Ail-asesu cynllun llifogydd yng Nghaerdydd wedi'i gwblhau

Ffotograff hydrefol o Nant Lleucu gyda choed ar lan yr afon a llwybr yn rhedeg drwy'r parc wedi'i orchuddio â dail wedi syrthio

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau ei ail-asesiad o'r perygl llifogydd yn ardal Pen-y-lan yng Nghaerdydd.

Mae dau gam cyntaf Cynllun Llifogydd Nant Lleucu wedi lleihau'r perygl o lifogydd i fwy na 300 o gartrefi a busnesau yn yr ardal.

The rhan olaf y cynllun i leihau'r perygl o lifogydd i'r eiddo sy'n weddill o amgylch  Gerddi Nant Lleucu a Melin y Rhath wedi’i oedo ers Rhagfyr 2017.

Ers yr amser hwnnw, gweithiodd CNC gyda grŵp ymgyrchu Cyfeillion Nant Lleucu ac ym mis Ionawr 2019, cytunodd i ailasesu'r cam terfynol fel darn o waith ar wahân.

Roedd yr ail-asesiad yn ystyried y gwaith a gwblhawyd eisoes i lawr yr afon a'r bont droed newydd a adeiladwyd yng Ngerddi Nant Lleucu gan Gyngor Caerdydd.

Adeiladwyd y bont droed ar ôl asesu'r perygl llifogydd gwreiddiol ond roedd y bont yn wedi’i ystyried yn y gwaith arfaethedig yng Ngerddi Nant Lleucu fel rhan o'r cynllun ehangach.

Mae'r canlyniad cychwynnol yn amcangyfrif y bydd y nifer o gartrefi mewn perygl llifogydd, yn ystod digwyddiad llifogydd â siawns 1.33% (1 mewn 75) o ddigwydd, wedi gostwng i 11. Mae CNC yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda  phartneriaid a'r gymuned i ddod o hyd i ateb i reoli’r perygl llifogydd.

Dywedodd Tim England, Rheolwr Gweithrediadau CNC:

"Yn dilyn ein hail-asesiad, mae cartrefi yn yr ardal dal i fod mewn perygl o lifogydd, a  bydd y risg hwn ond yn cynyddu oherwydd newid yn yr hinsawdd.
"Efallai fod ffordd o fynd i'r afael â'r perygl sy'n weddill fel rhan o'r gwaith y mae Cyngor Caerdydd yn ei ystyried yn Llyn Parc y Rhath, i fyny’r afon o Ben-y-lan.
"Rydym yn trafod hyn gyda Chyngor Caerdydd ac ni fyddwn yn ystyried gwaith pellach yng Ngerddi Nant Lleucu a Melin y Rhath tan i'r trafodaethau hyn gwblhau.
"Byddwn yn hysbysu'r gymuned leol unwaith y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau a pha opsiynau sydd gennym i fynd i'r afael â'r perygl sy'n weddill."

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan CNC www.cyfoethnaturiol.cymru/yrhath