Dirwyo ffermwr o Sir Gaerfyrddin am lygru afon yn gyson

Elifiant Fferm Cwrt yn yr afon

Mae ffermwr o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ddedfrydu am lygru afon yn gyson ag elifiant fferm.

Plediodd David Benjamin Huw Marks, o Fferm Cwrt, Pentrecwrt, yn euog i droseddau o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 pan ymddangosodd gerbron y llys ar 11 Medi 2020.

Cafodd ei ddedfrydu heddiw (dydd Iau 15 Hydref) yn Llys yr Ynadon, Llanelli a gorchmynnwyd iddo dalu cyfanswm o £12,497.10 - dirwy o £6,000, £6,327.10 costau a £170 o ordal dioddefwyr.

Dywedodd Ioan Williams, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):

"Mae rheoliadau ar waith yng Nghymru i ddiogelu ein tir a'n dŵr, a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n gyfrifol am eu cynnal.
"Rydym yn cefnogi ffermwyr gymaint â phosibl i fynd i'r afael â diffyg cydymffurfio â
rheoliadau drwy gynnig cyngor a chymorth ymarferol ar sut y gallant leihau eu risg o achosi llygredd.
"Pan fydd rhywbeth yn bygwth diogelwch ein hadnoddau naturiol, neu fod tystiolaeth gymhellol bod rheoliadau'n cael eu diystyru'n fwriadol, ni fyddwn yn petruso cyn cymryd camau gorfodi."

Roedd Marks wedi methu â gwagio tanc silwair yn rheolaidd gan achosi i'r tanc orlifo a draenio i Afon Gwr-fach ar dri achlysur gwahanol rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Rhagfyr 2018 (18 Rhagfyr 2017, 1 Chwefror 2018 ac 11 Rhagfyr 2018).

Daethpwyd o hyd i ffwng carthion ar hyd Afon Gwr-fach o Fferm Cwrt i’w chydlifiad ag Afon Teifi, sy'n mesur 0.75km. Roedd y ffwng wedi tyfu o ganlyniad i elifiant silwair yn rhedeg i mewn i'r afon.

Byddai'r llygredd parhaus yn Afon Gwr-fach wedi bod yn wenwynig neu gallai fod wedi niweidio pysgod, mannau silio a bwyd pysgod.

Roedd yn amlwg nad oedd perchnogion y fferm wedi cadw at unrhyw rybuddion na chyngor blaenorol a roddwyd gan swyddogion CNC. Roeddent wedi caniatáu i lygredd y cwrs dŵr barhau.

Ychwanegodd Ioan Williams:

"Mae CNC yn gweithio'n agos gyda'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â'r sector amaethyddol i leihau'r risg y bydd llygredd amaethyddol yn digwydd. Cydlynir y gwaith hwn gan is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru. Mae gwelliannau'n cael eu gwneud ac mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn gweithredu'n gyfrifol yn eu harferion rheoli gwastraff a maetholion.

"Rydym yn cydnabod bod pethau weithiau'n mynd o chwith, ond rydym yn annog ffermwyr i roi gwybod i ni yn CNC ar unwaith drwy ffonio 0300 065 3000 os ydynt yn gwybod eu bod wedi achosi llygredd. Po gyntaf y cawn wybod amdano, gyntaf yn y byd y gallwn weithio gyda nhw i geisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd."

I roi gwybod am ddigwyddiad llygredd, ffoniwch CNC ar 0300 065 3000.

I gael rhagor o gyngor ar arferion amaethyddol diogel a rheoleiddio ewch i'r adran amaethyddiaeth ar wefan CNC.