CNC – diogelu amgylchedd Cymru yn ystod yr argyfwng Covid-19

Mae Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau heddiw bod ymrwymiad y sefydliad i ddiogelu’r amgylchedd yn parhau i fod yn ddiysgog, wrth i gydweithwyr ganolbwyntio’u hymdrechion ar faterion â’r flaenoriaeth fwyaf tra’n gweithio yng nghyd-destun Covid-19.

Mae CNC yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn diogelu ein cydweithwyr, y cyhoedd a’n hadnoddau naturiol rhag effeithiau’r Coronafeirws.

Ac er bod cyflymdra rhai gweithgareddau wedi gorfod arfau – a rhai eraill, yn anochel, wedi gorfod dod i ben – mae CNC yn llwyr ymwybodol fod cymunedau, busnesau ac amgylchedd Cymru yn parhau i ddibynnu’n helaeth ar y gwasanaethau hollbwysig a ddarparwn – yn enwedig y rhai y mae Stormydd Ciara a Dennis wedi effeithio arnynt.

Mae hyn hefyd yn cynnwys cymorth a chanllawiau’n ymwneud â thrwyddedau, a’r gwaith pwysig a wna CNC i sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal a’u cadw, eu cyfoethogi a’u defnyddio’n gynaliadwy, yn awr ac yn y dyfodol.

Medd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC 

“Y brif flaenoriaeth i bawb ar hyn o bryd yw gwneud popeth o fewn ein gallu i’n diogelu ein hunain ac eraill rhag y Coronafeirws, a helpu i achub bywydau. Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy aros gartref.
“Gan roi ystyriaeth lwyr i’r sefyllfa genedlaethol hon, mae CNC yn blaenoriaethu ei waith er mwyn sicrhau y gallwn barhau i gyflawni ein gwasanaethau â blaenoriaeth. Dyna pam, ar hyd a lled Cymru, y gwelwch ein cerbydau a’n cydweithwyr yn gweithio ar faterion hollbwysig fel atal llifogydd a llygredd, rheoli contractwyr cwympo pren ac ymweld â’n coedwigoedd a’n gwarchodfeydd natur cenedlaethol i wneud yn siŵr fod ymwelwyr yn cadw at ganllawiau iechyd cyhoeddus. Hefyd, byddwn yn parhau i fynychu digwyddiadau amgylcheddol o bwys, pe bai achosion o’r fath yn codi. Ni waeth ble fo’r gwaith hwn yn cael ei wneud, caiff ei wneud yn unol â chanllawiau iechyd cyhoeddus.
“Bydd amgylchedd naturiol ffyniannus a hygyrch yn parhau i fod yn hollbwysig i’r genedl yn ystod argyfwng y Coronafeirws ac wrth i ni gael ein cefn atom ar ei ôl, ac mae CNC wedi ymrwymo i sicrhau y bydd modd diogelu a dathlu’r amgylchedd hwn am genedlaethau i ddod.”

Dyma enghreifftiau o waith â blaenoriaeth a gaiff ei wneud ledled Cymru:

  • Amddiffyn rhag llifogydd

Rhagwelwn y bydd y mesurau rheoli rydym ni a’r llywodraeth wedi’u rhoi mewn grym yn cael effaith ar waith sydd eisoes ar y gweill gennym fel rhan o’r rhaglen cyfalaf rheoli perygl llifogydd. Mae ein prif ganolbwynt ar hyn o bryd ar gynnal archwiliadau hollbwysig, dichonoldeb prosiectau, cynlluniau manwl, a chynllunio gweithgareddau yn barod ar gyfer mynd i’r afael â gwaith adeiladu ar ôl i effeithiau Covid-19 leihau.

Mae rhywfaint o waith adeiladu amddiffynfeydd yn dal i fynd yn ei flaen, ac mewn sefyllfaoedd felly rydym wedi sicrhau y bydd modd i bawb sy’n gysylltiedig â’r gwaith gadw at arferion cadw pellter cymdeithasol.

Mae gwaith dymchwel ar y gweill yng Nghrindau, Casnewydd, fel rhan o gynllun i wella mesurau amddiffyn rhag llifogydd hyd nes y bydd modd gwneud y safle’n ddiogel, ac mae gwaith yn mynd yn ei flaen hefyd yn Nwyran ac yn Llangefni.

Ymhellach, mae arbenigwyr rheoli perygl llifogydd ar draws CNC yn ystyried sut i fynd i’r afael â materion ar nifer o safleoedd lle bydd angen gwneud gwaith adfer o bosibl yn dilyn y llifogydd diweddar a achoswyd gan Storm Dennis a Storm Ciara.

