Er mwyn helpu’r boblogaeth ddyfrgwn yng Nghymru i oroesi a ffynnu, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i bobl sylwi ar ddyfrgwn marw a rhoi gwybod amdanynt, a hynny’n rhan o brosiect ar draws y DU.

Sefydlwyd Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd yn 1992 i gynnal awtopsïau ar ddyfrgwn marw, i fapio’u hamrywiaeth enetig, eu hoedran a’u dosbarthiad ar draws y DU, a monitro llygredd mewn afonydd a nentydd. 

Mae gwybodaeth am ddyfrgwn yn anodd i’w chasglu oherwydd eu natur swil, ond er mwyn cynnal y rhywogaeth mae angen i wyddonwyr greu darlun o iechyd ac ymlediad y boblogaeth ddyfrgwn frodorol.  

Gofynnir i bobl roi gwybod i CNC os byddant yn gweld dyfrgwn marw, drwy ffonio 0300 065 3000. Bydd CNC yn casglu’r corff ac yn ei gludo i’r Prosiect Dyfrgwn i’w ddadansoddi. 

Dywedodd Hannah Mitchell, Swyddog Cadwraeth i CNC: 

“Os byddwch yn gweld dyfrgi marw, stopiwch a thynnwch ffotograff ohono ac yna rhowch wybod i CNC, gan roi cynifer o fanylion ag y bo modd am ei leoliad. 
“Po fwyaf o fanylion sydd gennym ynglŷn â ble daethpwyd o hyd i’r dyfrgi, gorau fydd ein cyfle i’w ganfod a’i gasglu.  
“Pan fo’r brifysgol yn cynnal awtopsi, mae’n edrych ar amryw o bethau, gan gynnwys pwysau a hyd; rhyw, oedran, a statws atgenhedlu; dannedd – traul, toriadau, neu arwyddion o haint; annormaleddau organau’r abdomen ac organau eraill. 
“Bydd eich ymdrechion o ran rhoi gwybod am anifail marw yn ein helpu i gasglu gwybodaeth werthfawr am y rhywogaeth gyfrinachgar hon, a fydd yn ei dro’n helpu ein hymdrechion i sicrhau ei hadfywiad parhaus.” 

Daethpwyd o hyd i ddyfrgi marw ym Mharc Bute, Caerdydd, ym mis Hydref, a chynhaliwyd awtopsi arno. 

Dywedodd Dr Eleanor Kean, Cydymaith Ymchwil ym Mhrosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd:

“Gwyddom ers sawl blwyddyn fod dyfrgwn yn defnyddio afon Taf yng nghanol Caerdydd. 
“Mae’n ymddangos bod y dyfrgi hwn wedi gadael y brif afon ac wedi defnyddio camlas sydd wedyn yn mynd o dan y ddaear. Mae dyfrgwn yn dueddol o beidio â hoffi mynd o dan y ddaear. 
“Mae’n debyg nad oedd y dyfrgi hwn yn gyfarwydd â’r ardal a’i fod wedi gadael y dŵr, gan geisio canfod ble mae’r dŵr yn parhau, yn hytrach na throi’n ôl i fynd yn ôl i’r brif afon. 
“Yn anffodus, bu iddo farw mewn gwrthdrawiad â cherbyd. 
“Ers sawl blwyddyn, wrth i boblogaethau dyfrgwn ymadfer, rydym yn cael mwy a mwy o adroddiadau ynglŷn â dyfrgwn trefol. 
“Fodd bynnag, yn hanes 27 mlynedd Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, dyma’r corff dyfrgi agosaf i ni yng Nghaerdydd a ganfuwyd. 
“Mae ein data, a gesglir gyda CNC, yn cael eu defnyddio i wybod ble mae angen mesurau lliniaru ar ffyrdd er mwyn atal marwolaethau dyfrgwn mewn traffig, ond dyma’r achos cyntaf yng nghanol y ddinas.”