CNC yn ymateb i ddigwyddiad mawr o lygredd slyri

Ffoto o afon wedi'i lygru gyda llysywen wedi marw ar creigiau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad llygredd slyri sy'n effeithio ar Afon Dulas ger Capel Isaac yn Sir Gaerfyrddin.

Mae ffynhonnell y llygredd wedi'i ddarganfod ac mae'r gollyngiad i'r afon wedi dod i ben, ac mae swyddogion CNC bellach yn casglu tystiolaeth ar gyfer camau gorfodi posibl.

Adroddwyd y digwyddiad ddydd Llun (8 Gorffennaf) ac mae swyddogion wedi cadarnhau bod llygredd slyri wedi effeithio ar tua phedair milltir (saith cilomedr) o'r afon ac wedi cael effaith fawr ar bysgod ac infertebratau.

Dywedodd Ioan Williams, arweinydd tîm amgylchedd CNC:

"Mae diogelu dyfrffyrdd Cymru a'r planhigion a'r anifeiliaid sy'n dibynnu arnynt yn rhan bwysig o'r gwaith a wnawn, sef pam y gall pobl roi gwybod i ni am ddigwyddiadau llygredd 24/7.
"Unwaith i ni dderbyn yr adroddiad, fe wnaethom anfon ein swyddogion allan yn syth i asesu'r sefyllfa.
"Rydyn ni wedi llwyddo i ddod o hyd i ffynhonnell y llygredd, ond mae wedi cael effaith sylweddol ar yr afon ac ar stociau pysgod lleol.
"Ein gwaith yn awr yw casglu tystiolaeth am sut a pham y digwyddodd hyn a byddwn yn cymryd camau gorfodi priodol yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol."

Dylai pobl roi gwybod am ddigwyddiadau i CNC drwy ffonio 0300 065 3000.