Newid i reolaeth Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr

twyni tywod Merthyr Mawr

Mae prydles Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i reoli un o systemau twyni mwyaf eiconig Cymru yn dod i ben.

Bydd y cyfrifoldeb am Warchodfa Natur Genedlaethol Twyni Merthyr Mawr yn dychwelyd i Ystâd Merthyr Mawr fel tirfeddiannwr pan ddaw prydles reoli CNC i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

Wedi'i leoli ar arfordir De Cymru ger Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r warchodfa yn gartref i'r twyn uchaf yng Nghymru, sef y Big Dipper, ac mae'n gynefin i fywyd gwyllt prin.

Mae CNC yn gweithio ar Gytundeb Gwarchodfa Natur gyda'r Ystâd ar gyfer rheoli nodweddion arbennig y safle yn y dyfodol ac i gynnal ei statws Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Dywedodd Michael Evans, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru CNC:

"Mae Merthyr Mawr yn hafan i fywyd gwyllt. Er bod ein prydles i reoli cadwraeth y safle gwarchodedig hwn wedi dod i ben, mae CNC ac Ystâd Merthyr Mawr yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiogelu'r cynefin arbennig hwn ar gyfer pryfed, ffyngau a phlanhigion.
"Mae'r system twyni yma ynghyd â Chynffig yn safle cadwraeth allweddol yng Nghymru sy'n cwmpasu ardal sylweddol – mae Merthyr Mawr yn unig yn cwmpasu 840 erw. Mae yna hefyd laswelltiroedd, morfeydd heli, traeth a choedwigoedd o fewn y warchodfa - cynefinoedd pwysig a fydd yn parhau i gael eu gwarchod.
"Ein nod yw sefydlu Cytundeb Gwarchodfa Natur gyda'r Ystâd i ddechrau trosglwyddo cyfrifoldeb rheoli yn ôl iddynt a sicrhau diogelwch hirdymor y safle."

Bydd CNC hefyd yn parhau i weithio ym Merthyr Mawr drwy brosiect adfywio Twyni Byw.

Bydd gwaith y prosiect ym Merthyr Mawr yn cynnwys creu rhic yn y twyni ar hyd y traeth, tynnu llystyfiant o dopiau’r twyni a chrafu a gostwng lefelau rhai o’r llaciau. Bydd y gwaith yn rhoi hwb i gynefin tywod noeth sydd mor hanfodol i oroesiad rhai o blanhigion a phryfetach prinnaf sydd yma yng Nghymru.