Ymgynghoriad ar newid i drwydded SIMEC Aber-wysg

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cael cais gan SIMEC Uskmouth Power Ltd, Casnewydd, i newid ei drwydded amgylcheddol fel rhan o gynlluniau i droi ei bwerdy glo presennol i redeg ar belenni gwastraff.

Ymgynghoriad ar newid i drwydded SIMEC Aber-wysg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cael cais gan SIMEC Uskmouth Power Ltd, Casnewydd, i newid ei drwydded amgylcheddol fel rhan o gynlluniau i droi ei bwerdy glo presennol i redeg ar belenni gwastraff.

Wrth i CNC ddechrau ar ei asesiad o gais y cwmni, mae'n lansio ymgynghoriad gyda chyrff proffesiynol a phobl a busnesau lleol, gan roi cyfle iddynt ddweud eu dweud am y cynlluniau.

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg tan ddydd Gwener 8 Mai ac mae'n gyfle i bobl godi unrhyw bryderon ynghylch y newidiadau arfaethedig.

Byddai’r pelenni gwastraff y mae'r cwmni'n bwriadu eu defnyddio fel tanwydd ar ôl addasu’r safle yn destun manyleb a fydd wedi’i chytuno ymlaen llaw. Byddent wedi'u ffurfio o fathau o wastraff nad ydynt yn beryglus, na ellir eu hailgylchu ac a allai fel arall fynd i safleoedd tirlenwi.

Byddent yn cynnwys gwastraff na ellir ei ailgylchu, tua 50% allan o blastig a 50% allan o ddeunydd fel papur, cardbord a phren.

I newid ffynhonnell ei danwydd, mae ar y cwmni angen i CNC gytuno ar newid i amodau ei drwydded amgylcheddol bresennol.

Dywedodd Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De-ddwyrain Cymru ar gyfer CNC:

"Hyd yma, mae cyfleuster y cwmni yn Nhrefonnen wedi dibynnu ar danwyddau ffosil i gynhyrchu pŵer, ond fel rhan o'i broses addasu gynlluniedig, mae'n bwriadu newid ffynhonnell ei danwydd i danwydd mwy cynaliadwy, sy'n deillio o wastraff.
"Ein gwaith ni nawr yw adolygu cynnig y cwmni a phenderfynu a yw'r addasiad arfaethedig yn debygol o gael effaith negyddol ar y gymuned leol neu'r amgylchedd lleol.
"Mae gwrando ar farn pobl leol yn rhan bwysig o'r broses hon, ac rwy'n annog pobl i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad.
"Dim ond os ydyn ni’n hyderus y gall y cwmni wneud y newidiadau heb effeithio ar bobl leol neu'r amgylchedd y byddwn ni’n caniatáu’r newid i’r drwydded."

Yn anffodus, oherwydd cyngor cyfredol y Llywodraeth ynglŷn â’r Coronafeirws, ni fydd CNC yn gallu cynnal sesiwn galw heibio i'r cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad hwn.

Mae angen i bob sylw gael ei dderbyn yn ysgrifenedig erbyn 8 Mai 2020 at permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk