CNC yn croesawu uchelgeisiau sero net Gwaith Ymchwil Manwl Llywodraeth Cymru ar Ynni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi croesawu’r argymhellion a wnaed yng Ngwaith Ymchwil Manwl Llywodraeth Cymru ar Ynni Adnewyddadwy heddiw (8 Rhagfyr), sy’n tynnu sylw at y mesurau fel cam mawr ymlaen wrth helpu’r genedl i sicrhau dyfodol sero net.

Mae'r Gwaith Ymchwil Manwl a gynhaliwyd gan dîm o arbenigwyr o'r sector cyhoeddus a phreifat ac a arweiniwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS wedi edrych ar y rhwystrau i gynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru a sut y gellir eu goresgyn.

Mae'r argymhellion yn cynnwys:

  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu'r anghenion ynni yn llawn o leiaf, a defnyddio’r ynni dros ben i fynd i'r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd.
  • Cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024.
  • Ymgysylltu â'r cyhoedd a chynlluniau newid ymddygiad i helpu dinasyddion i weithredu i leihau'r galw, gwella effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni mewn ffordd sy'n cefnogi gweledigaeth Cymru Sero Net.
  • Creu gwasanaeth cyngor hawdd ei gyrchu er mwyn helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni a pherfformiad smart eu cartrefi a'u busnesau ynghyd â chyflenwad parod o gyflenwyr dibynadwy a gosodwyr systemau gwresogi carbon isel yng Nghymru.
  • Sefydlu grŵp gweithio ar y cyd i edrych ar opsiynau ar gyfer cefnogi cysylltiadau grid hyblyg newydd ar gyfer atebion adnewyddadwy a storio ynni.
  • Cynnal adolygiad o anghenion adnoddau ac opsiynau ar gyfer prosesau cydsynio a chynghori i gadw i fyny â'r twf mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys adolygiad brys o anghenion adnoddau ac opsiynau ar gyfer Rhaglen Ynni Adnewyddadwy Alltraeth CNC.
  • Nodi’r bylchau â blaenoriaeth mewn tystiolaeth forol a daearol a mecanweithiau i'w llenwi, er mwyn hwyluso'r broses ymgeisio
  • Nodi ‘ardaloedd adnoddau strategol’ morol erbyn 2023 a darparu arweiniad i gyfeirio ardaloedd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu gwahanol dechnolegau ynni adnewyddadwy.
  • Archwilio ffyrdd o ddenu buddsoddiad ychwanegol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a fydd yn blaenoriaethu perchnogaeth leol a chymunedol er mwyn sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol lleol mwyaf posibl.
  • Cynyddu adnoddau i gefnogi ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol yng Nghymru.
  • Cyllid gan Lywodraeth Cymru i adeiladu gallu ychwanegol mewn mentrau cymunedol i'w helpu i ddechrau cynyddu eu gwaith a mentora sefydliadau llai, i greu sector mwy, cynaliadwy.
  • Gwella mynediad i eiddo cyhoeddus ar gyfer y sector ynni cymunedol

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol CNC, Sarah Jennings oedd yn cynrychioli’r corff amgylcheddol yn y prosiect. Meddai:

“Rydym yn llwyr gefnogi’r argymhellion ac yn falch iawn o nodi’r bwriad i ddefnyddio ynni adnewyddadwy i helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd, sy’n heriau difrifol i’n hoes ni.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a'n partneriaid o'r sector ynni adnewyddadwy i achub ar y cyfle hwn i ddatblygu cynhyrchu ynni adnewyddadwy dan arweiniad y cyhoedd a'r gymuned yng Nghymru.
“Mae ein rôl ni, fel corff rheoleiddio, cynghorydd amgylcheddol a rheolwr tir, yn rhoi CNC ar flaen y gad yn yr her ynni adnewyddadwy ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i chwarae ein rhan gyda’r llywodraeth ac eraill i fynd i’r afael â darparu adnoddau a’r dystiolaeth sydd ei hangen i sicrhau bod y prosesau cydsynio ar dir a môr mor effeithlon â phosibl.”