Nifer o fuddion o ganlyniad i gau ffosydd yn Eryri

Mae arwyddion cynnar i awgrymu bod gwaith i adfer cynefin mawn a gwella ansawdd y dŵr ar rostir yn Eryri yn cynyddu poblogaethau o bysgod, gan wyrdroi’r duedd dros y wlad.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru wedi bod yn adfer cynefinoedd mawn pwysig ar y Migneint, sy’n rhostir yng nghanol Eryri sy’n cynnwys Llyn Conwy, tarddiad Afon Conwy.

Mae’r gwaith adfer, sy’n cynnwys cau ffosydd artiffisial, yn atal y mawn rhag erydu a’r gronynnau mawn rhag cael eu cario i’r afon, ble cânt effaith andwyol ar wyau eog, brithyll a brithyll y môr (siwin).

Dechreuodd y gwaith adfer yn 2005 a hyd yma mae dros 400km o ffosydd wedi’u cau yn sgil y prosiect, gyda chymorth nifer o bartneriaid sy’n gweithio ar y cyd â ffermwyr tenant.

Ymysg y partneriaid mae Fferm Ifan, yr RSPB, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg.

Mae cau ffosydd yn ailwlychu’r tir y naill ochr i’r ffos, gan ganiatáu i’r llystyfiant, gan gynnwys y mwsogl migwyn, dyfu. 

Mae migwyn yn gorchuddio mawn noeth ac yn gweithio fel sbwng, gan arafu llif naturiol y dŵr, a chaniatáu i’r gronynnau gael eu hidlo allan yn naturiol, lle byddent fel arall yn golchi i Afon Conwy ac yn cael eu dyddodi ar raean yr afon ble mae’r pysgod yn dodwy eu hwyau.

Cloddiwyd y ffosydd yn wreiddiol yn yr 1950au i ddraenio’r tir er mwyn caniatáu i ddefaid bori ac er mwyn saethu grugieir.

Mae gwaith monitro ansawdd y dŵr, a gynhaliwyd gan CNC ar ôl y gwaith adfer, yn dangos bod nifer y gronynnau yn yr afon wedi lleihau yn sylweddol.

Mae’r monitro hefyd yn dangos bod nifer y pysgod yn yr afon wedi cynyddu.

Meddai Charlotte Williams, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru: 

“Mae’n bwysig bod silfeydd pysgod yn aros yn lân ac nad ydyn nhw’n cael eu llenwi â gwaddod, am fod yr wyau yn aros yn y graean o’r gaeaf hyd y gwanwyn ac mae angen digon o ocsigen arnyn nhw i oroesi. Yn y gwanwyn, mae’r wyau’n deor a’r pysgod yn nofio allan o’r graean.
“Yn dilyn y gwaith adfer, rydyn ni wedi bod yn cynnal arolygon pysgota yn nalgylch Uwch Conwy ac wedi gweld cynnydd arwyddocaol yn niferoedd yr eogiaid ifanc, sy’n mynd yn groes i’r duedd gyffredinol am i lawr dros Gymru gyfan.
“Mae’r canlyniadau cynnar hyn yn awgrymu bod cau ffosydd wedi arwain at raean glanach a niferoedd uwch o eogiaid ifanc.
“Mae nifer o fuddion i’r gwaith hwn. Mae ardaloedd o fawn wedi’u hadfer yn helpu i ddarparu ac i gysylltu cynefinoedd sy’n hanfodol i rywogaethau dan fygythiad fel y Gylfinir a gweirlöyn mawr y waun. Yn ogystal, mae’n gwella ansawdd y dŵr ac yn arafu llif y dŵr, sy’n amddiffyn rhag sychder ac yn lliniaru perygl llifogydd. 
“Mae hefyd yn lleihau perygl tanau gwyllt am fod y tir yn wlypach, ac yn cynyddu faint o garbon mae’r tir yn ei ddal.
“Mae hyn yn rhan o waith CNC i roi sylw i’r argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd gan ddefnyddio dulliau naturiol, cost-effeithiol i fynd i’r afael â rhai o heriau amgylcheddol mwyaf y DU.”

Yn ddiweddar, cyhoeddodd CNC asesiadau 2021 o stociau eog ar gyfer 23 o’r prif afonydd eogiaid yng Nghymru.

Cafodd yr adroddiad bod Cymru yn 2021 wedi cofnodi’r dalfeydd lleiaf o eog a brithyll y môr ers dechrau cadw cofnodion cyson yn yr 1970au.