CNC yn benderfynol o wella safon y Llyn Morol, Rhyl, yn y dyfodol

Bydd CNC yn mynd ati o ddifri i sicrhau bod dyfroedd ymdrochi Cymru'n lân ar gyfer pobl a bywyd gwyllt yn dilyn cadarnhad bod y Llyn Morol yn y Rhyl wedi cael ei ddosbarthu’n 'wael' yn y Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi diweddaraf ar gyfer 2022.

Mae’r Llyn Morol yn llyn artiffisial a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer chwaraeon dŵr, a dyma’r unig ddŵr ymdrochi ledled Cymru a fethodd â chyrraedd safon ddigonol yn 2022. Mae’r Llyn Morol wedi bod yn ddŵr ymdrochi dynodedig ers 2016, a dyma'r flwyddyn gyntaf iddo gael dosbarthiad 'Gwael'.

Mae'r Dyfroedd Ymdrochi’n cael eu hasesu'n flynyddol ac yn seiliedig dros gyfnod o bedair blynedd i helpu i ddarparu gwell asesiad o ansawdd dŵr. Mae pedwar dosbarthiad: rhagorol, da, digonol a gwael. Pan fo'r samplau y mae swyddogion CNC yn eu cymryd yn methu â chyrraedd trothwy penodol, dywedir bod y dŵr ymdrochi wedi methu'r meini prawf a amlinellir yn Rheoliadau’r Dyfroedd Ymdrochi ac yna caiff ei ddosbarthu fel dŵr ymdrochi 'Gwael'.

Mae canlyniadau 'gwael' yn digwydd oherwydd cynnydd mewn bacteria yng nghanlyniadau samplau. Ar hyn o bryd mae tri chanlyniad uchel yn y set ddata ar gyfer y Llyn Morol.

Roedd un o'r canlyniadau hyn yn cyd-daro â chyfnod lle cafodd y llyn ei wagio am resymau gweithredol a'i ail-lenwi dros gyfnod byr. Byddai'r ail-lenwi sylweddol hwn wedi cynnwys cryn dipyn o ddŵr croyw o’r aber a lefelau uwch o facteria.

Roedd y ddau sampl arall yn cyd-daro â glaw trwm gan arwain at ollyngiad o orlif carthffosiaeth cyfunol Westbourne Avenue ar y llanw, a dynnwyd i mewn i’r Llyn Morol.

Meddai Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru:

"Mae sicrhau bod dyfroedd ymdrochi Cymru yn ddiogel ac yn lân i bobl a bywyd gwyllt yn rhan enfawr o'n swydd.
"Am y pedair blynedd ddiwethaf rydym wedi sicrhau cydymffurfiaeth o 100% â'r safonau llym a nodir yn Rheoliadau’r Dyfroedd Ymdrochi ac mae'r canlyniad hwn ar gyfer y Llyn Morol yn hynod siomedig. 
"Yn yr achos hwn, rydym yn cydweithio'n agos â Chyngor Sir Ddinbych a Dŵr Cymru i fynd i'r afael â'r problemau yn y Llyn Morol. Bydd cyfyngiadau ar dynnu dŵr i'r llyn yn dilyn gollyngiad o'r orsaf bwmpio, a daeth cadarnhad na fydd y llyn yn cael ei ddraenio a'i ail-lenwi yn ystod y tymor ymdrochi oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
"Mae gwaith pellach eisoes ar y gweill yn nalgylch Clwyd fel prosiect ehangach i leihau lefelau bacteria ym mhob dŵr ymdrochi yn Sir Ddinbych."

Mae CNC yn aelod allweddol o Dasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru - rhaglen genedlaethol i fynd i'r afael â gorlifoedd yn sgil stormydd. Mae'r tasglu'n dod â Llywodraeth Cymru, CNC, Ofwat, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy at ei gilydd, gyda chyngor annibynnol gan Afonydd Cymru a'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr. Ar y cyd, mae'r Tasglu wedi cyhoeddi cyfres o gynlluniau gweithredu i gasglu mwy o dystiolaeth ar effaith gorlifoedd stormydd ar ein hafonydd a'n moroedd er mwyn lleihau eu heffeithiau, i wella rheoleiddio ac addysgu'r cyhoedd am gamddefnyddio carthffosydd.

Ychwanegodd Lyndsey:

"Mae llawer o waith i'w wneud ac mae CNC yn cymryd camau pendant drwy ei rôl ar Dasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru i gefnogi rheoleiddwyr, busnesau, ffermwyr a chynghorau i sicrhau dyfroedd glanach ac iachach i bawb yn y dyfodol."