Cynllun amddiffyn rhag llifogydd wedi’i gwblhau yng Nghasnewydd a fydd yn diogelu 600 o gartrefi

Mae’r gwaith adeiladu wedi dod i ben ar gynllun amddiffyn rhag llifogydd gwerth £14 miliwn yng Nghasnewydd, gan ddiogelu mwy na 660 o gartrefi rhag y perygl cynyddol o lifogydd.

Dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), cyflawnwyd cynllun Rheoli Llifogydd Crindau, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, i amddiffyn cartrefi yn ardal Crindau rhag y perygl llifogydd a berir gan Afon Wysg gerllaw.

Mae gan ardal Crindau hanes hir o lifogydd, gyda'r ardal yn dueddol o ddioddef llifogydd llanwol.

Roedd yr amddiffynfeydd dros-dro cynharach mewn cyflwr gwael, ac yn 2014 cymeradwyodd Llywodraeth Cymru gyllid i CNC ddarparu cynllun newydd.

Cafodd waliau pentyrru dur hir eu gyrru i mewn i'r ddaear i greu argloddiau newydd ar hyd darn 2.6km o'r afon, rhwng Pont Wysg Rheilffordd y Great Western a'r M4.

Bu'r contractwyr Galliford Try, Walters, Alun Griffiths a Laurel Landscapes yn gweithio ar y prosiect.

Cynlluniwyd y cynllun gan gadw’r newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd a ragwelir yn lefel y môr mewn cof, gan ganiatáu iddo gael ei addasu yn ôl yr angen yn y dyfodol.

Fel rhan o'r prosiect, gwnaed nifer o welliannau eraill er budd y gymuned – gan gynnwys llwybrau troed newydd, llwybrau beicio, mannau eistedd cyhoeddus ac ardal amwynder newydd ar Albany Street, sy'n cynnwys coed a phlanhigfeydd newydd; ardaloedd wedi'u codi a cherrig bloc a llwybr ffitrwydd ar gyfer plant bach.

Mewn mannau eraill yng Nghasnewydd, mae cynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer cynllun arall ar Afon Wysg i ddiogelu mwy na 2,000 o eiddo yn ardal Llyswyry.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Rwy'n falch iawn o ddweud bod cynllun Crindau, a fydd yn rhoi llawer iawn o sicrwydd a diogelwch i'r rhai yn yr ardal gyfagos, wedi dod i ben.
"Roedd y llifogydd a welwyd fis diwethaf yn dangos yn glir inni pam mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i liniaru a rheoli'r perygl o lifogydd a achosir i gymunedau ledled Cymru. Rwyf hefyd yn falch o nodi bod cynllun Crindau eisoes wedi helpu i amddiffyn y gymuned gyfagos rhag stormydd a'r glawiad uchaf erioed.
"Mae prosiectau fel y rhain yn rhan allweddol o'n Strategaeth llifogydd wrth inni wynebu'r perygl cynyddol a achosir gan yr argyfwng hinsawdd.
"Rhwng 2016 a 2021, rydym wedi buddsoddi £390miliwn mewn cynlluniau a phrosiectau i reoli perygl llifogydd, gan leihau'r risg i fwy na 45,000 o eiddo ledled y wlad.
"Edrychwn ymlaen at gwblhau cynlluniau tebyg i'r rhai yng Nghrindau ledled Cymru yn y dyfodol, a hoffem ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru a chontractwyr am eu gwaith ar y safle."

Dywedodd Tim England, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Yn ddiweddar iawn, gwelsom unwaith eto pa mor ddinistriol y gall llifogydd fod, wrth i Storm Christoph – yr ail storm a enwyd ers y Nadolig – ddinistrio ardaloedd ar draws y wlad. Gwyddom ei bod yn debygol y byddwn yn gweld y mathau hyn o ddigwyddiadau yn amlach oherwydd y newid yn yr hinsawdd, a gobeithiwn y bydd cwblhau'r cynllun hwn yng Nghrindau yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i breswylwyr.
"Mae wedi bod yn waith cymhleth i'w reoli gyda nifer fawr o dirfeddianwyr yn rhan o'r gwaith, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu a chaniatáu i'r cynllun lwyddo. Rhaid diolch hefyd i'r gymuned ei hunan a Chyngor Dinas Casnewydd am ei amynedd a'i gefnogaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
"Gall cynlluniau fel hyn wneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd, ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni i gyd yn parhau i gymryd ein camau personol ein hunain i gadw'n ddiogel.
"Dylai darganfod a yw eich cartref mewn perygl fod y cam cyntaf, yna edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael rhybuddion llifogydd am ddim. Ewch i wefan CNC, neu ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188, i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch baratoi."

Gall aelodau o'r cyhoedd wirio perygl llifogydd eu hardal drwy chwyddo eu lleoliad ar fap perygl llifogydd CNC.

Mae'r map hefyd yn amlygu'r ardaloedd y mae'r gwasanaeth rhybuddion llifogydd yn ymdrin â nhw am ddim.