Pladur Pwerus – peiriant cynaeafu gwlypdiroedd newydd sbon yn cyrraedd canolbarth Cymru

Pladur Pwerus

Mae prosiect i adfer rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt mwyaf pwysig Cymru wedi cael hwb wrth i gadwraethwyr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dderbyn peiriant a fydd yn helpu i adfer safleoedd ledled Cymru.

Mae cyforgorsydd yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid prin, ond maent wedi dirywio wrth i blanhigion goresgynnol ymgartrefu yno.

Bellach, fel rhan o’r prosiect LIFE a gyllidir gan yr UE, mae CNC wedi derbyn peiriant sydd wedi ei adeiladu i bwrpas er mwyn torri’r gweiriau goresgynnol sy’n tagu planhigion brodorol yn yr ardaloedd hyn.

Bydd y peiriant, sy’n pwyso 4.5 tunnell ac sydd dros 3 metr o uchder, yn rhan amlwg o’r safleoedd hyn am bedair blynedd nesaf y prosiect.

Ond er gwaetha’i faint a’i bwysau, gall y peiriant arnofio ar y cyforgorsydd oherwydd bod ganddo bwysau tir isel yn sgil y traciau llydan iawn. Mae’r peiriant hefyd yn cario amrywiaeth o offer ar gyfer torri a chynaeafu llystyfiant ar wlypdir, torri pren a gosod chwynladdwyr. 

Bydd yn lleihau tra-arglwyddiaeth glaswellt y bwla a phlanhigion a phrysgoed ar saith cyforgors yng Nghymru, gan gynnwys Cors Caron a Chors Fochno yng Ngheredigion, a bydd yn gymorth i adfer y corsydd i gyflwr ffafriol.

Mae’r peiriant 4.5 tunnell, sy’n costio hyd at £300,000 oherwydd ei fanylion uchel a’i ofynion arbenigol, yn 3.10 metr o ran uchder. Dros gyfnod y prosiect, y bwriad yw i’r peiriant dorri o leiaf 75 hectar o laswellt y bwla, sy’n cyfateb i 75 cae rygbi.

Meddai Rhoswen Leonard, Swyddog Prosiect Cyforgorsydd Cymru, LIFE: “Mae’r peiriant ei hun yn anhygoel. Mae’r traciau llydan yn golygu y gall arnofio ar y fawnog a chyrraedd ardaloedd sydd wedi bod yn amhosibl eu cyrraedd yn y gorffennol heb niweidio’r mwsoglau sbyngaidd sy’n gwneud y safle mor bwysig. Rydym yn ysu i gael dechrau.”

Pan fydd y prosiect wedi ei gwblhau, caiff y peiriant ei ddefnyddio gan CNC i adfer safleoedd tebyg ledled Cymru.

Mae glaswellt y bwla yn tra-arglwyddiaethu rhai rhannau o gyforgorsydd yn sgil draeniad blaenorol. Mae’n mygu’r rhywogaethau arbennig o blanhigion cors ac yn atal migwyn (mwsogl mawn) rhag tyfu.

Bydd y peiriant yn torri, yn trin ac yn rholio glaswellt y bwla i greu mwy o ardaloedd agored ble bydd gan fwsogl mawn ofod a golau i dyfu a ffynnu unwaith eto.

Mae’r cytundeb ar gyfer gyrru’r peiriant wedi ei roi i’r contractwr lleol, John Davies Agricultural and Plant Contracting Ltd o Bencader yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y gwaith yn dechrau dros yr wythnosau nesaf ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ger Tregaron yng Ngheredigion, a bydd yn gorffen ar ddechrau’r tymor bridio adar ym mis Mawrth.

Bydd y gwaith yn dechrau eto yn hwyrach yn y flwyddyn pan fydd y tymor bridio wedi gorffen. Bydd yr holl waith a wneir o dan y cytundeb hwn yn digwydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).

Mae’r safleoedd hyn yn rhai amgylcheddol sensitif, sydd wedi eu gwarchod yn gyfreithiol ar gyfer eu budd amgylcheddol.

Bydd rhagor o waith adfer hefyd yn digwydd ar safleoedd ger Trawsfynydd, Abergwaun, Crosshands, Crughywel a Llanfair-ym-Muallt.

Meddai Harry Kester o Off-Piste Agri Ltd, gwerthwr y peiriant yn y Du: “Gall y peiriant hyblyg hwn weithio ar sawl math o dir.

“Mae ei draciau llydan yn sicrhau y gall weithredu ar amodau sy’n amgylcheddol sensitif a gwlypdir, sy’n golygu mai hwn yw’r dewis perffaith ar gyfer prosiectau adfer cadwraeth fel hyn

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda CNC i arddangos llwyddiannau’r peiriant hwn dros y blynyddoedd nesaf. Bydd wir yn gwella’r gwaith adfer ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r prosiect”.

Mae cyforgorsydd yn adnabyddus oherwydd eu siâp cromen. Maent yn ardaloedd o fawn sydd wedi tyfu dros 12,000 o flynyddoedd ac fe allan nhw fod mor ddwfn â 12 metr.

Maent yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid prin, gan gynnwys gweirlöyn mawr y waun a’r planhigyn eiconig, andromeda’r gors.

Bydd eu hadfer yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd drwy greu mawn newydd er mwyn sicrhau rhagor o garbon, a gwella ansawdd y dŵr mewn afonydd lleol. Maent hefyd yn lleoedd gwych i ymweld â nhw i fwynhau natur a’r manteision o fod yn weithgar yn yr awyr agored.

Bwriad prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru, sydd werth pedair miliwn o bunnoedd, yw adfer 970 hectar, 2,397 acr (3.8 milltir sgwâr) o gyforgorsydd – un o gynefinoedd mwyaf prin a mwyaf pwysig Cymru.

Rhoddwyd arian ar gyfer y prosiect pedair blynedd o hyd i CNC gan grant rhaglen LIFE yr UE, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Credyd llun: Farming Photography Ltd