CNC yn rhoi diweddariad i un o Bwyllgorau Llywodraeth Cymru
Yn dilyn ei sesiwn graffu flynyddol ym Mhwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhoi diweddariad ar ei sefyllfa ariannol.
Yn y flwyddyn ariannol newydd (25/26) bydd cynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn rhannol yn sgil newidiadau yng nghyllid y DU.
Bydd rhywfaint o'r adnodd hwn yn cael ei ddyrannu i weithgareddau penodol, gyda thua £4m yn cael ei gyfeirio at feysydd buddsoddi â blaenoriaeth – dŵr, bioamrywiaeth, monitro tystiolaeth a rheoli perygl llifogydd.
Mae CNC yn nesáu at y camau olaf yn ei broses o drawsnewid, gan sicrhau bod y sefydliad yn canolbwyntio ar gyflawni’r effaith fwyaf posib ar gyfer pobl a byd natur a’i fod ar y trywydd iawn i gyflawni’r arbedion ariannol a amlinellwyd yn flaenorol. Bydd y broses wedi’i rhoi ar waith yn llwyr erbyn 1 Ebrill.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’r gwaith ailstrwythuro hwn o dan y broses Achos dros Newid wedi cwtogi tua 200 o swyddi—llawer ohonynt yn swyddi gwag—gan greu gweithlu mwy gwydn a chynaliadwy.
Disgwylir y bydd nifer fach o aelodau staff yn gadael trwy ddiswyddiadau gwirfoddol, gyda mwyafrif y gweithwyr yr effeithir arnynt yn sicrhau rolau amgen o fewn y sefydliad.
Wrth symud ymlaen, bydd CNC yn mynd ati i recriwtio ar gyfer swyddi a hynny’n caniatáu ailffocysu ar gyflawni gweithgareddau a gwasanaethau allweddol megis cefnogi adferiad byd natur, mynd i'r afael â newid hinsawdd, a lleihau llygredd.
Dywedodd Ceri Davies, prif weithredwr dros dro CNC:
“Ar ôl cwtogi ar rywfaint o wasanaethau penodol er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, rydym bellach mewn sefyllfa well i barhau â’n rôl arweiniol o ran diogelu adnoddau naturiol Cymru, gan ysgogi newid cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Hoffwn ddiolch i’n staff am eu gwaith caled, eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb drwy gydol y broses hon.
“Ni fydd y cyllid ychwanegol hwn yn newid ein cynlluniau Achos dros Newid, ond bydd yn cael ei glustnodi ar gyfer meysydd yr ydym wedi’u nodi fel blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi, felly ein nod yw cyflawni’r uchelgeisiau a nodir yn ein Cynllun Corfforaethol.
“Gan ein bod bellach yn recriwtio’n agored ar gyfer rolau, rydym wedi ymrwymo i greu sefydliad cryfach, mwy ystwyth, sy’n gallu wynebu heriau’r presennol a pharatoi ar gyfer cyfleoedd y dyfodol.
“Ein blaenoriaeth yw creu gweithlu sefydlog a gwydn, gan osgoi cylchoedd o ehangu a chrebachu cyflym.
“Felly, bydd opsiynau fel caffael allanol, grantiau, partneriaethau, lleoliadau, prentisiaethau a staff dros dro yn cael eu hystyried yn hytrach na staff parhaol o anghenraid.
“Byddwn yn croesawu cydweithwyr newydd i gryfhau ein galluoedd, cynyddu nifer y contractau rydym yn eu gosod, ac ehangu ein cyfleoedd am brentisiaethau, gan helpu’r genhedlaeth nesaf i ddatblygu eu sgiliau.
“Nid yw newid byth yn hawdd, ond yn aml mae’n angenrheidiol. Rydym wedi gwneud y penderfyniadau anodd, a nawr yn symud ymlaen gyda phwrpas a hyder.
“Mae ein hymrwymiad yn parhau’n ddiwyro – gwasanaethu pobl Cymru a sicrhau Cymru ble mae byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.”