Gweithio mewn partneriaeth i wella ansawdd dŵr dalgylch Afon Clwyd
Mae prosiect partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a choleg amaethyddol yn Sir Ddinbych yn bwriadu cymryd camau breision i wella ansawdd dŵr yn yr ardal.
Mae CNC a chydweithwyr yng Ngholeg Cambria wedi bod yn gweithio ar y cyd i osod hyd at 795m o ffensys newydd ar hyd cwrs dŵr ar Fferm Llysfasi er mwyn atal da byw rhag mynd i mewn i’r dŵr ac achosi llygredd. Mae gosod pwmp solar newydd a chwe chafn dŵr hefyd wedi darparu cyflenwad dŵr amgen.
Bydd y gwaith pwysig hwn, a wnaed ym mis Rhagfyr 2022, yn sicrhau bod llai o faetholion o ddŵr ffo gwrtaith a gwastraff anifeiliaid, yn cyrraedd y cwrs dŵr yn yr ardal hon ac yn lleihau’r risg a achosir gan waddod wrth i lan yr afon erydu.
Trwy helpu i leihau llygredd yn y rhan hon o Afon Clwyd, mae’r cydweithio hwn hefyd yn dangos sut y gall gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol helpu i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Roedd y gwaith hwn yn rhan o bedwar cynllun o fewn dalgylch Afon Clwyd a ariannwyd yn 2022/23 drwy Raglen Gyfalaf Argyfyngau Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Nod y cynlluniau yw atal llygredd gwasgaredig a lleihau lefelau’r maetholion sy’n gollwng i gyrsiau dŵr o fewn y dalgylch.
Meddai Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-ddwyrain CNC:
“Rydyn ni’n gwybod nad yw ein hafonydd a’n dyfrffyrdd yn y cyflwr ydyn ni eisiau iddynt fod, gan fod gormod o lygredd o ffynonellau gor-gyfarwydd fel carthion, ffermio a diwydiant yn cael effaith niweidiol arnynt.
“Mae ein gwaith gyda Choleg Cambria ar Fferm Llysfasi yn dangos sut y gall gweithio mewn partneriaeth nid yn unig wella ansawdd dŵr yn Nyffryn Clwyd ond hefyd helpu i gynnal adferiad byd natur.
“Rydym eisoes yn gweld byd natur yn adennill glannau’r afonydd a’u cynefinoedd. Mae cadw da byw o lannau'r afon hefyd yn lleihau'r risg o gwympiadau.
“Rydym yn gobeithio y bydd llwyddiant y bartneriaeth hon gyda Choleg Cambria ar Fferm Llysfasi yn ysgogi prosiectau cydweithio llwyddiannus eraill, gan ein helpu i gyflawni’r dyfroedd glân y mae Cymru yn ei haeddu.”
Meddai Dewi Jones, Rheolwr Fferm Coleg Cambria yn Llysfasi:
“Trwy weithio mewn partneriaeth, rydym yn gallu cyflawni mwy, ac mae’r prosiect hwn wedi bod yn enghraifft ragorol o hynny. Mae gennym yr un targedau o allu cynhyrchu bwyd Cymreig o safon uchel yn gynaliadwy ac ar yr un pryd rhoi sylw dyledus i'r amgylchedd y mae’n rhaid i ni i gyd fyw ynddo a'i fwynhau.
“Er y gallai da byw bori’n uniongyrchol o ffynhonnell ddŵr naturiol gael ei ystyried yn rhywbeth gwbl naturiol, yn ogystal â gweithgareddau dynol eraill, rydym yn cydnabod y gall ein systemau ffermio weithiau fod yn ffactor sy’n cyfrannu at heriau ansawdd dŵr. Rhaid inni fod yn ymwybodol o hyn ac yna gweithio i ddarparu atebion.
“Yn ogystal â defnyddio ffensys i gadw anifeiliaid o gyrsiau dŵr, yn y dyfodol rwy’n credu y bydd technoleg yn dod yn fwy fforddiadwy ac y bydd yn bosibl ei ddefnyddio ar fferm i ddarparu’r un ateb.
“Hoffwn ddiolch i dîm CNC am eu gwaith ymroddedig yn y maes hwn ac edrychaf ymlaen at weld mwy o gydweithio yn y dyfodol.”
Sefydlwyd Fforwm Dalgylch Afon Clwyd hefyd yn 2020 i helpu i nodi cyfleoedd a fydd yn sicrhau manteision lluosog i’r amgylchedd, cymunedau lleol a chyfrannu at ffermio cynaliadwy.