Grantiau newydd i fwrw ati i daclo’r argyfyngau’r hinsawdd a natur

Peirianau ar safle mawndir

Lansiwyd grant cystadleuol cyntaf o’i fath yng Nghymru, sy’n cynnig Grantiau Cyflawni rhwng £50,000 a £250,000 i gefnogi’r gwaith o adfer mawndiroedd, ddiwedd Mawrth.

Mae’r grant newydd hwn yn dilyn dwy rownd o Grantiau Datblygu a gynigiwyd yn 2022/23 i gynllunio ar gyfer gwaith adfer mawndiroedd y gellid eu gweithredu’n syth.

Mae’r Grantiau Cyflawni cystadleuol newydd, a ddaw o gronfa ariannu sydd â chyfanswm o £500,000 ac a lansiwyd ar 31 Mawrth 2023, yn addas ar gyfer unrhyw ymgeiswyr sydd â chynllun yn barod i adfer mawndiroedd. O adfer cynefinoedd i ostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, disgwylir i fuddsoddiad y grantiau ddechrau dwyn ffrwyth yn syth wedi cwblhau’r prosiect ym mis Ionawr 2025 a thu hwnt.

Nod adfer mawndiroedd yw mynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur, fel yr eglura Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Clare Pillman:

Mae arbenigedd mawn tîm y Rhaglen, ynghyd â chefnogaeth tîm deinamig o weithwyr proffesiynol a phartneriaid o fewn a thu allan i CNC, wedi dangos effaith sylweddol ar y gwaith adfer hyd yma. Ac eto gyda 4% o arwynebedd tir Cymru’n fawndir, a 90% ohono mewn cyflwr dirywiol ac yn allyrru nwyon tŷ gwydr, nid ydym yn llaesu dwylo. Rwy’n falch o weld y gall tirfeddianwyr a ffermwyr bellach ystyried llwybr cyllido newydd i adfer mawndiroedd, drwy’r Grant Cyflawni newydd yma.

Mewn llai na thair blynedd, mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan CNC, wedi:

Gyda buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru o dros  £2.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, mae’r Grant Cyflawni cystadleuol newydd yn rhan o weithredu ehangach y rhaglen i adfer mewndiroedd. I wneud y mwyaf o’r cyfle i adfer mawndiroedd Cymru, mae’r rhaglen hefyd yn dyrannu cyllid cyflawni strategol i bartneriaid gweithredu allweddol, fel y parciau cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac asiantaethau cadwraeth yng Nghymru.

Gellir gwneud cais am y Grant Cyflawni drwy dudalen we’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd. Bydd gweminarau am ddim yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd yn cael eu cynnal ar 24/4/2023 i dywys darpar ymgeiswyr drwy’r broses. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am y Grant Cyflawni yw 1/7/2023.

Yn sgil y Grant Cyflawni bydd gweithgarwch a pheiriannau ar safleoedd, gan roi rhai o’r 100 o dechnegau ymyrryd posibl ar waith, i adfer y mawndiroedd yn gynefin corsydd neu ffeniau iach. Gyda’i gilydd, mae’r grantiau Datblygu a’r grantiau Cyflawni nawr, yn hwyluso’r gwaith adfer o gamau cynllunio i gyflawni adferiad, gan gyflymu’r buddion i fyd natur a hinsawdd.

Mawndir yw’r adnodd tir mwyaf gwerthfawr Cymru ar gyfer storio carbon, o ystyried ei fod yn storio tua 30% o’n carbon yn y ddaear. Fodd bynnag, os caiff ei ddifrodi, oherwydd ffactorau fel draenio ac erydiad, mae'r mawndir agored yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer ac felly mae'n cyfrannu'n weithredol at newid hinsawdd. Mae mawndiroedd iach wedi’u hail-wlychu nid yn unig yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn storio carbon ac yn hybu bioamrywiaeth, gan gynnwys caniatáu i’r migwyn sy’n ffurfio mawn i ffynnu, ond maent hefyd yn cyfrannu at leihau’r perygl o lifogydd ag effaith tanau gwyllt.

Cafodd manteision adfer mawndiroedd gymeradwyaeth gref gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, gyda’i chyhoeddiad ym mis Hydref 2022 o fwriad Llywodraeth Cymru i dreblu’r targedau ar gyfer adfer mawndiroedd.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Rydw i'n annog pob tirfeddiannwr a ffermwr i ymgeisio am y grant yma er mwyn iddyn nhw allu cymryd rhan yn ein hymateb brys i argyfyngau’r hinsawdd a natur. Pan fydd mawndiroedd yn iach, nhw yw ein storfa ddaearol fwyaf ar gyfer carbon, maen nhw'n cynnal cyfoeth o fflora a bywyd gwyllt, ac maen nhw'n hidlo’r dŵr rydyn ni'n ei yfed. Pan fyddan nhw’n cael eu gadael mewn cyflwr gwael, gallant gyflymu newid hinsawdd, dod yn fannau diffaith o ran bioamrywiaeth a cholli eu gallu i'n hamddiffyn rhag llifogydd.
Dyna pam wnaethon ni dreblu ein targedau o ran adfer mawndiroedd y llynedd ar ôl rhagori ar ein meincnodau ein hunain. Nawr mae’n gyfle i chi, dirfeddianwyr a ffermwyr fel ei gilydd, ymuno ag ymdrech Tîm Cymru i gyflawni'r uchelgeisiau hyn a throsglwyddo Cymru rydym yn falch ohoni i genedlaethau'r dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r dasg i’r Rhaglen arwain yn gydlynol wrth Adfer Mawndir Cymru drwy ddosrannu cyllid ar gyfer gweithredu a chyflawni, yn ogystal â safoni monitro ac adrodd yn ôl, a chydgysylltu â rhanddeiliaid i rannu arfer da. Mae adfer mawndiroedd yn cyfrannu at yr ymdrechion cenedlaethol i fynd i'r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur.