfelyn tesog ar lan y môr agosáu, mae samplwyr dŵr ymdrochi Cyfoeth Naturiol Cymru yn dychwelyd i’r glannau unwaith eto i brofi 109 dŵr ymdrochi dynodedig Cymru.

Rhwng 15 Mai a 30 Medi bob blwyddyn, bydd samplau yn cael eu casglu ym mhob safle dŵr ymdrochi, ac yn cael eu dadansoddi yn y labordy. Mae'r dadansoddiad yn edrych ar lefelau Escherichia coli (E. coli) ac enterococci’r coluddion (IE).

Yna mae canlyniadau cyfnod treigl o bedair blynedd yn pennu'r dosbarthiad ar gyfer y tymor dŵr ymdrochi nesaf; rhagorol, da, boddhaol neu wael.

Y llynedd, llwyddodd 99% o ddyfroedd ymdrochi i fodloni'r safonau gofynnol, gydag 80% yn bodloni'r meini prawf 'rhagorol'.

Eleni, mae dau ddŵr ymdrochi ychwanegol newydd wedi cael eu dynodi gan Lywodraeth Cymru – Aberogwr, Pen-y-bont ar Ogwr a Hen Harbwr y Barri. Mae'r dynodiadau newydd yn ganlyniad i ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru.

Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Waeth sut y byddwch yn dewis defnyddio ein dyfroedd ymdrochi – nofio dŵr oer yn y bore, padlo gyda’r plant neu syrffio gwefreiddiol – mae’n un o bleserau mawr bywyd, ac yn llesol i’r corff a’r meddwl.
“Rydym yn falch iawn o’n record dyfroedd ymdrochi yma yng Nghymru, gyda 85 ohonynt yn cyrraedd safon ragorol y llynedd. Mae hyn yn dyst i waith caled ein timau a’n partneriaid ar lefel leol a chenedlaethol i leihau llygredd.
“Rydym yn deall bod mwy nag erioed o bobl erbyn hyn yn poeni am lygredd. Mae diogelu a gwella ansawdd ein dŵr yn un o’n prif flaenoriaethau, a byddwn yn parhau i ddefnyddio ein pwerau i ysgogi gwelliannau pellach ac i gydweithio â phartneriaid i fynd i’r afael â heriau niferus ansawdd dŵr.”

Mae gwybodaeth am ble i ddod o hyd i ddyfroedd ymdrochi dynodedig, a safon y dŵr ymdrochi ar gael ar wefan CNC.

Cyhoeddwyd adroddiad llawn ar ganlyniadau tymor dŵr ymdrochi 2022 hefyd ar wefan CNC y mis diwethaf.