Tystiolaeth ar opsiynau ar gyfer newid trawsnewidiol y mae ei angen i gynnal pobl a'r blaned

Mae adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau ystyried potensial newidiadau trawsnewidiol ar gyfer y ffordd rydym yn byw, er mwyn sicrhau y bydd ein hamgylchedd naturiol yn gallu ein cynnal yn y dyfodol.

Mae CNC yn casglu tystiolaeth ar gyfer ei ail Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), sydd i'w gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020.  Yr adroddiad yw sylfaen dystiolaeth genedlaethol Cymru ar gyfer adnoddau naturiol, gwytnwch ecosystemau a lles. 

Caiff ei ddefnyddio i lywio camau gweithredu a phenderfyniadau gan ystod o benderfynwyr ledled Cymru a thrwy lwybrau fel Datganiadau Ardal a'r polisi Adnoddau Naturiol.

Mae adroddiad interim wedi'i gyhoeddi, sy'n amlinellu'r dystiolaeth gan y Cenhedloedd Unedig ar yr argyfyngau natur a hinsawdd cysylltiedig. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn galw am 'newidiadau trawsnewidiol' i gymdeithas a'r economi er mwyn mynd i’r afael â'r argyfyngau hyn. Mae'r adroddiad yn disgrifio rhai enghreifftiau o'r math o gamau y gellid eu cymryd.

Nodir y rhain o dan y penawdau Seilwaith Gwyrdd ac Economi Gylchol.

Mae angen eich help arnom eleni i gasglu’r dystiolaeth ar gyfer Cymru sy’n ymwneud â’r ddau argyfwng hyn a'r opsiynau sydd gennym er mwyn mynd i'r afael â nhw. Mae arnom angen eich barn ar yr hyn rydym wedi'i nodi o ran yr heriau sy'n wynebu Cymru a sut rydym yn mesur cynnydd.

Dywedodd Mike Evans, Pennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth CNC:

"Mae Cymru, fel pob gwlad arall ar draws y byd, yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur.
"Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth i lywio penderfyniadau ynglŷn â sut y gall cymdeithas gynyddu cyflymder a maint y camau gweithredu sy’n wynebu'r ddwy her hyn ac ysgogi newid gan benderfynwyr ledled Cymru ac ar draws pob sector."

Mae newid yn yr hinsawdd, llygredd mewn aer, dyfroedd croyw a moroedd, colli a darnio cynefinoedd oherwydd datblygiadau a newidiadau o ran defnydd tir, dyfodiad ac ymlediad rhywogaethau ymledol, plâu a chlefydau a gofynion cynyddol y boblogaeth ddynol ar adnoddau naturiol er mwyn darparu bwyd, ynni a deunyddiau crai yn cael effeithiau uniongyrchol neu anuniongyrchol ar fioamrywiaeth.

Mae'r Adroddiad Interim yn defnyddio tystiolaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan gynnwys Adroddiad ar Gyflwr Byd Natur 2019, a ganfu fod 41% o rywogaethau'r DU wedi prinhau yn y 50 mlynedd diwethaf a bod 8% o'r rhywogaethau a geir yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu o Brydain Fawr.

Fodd bynnag, gallwn ddal i obeithio. Er enghraifft, mae aderyn y bwn a'r glesyn mawr yn ddwy enghraifft o rywogaethau a achubwyd o drwch blewyn rhag difodiant yng Nghymru, ac mae prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yn gobeithio adfer saith o'r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd yng Nghymru.

Mae costau economaidd amlwg yn gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ond mae i fioamrywiaeth hefyd werth economaidd. Un broblem gyda hyn yw ei fod fel arfer wedi'i guddio o'r golwg ac nad yw'n cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau pwysig.

Mae peidio â gweithredu yn golygu cost economaidd a chymdeithasol enfawr. Mae'r amgylchedd naturiol yn darparu'r holl bethau sydd arnom eu hangen i fyw a ffynnu: yr aer a anadlwn, y dŵr yr ydym yn ei yfed a'r bwyd yr ydym yn ei fwyta - y mae angen peillio llawer ohono gan bryfed - a'r meddyginiaethau yr ydym yn eu cymryd.

Mae defnydd Cymru o adnoddau naturiol o bob rhan o'r byd yn darparu'r deunyddiau crai a’r ynni ar gyfer ein cartrefi a'n diwydiannau. Gall ein hecosystemau hefyd ein hamddiffyn rhag peryglon amgylcheddol, megis llifogydd, erydiad pridd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Maent hefyd yn darparu cyflogaeth ac yn cynnal cymunedau.

Ychwanegodd Mike Evans:

"Mae ein lles ni a lles cenedlaethau'r dyfodol yn dibynnu'n llwyr ar yr adnoddau naturiol a ddefnyddiwn a gwytnwch ecosystemau a'u bioamrywiaeth.
"Yn SoNaRR, mae angen i ni gasglu'r dystiolaeth i lywio camau gweithredu a all fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd a gwrthdroi dirywiad natur. Ac mae arnom angen eich help chi i wneud hyn. "

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig,

Mae newid yn yr hinsawdd yn galw am weithredu ar y cyd ac mae gennym rôl ganolog o ran sicrhau bod gweithredu ar y cyd yn bosibl drwy ein polisi ar adnoddau naturiol, gan gynnwys yr economi gylchol, seilwaith gwyrdd ac economi carbon isel. Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a fydd yn llywio ein penderfyniadau ar y newidiadau trawsnewidiol sydd eu hangen i adeiladu ar y polisïau hyn.
"Os ydym am oresgyn yr argyfyngau presennol yn yr hinsawdd a byd natur, bydd angen i'n hamgylchedd naturiol fod yn y cyflwr gorau posibl fel bod ecosystemau yn gallu gwrthsefyll yr ergydion y maent yn eu hwynebu yn sgil hinsawdd sy'n newid, a'n bod yn manteisio i'r eithaf ar rym amddiffynnol natur y mae ein lles yn dibynnu arno."