Gwaith ar fin cychwyn i dorri coed â chlefyd y llarwydd yn Rhyslyn, Parc Coedwig Afan

Coed llarwydd wedi'u heintio yn Rhyslyn

Bydd gwaith ar raddfa fawr i gwympo coed sydd wedi'u heintio â chlefyd y llarwydd yn dechrau ddydd Llun, 14 Tachwedd, yn Rhyslyn, Parc Coedwig Afan, ym Mhort Talbot.

Bydd y coed yn cael eu torri mewn pedwar cam a bydd y gwaith yn cymryd tua chwe mis i'w gwblhau.

Mae rheolwyr coedwigoedd yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cydnabod pwysigrwydd Coedwig Afan o ran hamdden, ac maen nhw wedi cynllunio'r gwaith mewn ffordd sy'n lleihau'r effaith ar ymwelwyr, ond sy'n cynnal y lefel uchaf o iechyd a diogelwch i ymwelwyr a chontractwyr.

Bydd llawer o lwybrau beicio mynydd a cherdded yn parhau i fod ar agor. Fodd bynnag, bydd y gwaith hwn yn effeithio ar rai llwybrau. Bydd arwyddion a rhwystrau ar y safle fel y gall ymwelwyr weld yn glir ble mae llwybrau wedi’u dargyfeirio a’u cau. Bydd mannau gwybodaeth hefyd mewn meysydd parcio, yn ogystal â'r wybodaeth ddiweddaraf yr holl lwybrau sydd wedi’u cau a’u dargyfeirio ar wefan CNC.

Meddai Mark Jones, Uwch Swyddog Cynaeafu yn yr adran Gweithrediadau Coedwig:

"Mae gan CNC ddyletswydd gyfreithiol i gael gwared â choed llarwydd heintiedig o dan yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol - Symud, sy'n cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

"Bydd y gwaith cwympo yn cael ei wneud mewn pedwar cam, ac rydym yn cadw cynifer â phosib o lwybrau ar agor. Am resymau diogelwch, bydd rhaid cau neu ddargyfeirio rhai llwybrau. Bydd y rhain yn cael eu rhestru ar ein gwefan, ac rydym yn cynghori pobl sy'n bwriadu ymweld â Choedwig Afan i wirio'r rhain cyn eu hymweliad.

"Rwy'n annog ymwelwyr i ufuddhau i’r arwyddion hyn er mwyn eu diogelwch eu hunain a'n contractwyr. Pan fo pobl yn anwybyddu arwyddion cau a dargyfeirio, gallant fynd i mewn i safleoedd gweithredol peryglus, gan orfodi contractwyr i oedi’r gwaith nes bod aelodau'r cyhoedd wedi symud o'r ardal. Gall yr amhariadau hyn arwain at oedi wrth ailagor llwybrau sydd wedi’u heffeithio."

Mae clefyd y llarwydd, neu Phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng sy'n achosi difrod sylweddol a marwolaethau i ystod eang o goed a phlanhigion eraill.

Mae'n ymledu trwy sborau yn yr awyr sy’n mynd o goeden i goeden. Mewn hyrddlaw, gall ledaenu drwy goetir neu goedwig hyd at radiws o bedair milltir. O ganlyniad, mae'n gallu lledaenu'n gyflym iawn, gan ladd coed cyfan o fewn cyfnod byr.

Ar ôl cwblhau'r gwaith cynaeafu, bydd pob llwybr yn cael ei adfer mor gyflym â phosib, a bydd gwelliannau'n cael eu gwneud i rai llwybrau. Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu mwynhau golygfannau newydd sy’n edrych dros yr afon.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cwympo yn ogystal â llwybrau sydd wedi’u dargyfeirio a’u cau, ewch i: https://bit.ly/RhyslynCYM.