Cyflwr Golofn Rodney yn waeth na'r disgwyl yn golygu bod angen ailadeiladu yn hytrach nag atgyweirio

Colofn Rodney â scaffaldiau ar ben y bryn

Canfuwyd bod cyflwr Colofn Rodney - cofeb boblogaidd yng Nghanolbarth Cymru – yn rhy ansefydlog i gael ei hatgyweirio, ac yn lle hynny bydd angen ei hailadeiladu.

Roedd contractwyr a oedd yn gweithio ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dechrau ar y gwaith o atgyweirio'r tirnod lleol yn gynharach eleni ond canfuwyd bod cyflwr y piler yn llawer mwy ansefydlog nag yr oedd yr arolygon cyntaf wedi'i ddangos.

Mae CNC wedi penderfynu mai'r ffordd fwyaf priodol o weithredu yw datgymalu ac ailadeiladu'r strwythur.

Adeilad rhestredig gradd II* yw Colofn Rodney ac mae hefyd yn Heneb Gofrestredig, o ystyried ei lleoliad o fewn ffiniau bryngaer gofrestredig o'r Oes Haearn.

Mae CNC wedi bod yn ymgynghori â CADW - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru drwy gydol y prosiect a byddant yn parhau i wneud hynny, er mwyn sicrhau y bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystyriol a sensitif. Cymerir gofal mawr i sicrhau bod yr heneb yn cael ei hailadeiladu mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r strwythur gwreiddiol yn ffyddlon.

Roedd cyflwr y strwythur mor ansefydlog bod angen stopio gwaith ar y safle er mwyn peidio â pheryglu diogelwch gweithwyr ac i ganiatáu i gynlluniau newydd gael eu dylunio.

Dywedodd Ruairi Barry, Rheolwr Prosiect CNC:
“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw Colofn Rodney i'r cymunedau o'i chwmpas, ac y gallai rhai fod yn anhapus â’r syniad o’i thynnu i lawr a’i hailadeiladu.
“Daethom i’r penderfyniad hwn yn unig ar ôl i ymchwiliadau arfaethedig roi gwell dealltwriaeth inni o'r problemau strwythurol mae'r golofn yn eu hwynebu. Mae ei chyflwr wedi dirywio i’r fath raddau fel ei bod yn amhosibl ei hatgyweirio.
“Fel cofadail restredig, mae’r piler wedi’i ddiogelu’n hynod o dda ac felly ni ellir mynd ati’n syml i’w ddymchwel. Byddwn yn cadw at ofynion gwarchod treftadaeth, a byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ailadeiladu mewn modd ystyriol a sensitif.”
Dywedodd Bill Lee, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Save Rodney's Pillar (SRP):
"Mae CNC wedi diweddaru ein hymddiriedolwyr ar ganfyddiadau'r arolwg diweddar, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda nhw i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn i sicrhau bod y piler yn cael ei hailadeiladu a'i bod yno am genedlaethau lawer i ddod.
"Rydyn ni eisiau i'r piler barhau i fod yn lle poblogaidd i ymweld ag ef ac i fod yn ddarn pwysig o hanes lleol."

Mae tîm arbenigol CNC yn gweithio gyda CADW a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i'r ffordd orau o wneud y gwaith angenrheidiol. Bydd y golofn yn parhau i fod ar gau i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Ni ellir cynnig amserlen ar gyfer cwblhau'r gwaith ar hyn o bryd, gan fod y cynlluniau diwygiedig yn dal i gael eu paratoi.