Dewch i ddarganfod yr awyr agored yng Nghymru y gwanwyn hwn

Coetir gyda chlychau'r gog

O garpedi ysblennydd o glychau’r gog y coedwigoedd i gyfuniadau persawrus o berlysiau gwyllt, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dewis pump o’r llwybrau cerdded gorau un mewn coetiroedd ledled Cymru lle gall pobl o bob oedran a gallu fwynhau golygfeydd, synau ac aroglau’r tymor.

Mae'r pum taith gerdded wanwynol yn cynnwys llwybr hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a theuluoedd sydd â chadeiriau gwthio, a llwybr hawdd sy'n addas ar gyfer sgwteri symudedd oddi ar y ffordd. Mae pob llwybr yn arwain ymwelwyr drwy goetir a reolir gan CNC.

Mae’r holl lwybrau cerdded wedi’u harwyddo o'r dechrau i'r diwedd ac wedi'u graddio i roi syniad o ba mor anodd ydynt. Mae'r panel gwybodaeth ym man cychwyn y llwybr yn dangos pa arwyddbyst (saeth liw neu symbol arall) i'w dilyn ac am beth i chwilio wrth gerdded.

Dyma bum llwybr cerdded gwanwynol CNC:

  • Llwybr Nant Melindwr, Coed y Fron Wyllt, ger Rhuthun - llwybr drwy’r coetir â bordor o glychau’r gog a briallu.
  • Llwybr Cefndeuddwr, Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau - llwybr hawdd ar gyfer sgwteri symudedd oddi ar y ffordd drwy goetir ffawydd llawn clychau’r gog.
  • Llwybr Gogerddan, Coed Gogerddan, ger Aberystwyth - arddangosfeydd syfrdanol o glychau’r gog ymysg coed hynafol.
  • Llwybr Nash, Coed Nash, ger Llanandras - coetir gwledig yn ardal y Gororau â’i drwch o glychau’r gog.
  • Llwybr Pren y Gwern, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger Y Fenni - blodau’r gwanwyn ar ymylon llwybr pren hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn, sy’n arwain drwy goetir gwernog.

Meddai Mary Galliers, cynghorydd hyrwyddo hamdden a mynediad CNC:

"Mae'r DU yn gartref i hanner poblogaeth y byd o glychau'r gog. Bydd y rhai sy’n ymweld â'n safleoedd yn cael gwledda ar liw glas tanbaid y clychau'r gog brodorol ochr yn ochr â lliwiau tyner briallu a blodau’r gwynt ar ein llwybrau cerdded. Mae coetiroedd hefyd yn gartref i gannoedd o rywogaethau o blanhigion gan gynnwys mwsoglau, cennau a rhedyn.

"Clustfeiniwch am amrywiaeth o adar yn canu a fydd yn eich dilyn ar eich taith, o alwad unigryw a pherfformiad drymio rhythmig y Gnocell Fraith Fwyaf i drydar telor y coed yn uchel yn y brigau.

"Mae'r gwanwyn hefyd yn amser i fwynhau aroglau meddwol byd natur – o bersawr melys ysgafn clychau’r gog i beraroglau sawrus garlleg gwyllt a suran y coed."

Ceir rhagor o fanylion am ymweld â’r coetiroedd hyn ar wefan CNC: www.cyfoethnaturiol.cymru/llwybrau-cerdded-y-gwanwyn

Efallai y bydd angen i CNC gau cyfleusterau ymwelwyr neu lwybrau ar adegau tra bydd gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau yn digwydd. Edrychwch ar we-dudalen y coetir cyn gadael.