Rhagor o waith ar yr amddiffynfa forol yng Nghornel y Friog, Fairbourne

Bu i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) atgyweirio’r amddiffynfa forol yng Nghornel y Friog yn Fairbourne yn 2019.

Gan ddefnyddio 20,000 tunnell o greigiau amddiffyn, mae’r gwaith yn lleihau'r perygl o dorri'r amddiffynfa a thonnau’n dod drosti.

Ers hynny, mae problem wedi codi yng Nghornel y Friog pan fydd dŵr yn ymdreiddio drwy'r amddiffynfa forol yn ystod llanw uchel iawn.

Fel ateb tymor byr, defnyddiwyd pwmp i dynnu dŵr dros ben o'r tir y tu ôl i'r amddiffynfa yn ystod llanw uchel.

Ddydd Llun 1 Chwefror 2021, mae contractwr CNC, Kaymac Marine & Civil Engineering, yn bwriadu cychwyn gwaith ar ddatrysiad ar gyfer y tymor hwy.

Bydd hyn yn golygu cau Ffordd De Penrhyn am bedair wythnos. Mae CNC a Kaymac Marine & Civil Engineering yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

Bydd y gwaith yn cynnwys gosod torbwynt ar ffurf seilbyst llen drwy'r arglawdd i gyfyngu ar yr hyn sy’n treiddio drwodd yn ystod llanw uchel.

Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau CNC yn y Gogledd Orllewin: “Rydym wedi ymrwymo i gynnal amddiffynfeydd llifogydd Fairbourne tan 2054 i helpu i leihau'r perygl o lifogydd, ac mae'r gwaith yn rhan o'r ymrwymiad hwnnw.
"Ond mae'n rhaid i ni gofio y rhagwelir y bydd lefelau'r môr a lefelau dŵr daear yn cynyddu oherwydd y newid yn yr hinsawdd, sy'n golygu y bydd materion llifogydd mewn ardaloedd mor isel yn anoddach i'w datrys dros amser.
“Mae hon yn her gynyddol wrth i ni weithio yn erbyn grymoedd byd natur i helpu i leihau'r perygl o lifogydd.
"Rydym yn ddiolchgar i'r gymuned leol am eu cydweithrediad."

Mae'r gwaith hwn i osod seilbyst yn dilyn gwaith ym mis Gorffennaf y llynedd i symud 20,000 tunnell o raean bras ar draeth Fairbourne i lenwi ardal a oedd wedi'i herydu o flaen y pentref.

Gall unrhyw un sy’n pryderu am lifogydd wirio eu perygl o lifogydd a chofrestru i gael rhybuddion llifogydd yn ddi-dâl drwy ffonio 0345 988 1188 neu fynd i www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd.

Mae CNC yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a’r gymuned drwy gyfrwng Bwrdd Prosiect Fairbourne yn Symud Ymlaen.