Dros 13,000 o sbesimenau morol di-asgwrn-cefn i gael eu curadu yn Amgueddfa Cymru

sbesimenau morol di-asgwrn-cefn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i guradu dros 13,000 o sbesimenau morol di-asgwrn-cefn a gasglwyd o ddyfroedd arfordirol ac alltraeth o amgylch Cymru gan CNC a'i ragflaenwyr.

Mae'r sbesimenau'n cynnwys sawl rhywogaeth di-asgwrn-cefn a gasglwyd dros y degawd diwethaf yn ystod arolygon monitro, yn bennaf o Ardaloedd Morol Gwarchodedig (AMG). 

Yn y gorffennol, ni chafodd y sbesimenau eu storio i bara dros y tymor hir ac roeddent mewn perygl o gael eu difrodi. Diolch i'r bartneriaeth hon bydd y sbesimenau bellach yn cael eu storio a'u cynnal a’u cadw gan yr amgueddfa mewn ffordd sy’n golygu y byddant yn para ymhell i'r dyfodol. 

Bydd y sbesimenau yn cael eu storio mewn ffiolau o ansawdd uchel a’u catalogio gyda chyfeiriad at ble a phryd y daethpwyd o hyd i'r rhywogaeth.

Bydd y cyfeiriadau hyn yn cael eu defnyddio i wirio adnabyddiaeth y rhywogaethau a gaiff eu casglu yn y dyfodol ac i ddiweddaru enwau rhywogaethau ar gyfer cofnodion y gorffennol. Bydd hyn yn ategu ein dadansoddiad ac yn helpu i gadw golwg ar gymunedau infertebratau a chynefinoedd morol sy'n newid. 

Dywedodd Matthew Green, Uwch Ecolegydd Morol CNC: 

"Mae monitro bywyd morol trwy gasglu samplau a sbesimenau yn un enghraifft yn unig o'r gwaith rydyn ni’n ei wneud i fonitro'r cynefinoedd morol amrywiol yng Nghymru. 
"Drwy fonitro cymunedau morol a'u cynefinoedd, gallwn wneud penderfyniadau gwybodus i sicrhau bod y cynefinoedd hyn yn cael eu cynnal a'u gwella a bod bioamrywiaeth yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 
"Bydd curadu ein casgliadau o rywogaethau morol yn creu adnodd gwych, nid yn unig i ni ein hunain ond i'r gymuned wyddonol ehangach. Rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru ar y prosiect hwn." 

Dywedodd Teresa Darbyshire, Uwch Guradur Morol Amgueddfa Cymru: 

"Mae casgliadau infertebratau morol Amgueddfa Cymru yn rhoi darlun manwl o amrywiaeth forol Cymru nid yn unig yn ôl rhywogaethau ond yn aml ar draws amser a chynefinoedd sy'n newid ac yn ein galluogi i gymharu rhywogaethau o Gymru â rhai o fannau eraill o amgylch y DU a'r byd ehangach. 
"Bydd cael y casgliadau monitro hyn yn cryfhau ein cynrychiolaeth o rywogaethau Cymraeg ac rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod y sbesimenau hyn yn hygyrch ac yn cael eu diogelu ar gyfer dyfodol. Pe bai rhywogaethau newydd yn cael eu darganfod neu enwau’n newid, yna bydd cael y sbesimenau hyn yn golygu y gellir gwirio'r adnabyddiaeth wreiddiol yn gyflym ac yn hawdd." 

Bydd Amgueddfa Cymru yn ymgymryd â'r prosiect ac yn ei reoli, tra bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu cymorth a chyllid ar gyfer y gwaith. 

Disgwylir i'r casgliad gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2020 a bydd yn darparu adnodd gwerthfawr a fydd ar gael yn rhwydd i'r gymuned wyddonol yng Nghymru a thu hwnt.