Clirio gwastraff teiars anghyfreithlon oddi ar safle ym Mhort Talbot

Mae oddeutu 10,000 o deiars gwastraff a 1,500 tunnell o deiars darniedig wedi cael eu symud o hen safle Byass Works ym Mhort Talbot.

Diolch i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a ddefnyddiodd bwerau gorfodi yn erbyn y tirfeddiannwr, mae’r gwastraff anghyfreithlon wedi cael ei glirio.

Nid oedd y cwmni a oedd yn gyfrifol am storio’r gwastraff yn bodoli mwyach, felly trodd CNC o’i anfodd at y tirfeddiannwr, gan gyflwyno hysbysiadau cyfreithiol i glirio’r safle.

Yn ôl deddfwriaeth gwastraff, pan fydd cwmni’n methu â chydymffurfio â hysbysiad i glirio gwastraff, gellir dal y tirfeddiannwr yn gyfrifol.

Mae’r cam yma wedi cael gwared â risg tân sylweddol ac wedi arbed trethdalwyr rhag gorfod talu bil o £350,000 i glirio’r safle.

Yn ôl Jonathan Willington, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Gwastraff y De Orllewin yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r mater hwn wedi bod yn un cymhleth i’w ddatrys, ond mae wedi dod i ddiweddglo diogel bellach. 
“Roedd y gwastraff anghyfreithlon yn peri risg tân sylweddol i’r ardal oddi amgylch, sy’n cynnwys traffordd yr M4, ysgolion ac ysbyty, yn ogystal ag ardaloedd preswyl. 
“Mae yna bwysau enfawr wedi bod ar i CNC gymryd camau i gael gwared â’r gwastraff ein hunain, ond dydyn ni ddim eisiau i droseddwyr gwastraff feddwl ein bod yma i glirio eu llanast nhw. Fe wnaethon ni sefyll yn gadarn a defnyddio ein dulliau gorfodi i wneud yn siŵr fod y teiars gwastraff yn cael eu clirio heb i drethdalwyr Cymru orfod talu’r bil. 
“Rhaid i mi hefyd ganmol y tirfeddiannwr, a ddioddefodd ergyd ariannol enfawr i glirio’r safle.” 

Cafodd y warws, a oedd yn llawn teiars a darnau teiars wedi’u storio’n anghyfreithlon, ei ddarganfod gan swyddogion CNC yn 2014. 

Cafodd y cwmni, a gâi ei reoli gan Dennis Egan, hysbysiad i glirio’r gwastraff. Fodd bynnag, fe gafodd y cwmni ei ddirwyn i ben, ac er bod Egan wedi’i anfon i’r carchar am beidio â chlirio’r gwastraff, parhaodd y gwastraff i fod ar y safle. 

Er mwyn lleihau’r risg tân, camodd CNC i’r adwy a defnyddio’i bwerau argyfwng, gan symud y gwastraff a’i bentyrru y tu allan i’r warws.

Ym mis Gorffennaf 2016 bu tân ar y safle. Cynyddodd hyn y pwysau ar CNC i weithredu.

Nid oedd gan y tirfeddianwyr unrhyw ddewis arall, felly fe wnaethant gytuno i glirio’r safle.

Caiff yr arfer o storio gwastraff ei rheoleiddio’n llym er mwyn osgoi risg llygredd a thân.

Os ydych yn credu bod rhywun yn storio gwastraff yn anghyfreithlon, rhowch wybod i CNC ar 0300 065 3000.

I gael rhagor o wybodaeth am reolau a rheoliadau’n ymwneud â storio gwastraff, ewch i www.cyfoethnaturiol.cymru.