Menter newydd i achub rhywogaethau sydd dan fygythiad yng Nghymru – gyda llu o gyfleoedd i bobl gymryd rhan

Mae menter newydd – Natur am Byth - i achub rhywogaethau prin ac ailgysylltu cymunedau â natur yn cychwyn yng Nghymru.

Ymhlith y rhywogaethau a fydd yn cael sylw’r prosiect mae’r gardwenynen feinlais, y fôr-wyntyll binc, yr ystlum du, a phlanhigion arctig-alpaidd Eryri.

Yn gyffredinol, bydd y prosiect yn helpu i ail-greu cynefinoedd, adfer tirweddau a newid bywydau drwy gysylltu pobl â natur.

Mae Natur am Byth, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn uno naw elusen amgylcheddol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i fynd i'r afael â'r dirywiad aruthrol mewn bioamrywiaeth – sef Argyfwng Natur Cymru.

Mae nifer o swyddi newydd ar gael dros y mis nesaf i helpu i wneud Natur am Byth yn rhaglen adferiad o bwys yng Nghymru. 

Meddai John Clark, Rheolwr Prosiect Natur am Byth: "Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi dechrau'r broses o recriwtio tîm o ansawdd uchel i gynllunio'r rhaglen eang hon i weithio gyda chymunedau er budd rhywogaethau mwyaf bregus Cymru. 

"Ym mis Chwefror 2023, ar ddiwedd y cyfnod datblygu o 18 mis, byddwn yn cyflwyno ein cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi rhaglen weithredu bedair blynedd rhwng 2023 a 2027.
"Os bydd yn llwyddiannus, dyna pryd y bydd y gwaith cadwraeth ymarferol cyffrous a'r ymgysylltu lleol yn digwydd."

Er mwyn paratoi’r cais llawn ar gyfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y tîm a'r contractwyr newydd yn ymgynghori â chymunedau lleol, yn cynnal arolygon ar rywogaethau ac yn llunio cynlluniau adferiad manwl ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd ar draws llawer o dirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru.

Maen nhw’n bwriadu gweithio gydag amrywiaeth eang o gymunedau i ddarganfod beth sy'n bwysig iddynt, a sut y gall cysylltu â natur gefnogi lles ac adferiad yn sgil Covid.

Ychwanegodd John Clark:

"Rydyn ni’n chwilio am swyddogion prosiect brwdfrydig, sy'n deall pwysigrwydd gwarchod rhywogaethau ac ymwneud â chymunedau a thirfeddianwyr, sef ceidwaid treftadaeth naturiol Cymru."  Os yw hynny at eich dant chi, edrychwch ar dudalen we'r prosiect a dilynwch #naturambyth ar holl gyfryngau cymdeithasol y partneriaid i weld y swyddi gwag."

Y 10 partner yn Natur am Byth yw Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid; Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod; Buglife; Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn; Gwarchod Gloÿnnod Byw; Plantlife; Y Gymdeithas Cadwraeth Forol; Cyfoeth Naturiol Cymru; RSPB Cymru; Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent.

Mae'r rhywogaethau a fydd yn elwa wedi'u nodi gan bartneriaid Natur am Byth, mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr bywyd gwyllt ledled y DU. Y rhain sy’n wynebu'r perygl mwyaf o ddiflannu ac maen nhw’n arbennig o bwysig yng Nghymru.

Yr ardaloedd dan sylw yw Penrhyn Llŷn ac Ynys Môn; Sir Benfro; Gŵyr a Dinas Abertawe; Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr; Bro Morgannwg, Caerdydd a Gwastadeddau Gwent; Eryri; Powys; Wrecsam.  Drwy dargedu'r ardaloedd hyn, gall y prosiect gael yr effaith fwyaf ar achub y rhywogaethau mwyaf prin.

Mae Natur am Byth yn gweithio'n agos gyda phrosiectau adfer rhywogaethau tebyg yn Lloegr a'r Alban – Back from the Brink a Species on the Edge, gan sicrhau bod bywyd gwyllt arbennig Prydain yn adfer ledled y wlad.

Mwy yma yn Natur am byth! Achub rhywogaethau sydd dan fygythiad yng Nghymru