Canllawiau Cod Cefn Gwlad newydd i gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir

Pobl yn cerdded ar lwybr troed cyhoeddus yng nghefn gwlad

  • Mae canllawiau newydd i gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir wedi cael eu cyhoeddi i helpu’r cyhoedd fwynhau cefn gwlad mewn modd cyfrifol a pharchus
  • Mae’r canllawiau’n cynnwys cyngor ar wneud hawliau tramwy yn fwy hygyrch, defnyddio arwyddion clir a sut i adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Mae’r cyngor yn dilyn diwygiad newydd i’r Cod Cefn Gwlad ar gyfer y cyhoedd, dros 70 mlynedd ar ôl cyhoeddi’r llyfryn cyntaf ym 1951

Gyda mwy a mwy o bobl yn mwynhau’r awyr agored nag erioed o’r blaen, mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Natural England wedi amlinellu canllawiau newydd heddiw (8 Chwefror 2022) ar gyfer rheolwyr i’w cynorthwyo i sicrhau bod ymwelwyr â chefn gwlad yn mwynhau’r awyr agored mewn modd cyfrifol.

Mae’r diweddariad, a gyhoeddwyd fel rhan o’r teulu Cod Cefn Gwlad, yn rhoi argymhellion i reolwyr tir ynglŷn â gwneud hawliau tramwy yn hygyrch, creu amgylcheddau mwy diogel a gosod arwyddion clir i helpu’r cyhoedd barchu, diogelu a mwynhau cefn gwlad.

Mae’r canllawiau newydd yn rhoi cyngor i ffermwyr a rheolwyr tir ynglŷn â sut i wneud tir yn fwy hygyrch, er enghraifft drwy osod gatiau sy’n cau eu hunain yn hytrach na chamfeydd lle bo’n bosibl a defnyddio gwell arwyddion, a’r ffordd gywir o adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon, taflu sbwriel, aflonyddu ar dda byw a throseddau eraill. Bydd y newidiadau hyn yn galluogi mwy o bobl i gael mynediad i natur mewn modd diogel, gan hefyd gefnogi rheolwyr tir a helpu i osgoi difrod i eiddo, da byw ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ehangach.

Yn ogystal â chyngor ar gyfer gwarchod da byw, defnyddio peiriannau mewn mannau cyhoeddus a storio cemegau yn ddiogel, mae newidiadau eraill yn cynnwys:

  • Arweiniad clir ar sut i sicrhau bod modd defnyddio hawliau tramwy, gan gynnwys argymhellion ar gyfer torri llystyfiant a chadw cyrsiau dŵr cyhoeddus yn glir
  • Cyfarwyddiadau i ddangos ble gall ymwelwyr gerdded yn rhydd ar dir gyda mynediad cyhoeddus
  • Gwybodaeth am dir comin a dealltwriaeth o bwy sydd â hawl i’w ddefnyddio
  • Y broses o adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol – ni fydd difrod troseddol nac ymddygiad bygythiol yn cael ei oddef, a chynghorir ffermwyr a rheolwyr tir i gysylltu â’r heddlu i adrodd am achosion o’r fath
  • Cyngor ynglŷn ag adrodd am sŵn a thipio anghyfreithlon i’r awdurdod lleol
  • Arweiniad ar ddiogelu da byw, a nodyn atgoffa o gyfrifoldebau wrth ddefnyddio arfau a ffensio
  • Cyngor am greu amgylchedd diogel, gan gynnwys storio byrnau a choed yn ddiogel a rheoli coed
  • Gwybodaeth am ddefnyddio a storio sylweddau peryglus yn gyfrifol
Dywedodd Claire Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’r Cod Cefn Gwlad yn adnodd dibynadwy sy’n helpu pobl i fwynhau’r buddion iechyd a lles y mae natur yn eu cynnig, gan hefyd ofalu am yr amgylchedd a pharchu eraill.
“Wrth i’r dyddiau ymestyn ac i fwy a mwy o bobl fwynhau’r awyr agored, gobeithiwn y bydd y cyngor newydd yn ddefnyddiol i reolwyr tir er mwyn cynnal amgylchedd lle mae’n hawdd i ymwelwyr gadw at y Cod Cefn Gwlad.
“Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid sydd wedi cyfrannu at greu’r cyngor ar gyfer rheolwyr tir.”

Mae Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chymdeithas y Tirfeddianwyr (CLA), i ddatblygu’r cyngor sy’n rhoi arweiniad clir i reolwyr tir ac yn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu mwynhau cefn gwlad mewn modd diogel a pharchus.

Dywedodd Bernard Griffiths, Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru:
"Mae UAC yn cefnogi defnydd cyfrifol a mynediad i gefn gwlad Cymru, ac rydym ni’n deall y rôl bwysig y gall mynediad i ardaloedd awyr agored ei chwarae o ran cynnal iechyd a lles da, yn ogystal â’i gyfraniad at yr economi wledig.
“Bydd Cod Cefn Gwlad sy’n cael ei ddilyn gan bawb sy’n ymweld â chefn gwlad ac yn cael ei gefnogi gan ddogfen ganllaw i reolwyr tir yn helpu i gyflawni’r amcanion gofynnol."

Mae’r cyngor newydd ar gyfer rheolwyr tir yn dilyn cyhoeddiad y Cod Cefn Gwlad diwygiedig y llynedd, a gafodd ei archwilio unwaith eto’n dilyn cynnydd yn nifer y bobl a fu’n treulio amser yn yr awyr agored yn ystod y pandemig.

Mae’r Cod Cefn Gwlad bellach yn cwmpasu’r holl fannau gwyrdd, cyrsiau dŵr, yr arfordir a pharciau mewn ardaloedd trefol. Er mwyn helpu pobl o bob oedran a chefndir i fwynhau cefn gwlad mewn modd cyfrifol, mae’r cod i’r cyhoedd yn annog pobl i ‘fod yn garedig, i ddweud helo a rhannu’r lle’, ac yn atgoffa ymwelwyr i beidio â gadael sbwriel, ac i osgoi bwydo da byw, ceffylau nac anifeiliaid gwyllt.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog rheolwyr tir yng Nghymru i ddilyn y canllawiau diwygiedig, sydd ar gael ar y wefan: www.cyfoethnaturiol.cymru/cyngor-i-reolwyr-tir