Mae’r Arglawdd Gogleddol yn Sealand yn amddiffynfa bwysig rhag llifogydd, sy’n amddiffyn pobl ac eiddo rhag effeithiau llifogydd yn y rhan hon o Sir y Fflint. Mae cydweithwyr wedi bod yn mynd i’r afael â gwaith hollbwysig trwy symud darnau mawr o goed sy’n sownd ar lannau’r arglawdd llifogydd gogleddol ar ôl llanwau mawr a stormydd mis Chwefror.

Hefyd, mae arolygon ac archwiliadau ôl-lifogydd yn cael eu cynnal ar ein strwythurau a’n hargloddiau yng Ngogledd Powys. Mae asesiadau’n cael eu cynnal hefyd i weld a fydd modd cychwyn gwaith amddiffyn ar gwlfertau yn Whitebarn a Choedwig Gwydir yn Nyffryn Conwy ac ym Mhont Elái ger Caerdydd.

Daeth y cyfle i gyflwyno ymatebion ynghylch yr ymgynghoriad ar yr opsiynau i reoli perygl llifogydd yn Ninas Powys i ben ar 15 Ebrill. Yn awr maent wrthi’n cael eu hystyried, a byddant yn helpu i lywio’r achos busnes ar gyfer mynd i’r afael â’r prosiect pwysig hwn.

  • Coedwigaeth fasnachol

Mae gwaith cwympo coed ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad er mwyn cwrdd â galw’r diwydiant am bren. Hefyd, mae gwaith yn parhau ar draws coedwigoedd Dyffryn Sirhywi – sydd ar gau i ymwelwyr ar hyn o bryd – i gwympo 70 hectar o goed llarwydd heintiedig.

  • Rheoleiddio

Rydym yn helpu busnesau a reoleiddir i addasu i’r amgylchiadau eithriadol hyn lle mae adnoddau a chapasiti pawb wedi’u cyfyngu’n arw. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo unigolion a gweithredwyr a reoleiddir i ddeall rheoliadau amgylcheddol a chydymffurfio â nhw trwy’r cyfnod dyrys hwn.

Rydym yn glir ein bod yn disgwyl i bawb a reoleiddiwn barhau i gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac amodau eu trwydded. Mae hyn yn cynnwys llunio cynlluniau wrth gefn a rhoi mesurau priodol ar waith i sicrhau bod yr holl gamau rhesymol yn cael eu cymryd i ragweld a lliniaru unrhyw broblemau posibl. 

  • Tanau mewn coedwigoedd

Mae CNC yn gweithio gyda’r gwasanaeth tân ac achub, yr heddlu a phartneriaid eraill trwy gyfrwng Ymgyrch Dawns Glaw i atal a thaclo tanau mewn coedwigoedd. Mae’r tywydd braf rydym wedi’i gael yn ddiweddar wedi arwain at gynnydd mewn tanau gwyllt sydd wedi effeithio ar yr amgylchedd ac ar fywyd gwyllt, gan lygru’r awyr a’r dŵr. Mae swyddogion CNC yn darparu gwasanaethau brys gyda chyngor ynghylch cael mynediad i safleoedd coedwig ac yn darparu cymorth hofrennydd ar gyfer cludo dŵr.

  • Monitro llygredd

Mae’r gwaith cyffredinol yn labordy profi CNC ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei leihau er mwyn gallu rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Y bwriad yw parhau â’r gwaith o brofi samplau llygredd fel rhan o ymateb CNC i ddigwyddiadau llygredd. 

  • Ein tir

Mae meysydd parcio, llwybrau beicio mynydd a chanolfannau ymwelwyr CNC yn parhau i fod ar gau yn unol â’r canllawiau presennol sydd hefyd yn cynghori yn erbyn teithio dianghenraid. Fel rhan o’n cyfrifoldeb i gynnal mynediad cyhoeddus at natur mewn modd diogel, mae ein timau coedwigaeth yn parhau i fynd ar batrôl o amgylch ein meysydd parcio i sicrhau bod pobl leol yn defnyddio llwybrau cerdded mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol.

Rydym yn parhau i fynd ati i archwilio da byw er mwyn sicrhau lles da byw CNC ar ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a chynnal trefniadau blynyddol gyda phorwyr lleol ar y safleoedd hyn lle bo’n briodol.

Ymhellach, rydym yn mynd i’r afael â dyletswyddau hanfodol yn ein canolfannau, fel bwydo’r barcutiaid bob diwrnod yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian.

I roi gwybod am ddigwyddiad, ewch ar ein gwefan neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Hefyd, gallwch ddod o hyd i ddiweddariadau rheolaidd ar ein tudalen Twitter @NatResWales ac ar Facebook.